Skip to main content

Comisiynu


Grŵp Comisiynu ar y Cyd Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) Gogledd Cymru / Comisiynydd Heddlu a Throsedd –Prosiect Ymyrraeth Gynnar gyda phlant a phobl ifanc

Yn unol â Strategaeth Genedlaethol 2022-2026 VAWDASV Llywodraeth Cymru a Strategaeth Bwrdd Bregusrwydd a Chamfanteisio Gogledd Cymru, mae dau faes blaenoriaeth yn ymdrin â throseddau cam-drin domestig a thrais rhywiol ac ymyrraeth ac atal cynnar.

Yn dilyn trafodaethau ac adolygiad o ddarpariaethau presennol ledled rhanbarthau, ar hyn o bryd mae bylchau mewn ymyrraeth ac atal cynnar gyda phlant a phobl iau.

Rydym yn edrych ar gomisiynu prosiect gan ganolbwyntio ar blant a phobl ifanc ac atal eu cysylltiadau yn y dyfodol yn VAWDASV, un ai fel dioddefwyr neu droseddwyr. Gellir cyflwyno'r prosiect mewn ysgolion, sefydliadau addysgiadol eraill, neu leoliadau eraill, gan weithio gyda'r rhai hynny sy'n anoddach cyrraedd atynt.

Mae'r arian sydd ar gael ar gyfer y prosiect hwn yn £50,000.00.

Os ydych yn bwriadu cyflwyno'r prosiect o fewn lleoliadau addysg, cadarnhewch sut mae eich prosiect yn ategu Cwricwlwm Perthynas a Rhywioldeb Llywodraeth Cymru.

Dylai'r prosiect ystyried:

  • perthynas ddiogel ac anniogel
  • ffiniau iach
  • casineb at ferched a stereoteipiau rhywedd
  • caniatâd a diwylliant treisio
  • effeithiau profiadau o gam-drin mewn plentyndod
  • aflonyddu rhywiol a sarhau ar-lein
  • opsiynau eraill i drais o fewn perthynas gyda chyfoedion a/neu'r teulu

(Nid yw hon yn rhestr hirfaith. Rydym yn croesawu syniadau newydd ac arloesol).

Anfonwch Achos Busnes (gan ddefnyddio'r ddogfen ynghlwm) yn egluro'r prosiect at Hannah Roberts Hannah.Roberts@northwales.police.uk a/neu Janet Leicester Janet.Leicester@flintshire.gov.uk erbyn dydd Gwener 3 Mawrth 2023.


Datganiad o Ddiddordeb - £288,000 o arian cyfalaf ar gyfer llety arbenigol ar gyfer merched sydd yn dioddef VAWDASV gydag anghenion cymhleth

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am wneud Cymru'r lle mwyaf diogel i ferched yn Ewrop ac roedd cyflwyno Deddf Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn 2015 yn fynegiant o'r nod hwn.  Mae Strategaeth Genedlaethol a ddilynodd yn 2016 wedi gosod amcanion allweddol wedi eu hanelu at gwrdd â phwrpas y Ddeddf a hefyd at ddarpariaeth Cyngor Confensiwn Ewrop ar Atal a Mynd i'r Afael a Thrais yn Erbyn Merched a Thrais Domestig (Confensiwn Istanbul). 

Mae Erthygl 23 o'r Confensiwn yn darparu ar gyfer "gosod nifer digonol o lochesi priodol, hygyrch a chynorthwyo dioddefwyr, yn enwedig merched a'u plant.”

Dyfarniad Dosraniad Cyfalaf 2023/24

Mae Gogledd Cymru wedi dosrannu £288,000 ar gyfer unedau i gefnogi merched sy'n dioddef VAWDASV. Bydd yr arian yn galluogi i'r awdurdodau lleol i gael unedau cymunedol fel hyn ac hefyd i gael llety symud ymlaen a all ateb anghenion teuluoedd pan nad yw llety argyfwng fel lloches yn briodol.

