Cyflwynwyd y Camau Unioni Cymunedol fel rhan o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014, er mwyn rhoi mwy o lais i ddioddefwyr trosedd lefel isel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol o ran sut yr ymdrinnir â'u digwyddiad.
Beth ydy'r Camau Unioni Cymunedol?
Camau Unioni Cymunedol ydy rhestr o opsiynau posibl y gellid eu defnyddio wrth ymdrin â throseddwr, sydd wedi cyfaddef eu rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol neu drosedd lefel isel.
Pa bryd y gellir defnyddio Camau Unioni Cymunedol?
Gellir defnyddio'r Camau Unioni Cymunedol pan mae troseddwr yn cyfaddef eu rhan yn y digwyddiad neu'r drosedd a'u bod yn barod i gael eu hymdrin drwy gamau unioni cymunedol neu rybudd amodol. Rhaid i'r math o drosedd a hanes blaenorol y troseddwr fod yn addas. Mae hyn yn benderfyniad y swyddog heddlu sy'n ymdrin â'ch digwyddiad.
Mae camau unioni cymunedol a rhybuddio amodol yn ddatrysiadau tu allan i'r llys lle gall troseddwr gytuno i amodau penodol er mwyn unioni'r niwed a achoswyd a/neu atal unrhyw droseddu yn y dyfodol. Camau unioni cymunedol ydy cytundeb anffurfiol rhwng dioddefwr a throseddwr ac nid ydy'r heddlu'n gorfodi'r amodau a gytunir arnynt. Rhybudd amodol ydy datrysiad ffurfiol tu allan i'r llys. Os methir glynu at yr amodau a gytunwyd, gall hyn arwain at erlyniad ffurfiol am y mater gwreiddiol.
Rwyf yn ddioddefwr. Sut wyf yn dweud fy nweud?
Gofynnir am eich barn ar ba opsiynau, o'r Camau Unioni Cymunedol, rydych yn ei feddwl byddai fwyaf priodol i'r troseddwr yn eich digwyddiad. Gwnaiff y swyddog heddlu sy'n ymdrin â'ch digwyddiad wneud y penderfyniad terfynol ynghylch yr hyn sy'n briodol gan sicrhau ei fod yn gymesur i'r drosedd ac y bydd yn cael effaith gadarnhaol arnoch chi, fel y dioddefwr, a'r troseddwr.
Opsiynau Camau Unioni Cymunedol
Y rhestr isod ydy'r opsiynau Camau Unioni Cymunedol sydd ar gael ar hyn o bryd yn Ngogledd Cymru. Bydd y swyddog sy'n ymdrin â'ch digwyddiad hwn yn gallu rhoi manylion pellach i chi, gan gynnwys argaeledd yn eich ardal.
- Ymddiheuriad
Wyneb yn wyneb – Bydd y troseddwr yn cyfarfod gyda'r dioddefwr ac yn ymddiheuro am eu gweithrediadau.
Ysgrifenedig – Os nad ydy'r dioddefwr yn teimlo gallent weld y troseddwr wyneb yn wyneb, gall y troseddwr ysgrifennu ymddiheuriad atynt.
2. Cytuno
Cytundeb Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – Mae'r Cytundeb Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn gytundeb ysgrifenedig rhwng y troseddwr ac asiantaeth leol wedi'i llunio i atal unigolyn rhag ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
Cytundeb Rhianta – Mae gan y Cytundeb Rhianta yr un egwyddor a'r Cytundeb Ymddygiad Gwrthgymdeithasol lle mae cytundeb o ran ymddygiad y troseddwr yn y dyfodol. Mae'r cytundeb yn cael ei lofnodi gan riant neu warcheidwad oherwydd bod y troseddwr o dan 18 oed.
3. Cyfryngu – Mae trydydd parti yn dod a'r dioddefwr a'r troseddwr at ei gilydd er mwyn trafod eu problemau a chyrraedd cytundeb cyffredin. Er enghraifft, datrys anghydfod parhaus mewn cymdogaeth.
4. Talu Iawndal – Gwnaiff y troseddwr ad-dalu'r dioddefwr am yr eitemau a ddwynwyd neu'r difrod a achoswyd i'w heiddo.
5. Gwneud iawn
Gwneud iawn â'r gymuned – Rhaid i'r troseddwr wneud gwaith di-dâl yn y gymuned leol. Un enghraifft ydy i'r troseddwr dynnu graffiti o wal gyhoeddus.
Gwneud iawn â'r dioddefwr – Mae'r troseddwr yn trwsio'r difrod maent wedi'i achosi, er enghraifft achosi difrod i ffens ardd drwy gicio panel. Rhaid i'r troseddwr ddefnyddio eu harian eu hunain i drwsio'r ffens.
6. Gweithgarwch Strwythuredig – Os ymddengys fod gan y troseddwr broblemau sy'n bodoli eisoes fel camddefnyddio sylweddau neu broblemau ymddygiad, gellir rhoi'r troseddwr ar raglen ymyrraeth er mwyn ceisio datrys eu problemau sydd eisoes yn bodoli.