Pwyllgor Archwilio ar y Cyd
Fel rhan o’r Cod Ymarfer Ariannol, mae angen i ni sefydlu Pwyllgor Archwilio annibynnol er mwyn darparu sicrwydd annibynnol i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a’r Prif Gwnstabl ar ddigonolrwydd y fframwaith rheoli risg, yr amgylchedd rheoli mewnol a chywirdeb y prosesau riportio ariannol a llywodraethu blynyddol.
Pwyllgor Arcwhilio (gwelwch agenda, cyfnodion a papurau atodol isod)
2023 | 2022 | 2021 |
---|---|---|
28 Mawrth 2023 | 28 Mawrth 2022 | 30 Mawrth 2021 |
27 Gorffennaf 2023 | 28 Gorffennaf 2022 | 4 Awst 2021 |
28 Medi 2023 | 10 Hydref 2022 | 6 Hydref 2021 |
7 Rhagfyr 2023 | 8 Rhagfyr 2022 | 8 Rhagfyr 2021 |
Aelodau'r Pwyllgor
Aelodau annibynnol y Pwyllgor o 1 Ebrill 2021 ymlaen, sef:
- Rachel E Barber (Cadeirydd)
- John Cunliffe
- Sarah Davies
- Julie Perkins
- Allan Rainford
Os hoffech gysylltu ac unrhyw aelod o'r Cyd Bwyllgor Archwilio, cysylltwch a Swyddfa y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar OPCC@heddlu-gogledd-cymru.police.uk neu ffoniwch 01492 805486.
Bwrdd Cyd Lywodraethu
Diben y cyd-fwrdd llywodraethu yw goruchwylio trefniadau llywodraethu corfforaethol y Comisiynydd Heddlu a throsedd a Heddlu Gogledd Cymru, a chofnodi'r trefniadau hyn yn barhaus.
Cadeirir y Bwrdd gan y Prif Swyddog Cyllid ac mae'r aelodau'n cynnwys y Prif Swyddog Gweithredol, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau, Pennaeth Cyllid, Cyfrifydd Rheoli Cyllid, Prif Swyddog Gwybodaeth, Pennaeth Safonau Gwybodaeth a Chydymffurfiaeth, Tîm Grym Archwilio ac Arolygu, aelod o'r Cyd-Bwyllgor Archwilio ac aelod o'r Tîm Archwilio Mewnol.
Ataliwyd y Bwrdd Cyd Llywodraethau ar 13 Awst 2019 gyda'r bwriad o drosglwyddo'r gwaith i'r Bwrdd Sicrwydd, ond yn dilyn adolygiad, caiff ei ail adfer o fis Mawrth 2020 ymlaen.
Gellir gweld cylch gorchwyl llawn y Bwrdd yma.