Mae rhan o'r cynnig a gyflwynwyd gan dîm VAWDASV Gogledd Cymru i Lywodraeth Cymru yn nodi, pan ofynnir am ddatganiad o ddiddordeb bydd angen dulliau consortiwm er mwyn sicrhau'r safon gorau o lety a chefnogaeth i'r rhai hynny sy'n defnyddio'r gwasanaeth.

Mae Fframwaith Arfer Da Llywodraeth Cymru ar gyfer Trais Yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig, Trais Rhywiol a Cham-ddefnyddio Sylweddau Mehefin 2018 yn nodi'r angen am "ddull cydlynu/ar y cyd - Mae'r gofal am gleientiaid wedi ei reoli ar y cyd gan wasanaethau cam-drin sylweddau a gwasanaethau VAWDASV, o bosib gyda gweithiwr cyswllt. Mae'r cyfrifoldeb ar y cyd hwn yn sicrhau bod sgiliau ac arbenigedd y ddau faes yn cael eu defnyddio."

Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau a fydd yn rhoi cefnogaeth ychwanegol a manteision i:

  • deuluoedd gyda bechgyn yn eu harddegau;
  • teuluoedd sy'n gyfrifol am bobl hŷn neu rhai gydag anghenion ychwanegol;
  • dioddefwyr gwrywaidd;
  • pobl hŷn
  • dioddefwyr gydag anifeiliaid anwes;
  • dioddefwyr LHDTC+
  • dioddefwyr sydd eisoes yn barod i symud allan o'r lloches, ond ddim yn barod eto i symud i lety cyfan gwbl annibynnol a pharhaol

Hoffem hefyd weld syniadau sy'n cefnogi'r egwyddorion ac amcanion 'Llwybrau i Gefnogaeth' i alluogi gwasanaethau hygyrch ledled Cymru.

Bydd yr arian yn cael ei ddosbarthu yn ôl y canrannau a gytunwyd arnynt ar gyfer grantiau VAWDASV. 

Bydd hyn yn golygu mai'r swm sydd ar gael ar gyfer Gogledd Cymru yw £288,000.00.

Os yw eich cynigion yn cynnwys cynlluniau i brynu unrhyw adeiladau newydd y mae darparwr gwasanaeth yn berchen arno, bydd gofyn i chi osod bridiant cyfreithiol o fewn y cynnig am grant cyn bod unrhyw arian yn cael ei ryddhau.

Datganiad o Ddiddordeb

Ymatebwch drwy lenwi’r ffurflen mynegiant mudiant sydd ynghlwm sy’n manylu sut y byddwch;

  1. Yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau'r adeiladau - cyflwynwch lythyron o gefnogaeth gan bartneriaid neu dystiolaeth arall o weithio ar y cyd.
  2. Yn gweithio mewn partneriaeth gyda cham-drin sylweddau ac arbenigwyr iechyd meddwl i gynnig cefnogaeth - cyflwynwch lythyron o gefnogaeth oddi wrth bartneriaid neu dystiolaeth arall o weithio ar y cyd.
  3. Ateb costau refeniw sy'n gysylltiedig gyda'r prosiect ac unrhyw arian ychwanegol sydd angen (Mae Swyddogion Grant Cefnogi Tai yn ymwybodol o gais cronfa cyfalaf ac yn gweithio gyda'i gilydd i edrych ar brosiectau rhanbarthol sy'n gofyn am arian.  Cadarnhewch os ydych wedi cysylltu â'ch GCT am y cynnig hwn)
  4. Sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei gefnogi a'i hyrwyddo.
  5. Sicrhau bod cyfleoedd cyfartal yn ychwanegu gwerth i'r prosiect.
  6. Gall fod yn gynaliadwy yn y tymor hir.
  7. Cysylltiad gydag asesiad anghenion VAWDASV

Rhaid i geisiadau gael eu cwblhau a'u dychwelyd at Rhiannon.edwards@flintshire.gov.uk a/neu janet.leicester@flintshire.gov.uk  erbyn amser cinio am 9 Mawrth 2023

Bydd y panel gwneud penderfyniadau wedyn yn cyfarfod yr wythnos ganlynol ac felly ni fydd unrhyw geisiadau wedi amser cinio ar 9 Mawrth 2023 yn cael eu hystyried.


