Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Heddlu Gogledd Cymru yn cynnwys sawl corff cyhoeddus o bob rhan o Ogledd Cymru

Ein Perwyl
Normaleiddio a chynghori ar gydraddoldeb ar draws Gogledd Cymru drwy amcanion a rennir, cydweithio a hwyluso.
Er mwyn cyflawni'r perwyl hwn, bydd y Rhwydwaith yn:
- Trafod a rhannu arfer gorau cydraddoldeb mewn amgylchfyd creadigol a chynorthwyol.
- Ystyried gweithio mewn partneriaeth / amlasiantaeth ar faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth er mwyn cynorthwyo cyflawni cydraddoldeb.
- Cydweithio er mwyn cynorthwyo a datblygu rôl staff gan arwain ar faterion cydraddoldeb a rhannu arfer gorau, gwybodaeth, sgiliau a gwybodaeth.
- Cynyddu cyfleoedd er mwyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus a digwyddiadau ymgysylltu ar y cyd.
- Nodi cyfleoedd er mwyn rhannu arfer gorau mewn hyfforddiant a datblygiad sy'n berthnasol i gydraddoldeb a hawliau dynol.
- Defnyddio sgiliau o fewn y grŵp er mwyn hwyluso gweithdai ar faterion cydraddoldeb a darparu astudiaethau achos er budd aelodau eraill o'r grŵp.
- Datblygu dealltwriaeth a gwybodaeth cydraddoldeb drwy drefnu diweddariadau gan siaradwyr perthnasol drwy wahoddiad ac fel y cytunwyd gan y Rhwydwaith.
- Rhoi llais yng Nghymru ar gyfer Swyddogion Cydraddoldeb yng Ngogledd Cymru, er enghraifft gwneud sylwadau neu argymhellion i'r CCHD, neu Lywodraeth Cymru.
- Dylanwadu ar waith Byrddau Gwasanaethau Lleol yng Ngogledd Cymru o ran datblygu gweledigaeth strategol ar gyfer Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
- Ymgynghori hefo Grwpiau Cydraddoldeb eraill, sefydliadau lleol a sefydliadau sector cyhoeddus cyfagos fel y bo'n briodol.