Data Gwasanaethau a Gomisiynwyd

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu and Throsedd  yn coladu data chwarterol o'r holl wasanaethau a gomisiynwyd i ddangos sut y maent wedi perfformio a'r canlyniadau y maent wedi'u cyflawni.

Mae'r dogfennau isod yn darparu gwybodaeth am bob gwasanaeth a gomisiynwyd a sut maent wedi perfformio gan gynnwys nifer yr atgyfeiriadau a dderbyniwyd a nifer y cleientiaid a gefnogwyd;


Cyllid Ymgynghorwyr Cam-drin Domestig Annibynnol / Trais Rhywiol Annibynnol 2021-23

Yn dilyn mynegiant llwyddiannus o ddiddordeb i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, llwyddodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd i sicrhau £ 1,312,106 yn ychwanegol i gefnogi darparwyr Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol am y 2 flynedd nesaf. Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn cefnogi 11.6 o swyddi IDVA a 4.8 o swyddi ISVA ar draws Gogledd Cymru a bydd yn rhoi sicrwydd i wasanaethau dros y tymor hir i barhau i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr.

Dewiswyd y gwasanaethau arbenigol gan banel comisiynu i sicrhau bod proses dryloyw a chraffu dwys

Mae'r ddogfen isod yn cynnig gwybodaeth am y grant a roddwyd a pha wasanaethau sydd wedi cael eu comisiynu. Dyfernir grantiau ar ddechrau'r flwyddyn ariannol;


Cyllid i gefnogi Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Gogledd Cymru (SARC)

Ar ôl mynegi diddordeb  llwyddiannus yng Nghronfa Cefnogi Trais y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi llwyddo i sicrhau £76,824.00 ychwanegol i ariannu Ymgynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol (ISVA) llawn amser am y 2 flynedd nesaf.  Ers 2014, bu Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn datblygu,   ac yn fwy diweddar, mewn partneriaeth â VAWDASV  Gogledd Cymru, ISVA Oedolion er mwyn darparu ymateb rhanbarthol ar draws 6 Sir i gefnogi dioddefwyr mewn lleoliad sy'n gyfleus i'w hardal leol.  Mae'r cymorth arbenigol hwn sydd wedi'i deilwra i ddioddefwyr a goroeswyr trais rhywiol wedi'i leoli yng Nghanolfan Amethyst, ym Mae Colwyn ac mae'n bartneriaeth rhwng y Bwrdd Iechyd, Heddlu Gogledd Cymru ac asiantaethau'r Trydydd Sector. Nod y gwasanaeth hwn yw galluogi dioddefwyr ymosodiadau rhywiol i dderbyn gwasanaeth cymorth di-dor nad yw'n amodol ar benderfyniad i gyhuddo neu ar oedran y dioddefwr, gan ei gynorthwyo i ymdopi a gwell ar ôl troseddau dinistriol o'r fath.

Bydd y cymorth hwn yn galluogi canolfan SARC i weithio ar glirio llwythi achosion sy'n bodoli eisoes sydd wedi cynyddu yn sgil galwadau gyda’r llysoedd yn cau a nifer o gleientiaid â phroblemau iechyd meddwl difrifol oherwydd effaith COV 19. Bydd hefyd yn rhoi mwy o wytnwch i'r tîm yn ystod y pandemig hwn.  Bydd y gwaith sy'n cael ei ddarparu gan y gwasanaeth hwn yn sicrhau bod dioddefwyr yn cael cymorth cyn, yn ystod ac ar ôl achosion llys troseddol a sifil a sicrhau bod hawliau'r dioddefwyr yn cael eu bodloni.


Y Weinyddiaeth Gyfiawnder - Cyllid Arbennig Covid - 19

Mewn partneriaeth â'r Weinyddiaeth Amddiffyn, mae'r Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn falch o gyhoeddi bod £238,000 i'w roi i 7 gwasanaeth arbenigol ar draws Gogledd Cymru i helpu rhoi cymorth i ddioddefwyr Trais Rhywiol a Chamdriniaeth Ddomestig yn ystod COVID 19.

Mae'r 7 gwasanaeth llwyddiannus wedi addasu eu darpariaeth yn unol ag awgrymiadau'r llywodraeth ac wedi sicrhau eu bod yn parhau i roi cefnogaeth i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig a rhywiol. Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn cydnabod yr ymdrechion hyn a bydd yn cynnig sicrwydd i wasanaethau yn y tymor hir i barhau i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr.

Dewiswyd y gwasanaethau arbenigol gan banel comisiynu yn cynnwys cynrychiolwyr o VAWDASV, Cefnogi Pobl a Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i sicrhau proses tryloyw a chraffu dwys. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cyfraniad tuag at gyflwyno gwasanaethau o 24 Mawrth i 31 Hydref 2020.

Mae dosbarthu'r arian yn rhan o becyn cyllido £25 miliwn Covid - 19 oddi wrth y Swyddfa Gartref i gefnogi elusennau ar draws Cymru a Lloegr sy'n helpu pobl fregus yn cynnwys dioddefwyr Camdrin Domestig a Thrais Rhywiol yn ystod y pandemig.

Mae'r ddogfen isod yn cynnig gwybodaeth ar y grant a roddwyd a pha wasanaethau sydd wedi cael eu comisiynu. Dyfernir grantiau ar ddechrau'r flwyddyn ariannol; gellir gweld yr holl daliadau yma.

Rhoddir yr un telerau ac amodau grant i bob sefydliad a gaiff grant gan VAWDASV.


Trais yn Merched, Cam-drin Domestig a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru (VAWDASV)

Yn dilyn cynnig yng nghyfarfod bwrdd Trais yn Merched, Cam-drin Domestig a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru (VAWDASV) cytunwyd mai Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd fyddai'r corff atebol (Banciwr Rhanbarthol) ar gyfer Grant VAWDASV Llywodraeth Cymru.  Talwyd grant VAWDASV yn flaenorol yn uniongyrchol i'r Awdurdodau Lleol ac mae wedi ei gyfuno yn un gronfa i ddiogelu IDVA, ISVA, CSA a rhaglenni drwgweithredwyr ar draws y chwe awdurdod lleol.

Mae'r ddogfen isod yn cynnig gwybodaeth ar y grant a roddwyd yn ystod 2020/21 a pha wasanaethau sydd wedi cael eu comisiynu. Dyfernir grantiau ar ddechrau'r flwyddyn ariannol; gellir gweld yr holl daliadau yma.

Yn ystod 20/21 cynigiodd VAWDASV gyllid Argyfwng COVID 19 pellach i roi cymorth i ddioddefwyr Camdriniaeth Ddomestig a Chamdriniaeth Rywiol. Mae'r cyllid ychwanegol yn cefnogi unedau gwasgaredig a gweithgareddau ychwanegol o fewn llochesi yn ystod COVID 19. Mae'r arian ychwanegol hefyd wedi bod o gymorth i'n gwasanaethau cefnogi cynghorwyr i'w helpu i gael adnoddau TG er mwyn cyflawni gwasanaethau cynghori o bell.

Mae'r ddogfen isod yn cynnig gwybodaeth ar y grant a roddwyd yn ystod 2020/21 a pha wasanaethau sydd wedi cael eu comisiynu. Dyfernir grantiau ar ddechrau'r flwyddyn ariannol; gellir gweld yr holl daliadau yma.

 Yn ogystal, sicrhawyd cyllid gan VAWDASV i gefnogi anghenion hyfforddi ledled y rhanbarth. Mae'r ddogfen isod yn darparu gwybodaeth am y grant a ddyfarnwyd a'r gwasanaethau a gomisiynwyd.

Grant VAWDASV 22-23

Grant VAWDASV 21-22

Grant VAWDASV 20-21

Rhoddir yr un telerau ac amodau grant i bob sefydliad a gaiff grant gan VAWDASV.


Atal Mewn Ffocws

Mae Atal Mewn Ffocws yn cynnwys cyflwyniadau gan CHTH’s trawsbleidiol sy’n gwneud gwahaniaethau gwirioneddol trwy waith arwain, comisiynu a phartneriaeth. Mae prosiectau arloesol yn cynnwys gweithio gyda menywod sy’n troseddu; Gwasanaeth Mentor Cymheiraid Cymundedol, Prosiect Tim Ysgol a Chymunedau Diogel; Gwasanaeth Dioddefwyr Troseddau Ifanc; Prosiectau Profidau Niwidiol Plentyndod; yn ogystal ag gynlluniau ar sail chwaraeon.

I gael gwybodaeth am sut mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yng Ngogledd Cymru wedi gwneud gwahaniaeth, cliciwch yma.


Grantiau Troseddu ac Anrhefn

Mae Deddf yr Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 yn galluogi’r Comisiynydd i ddyfarnu grantiau i bartneriaid, sefydliadau cyhoeddus a grwpiau gwirfoddol fydd yn gallu cynnal y blaenoriaethau diogelwch cymunedol a ddynodir yn y Cynllun Heddlu a Throsedd.

Mae'r dogfennau isod yn dangos gwybodaeth am grantiau sydd wedi eu dyfarnu yn y tair mlynedd olaf.

Telerau ac Amodau.Grantiau.Troseddau.ac.Anrhefn

Fframwaith Comisiynu


Gwasanaethau ar gyfer Dioddefwyr 

O dan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 mae ar y Comisiynydd ddyletswydd i gomisiynu gwasanaethau lleol a fydd yn helpu dioddefwyr,  tystion, neu bobl eraill yr effeithiol troseddau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol arnynt.

Cynhaliwyd Asesiad o Anghenion ar gyfer datblygu Gwasanaethau Dioddefwyr yng Ngogledd Cymru er mwyn helpu'r Comisiynydd â’i benderfyniadau.


Grant Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb

Mae'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn derbyn grant gan Lywodraeth Cymru i’w wario ar Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb  – gwelwch isod sut y gwariwyd yr arian yng Ngogledd Cymru.

  • Grantiau ar gyfer ymwybyddiaeth troseddau casineb 2018 -19

Gwerth Cymdeithasol

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (a Heddlu Gogledd Cymru) yn gobeithio y bydd gosod Gwerth Cymdeithasol yn ein prosesau comisiynu a chaffael yn dod â budd sylweddol i Ogledd Cymru a’i drigolion. Bydd yn dod â chydnabyddiaeth gymdeithasol, lle bynnag fo’n bosibl, ar bob punt a wariwn. 


Eich Cymuned, Eich Dewis (Cyllidebu Cyfranogol)

Mae “Eich Cymuned, Eich Dewis” yn un o fentrau’r Comisiynydd i ddychwelyd arian a atafaelwyd gan droseddwyr i’r gymuned.

Rhoddir arian a adenillir drwy Ddeddf Enillion Troseddau a gan y Comisiynydd i brosiectau cymunedol yng Ngogledd Cymru.

Cynorthwyir Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd gan PACT (Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned), Gogledd Cymru.


Arloesi i Dyfu

Lansiodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd gynllun newydd a fydd yn targedu prosiectau newydd ac arloesol i ategu blaenoriaethau’r cynllun heddlu a throseddu a’i ddull Gwasanaeth Heddlu Cymunedol (COPS) i wasanaethu pob cymuned ar draws Gogledd Cymru. Mae’r Comisiynydd yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddiadau bach i achosion sylfaenol ac mae’n awyddus i fuddsoddi mewn prosiectau sy’n dangos syniadau newydd ac arloesol i atal troseddau ar draws gogledd Cymru. Mae’r Comisiynydd wedi dyrannu £100,000 i’r cynllun newydd i gefnogi prosiectau am hyd at flwyddyn gyda’r prif ffocws ar arloesi.

Mae'r ddogfen isod yn rhoi gwybodaeth am y grant a ddyfarnwyd a pha wasanaethau a gomisiynwyd. Dyfernir grantiau ar ddechrau'r flwyddyn ariannol; gellir gweld yr holl daliadau a wnaed yma.