Beth ydy'r Cynllun Heddlu a Throsedd?
Mae'r Cynllun Heddlu a Throsedd yn canolbwyntio ar y prif feysydd fydd disgwyl i'r Heddlu eu cyflawni – materion sydd o bwys i bobl leol, ar y cyd a gofynion plismona cenedlaethol.
Cliciwch yma i ddarllen y cynllun:
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ar y cynllun:
Blaenoriaethau plismona Gogledd Cymru ydy:
- Presenoldeb plismona cymdogaethau lleol
- Mae hyn yn cwmpasu troseddau difrifol a threfnedig; troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt; diogelwch y ffyrdd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB)
- Cefnogi dioddefwyr, cymunedau a busnesau
- Mae hyn yn cynnwys gweithredu ar drais yn erbyn merched a genethod; troseddau busnes a manwerthu; ymatebolrwydd (megis y cyflymder mae galwadau i’r heddlu yn cael eu hateb); troseddau casineb; caethwasiaeth fodern, masnachu pobl a throseddau mewnfudo trefnedig.
- System cyfiawnder troseddol deg ac effeithiol
- Mae hyn yn ymwneud ag ymdrin â throseddwyr cam-drin domestig; datblygiad pellach o Banel Dioddefwyr Gogledd Cymru; ac mesurau ynghylch cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a moeseg.
Darllen Hawdd:
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi ysgrifennu Cynllun Heddlu a Throsedd.
Mae'r Cynllun yn esbonio'r pethau pwysicaf y mae angen i Heddlu Gogledd Cymru ei wneud.
Mae’r Cynllun yn edrych ar sut y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn delio efo’r pethau sy’n bwysig i’r bobl sy’n byw yng Ngogledd Cymru. Mae'r Cynllun hefyd yn edrych ar sut y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn dilyn rheolau cenedlaethol ar blismona.

Cynnydd a wnaed wrth fodloni amcanion y Cynllun Heddlu a Throsedd
Adroddiad Blynyddol 23-24 Darllen Hawdd
Dyma adroddiad blynyddol Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Bydd yr adroddiad hwn yn dweud wrthych pa waith a wnaethom y llynedd i helpu i gadw pobl yng Ngogledd Cymru yn ddiogel.
Dyma adroddiad blynyddol Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Bydd yr adroddiad hwn yn dweud wrthych pa waith a wnaethom y llynedd i helpu i gadw pobl yng Ngogledd Cymru yn ddiogel.
- Adroddiad Blynyddol 2022-23 ac Adroddiad Panel Heddlu a Throsedd
- Adroddiad Blynyddol 2021-22 ac Adroddiad Panel Heddlu a Throsedd
Adroddiadau ar ddarpariaeth gwasanaeth, asesiadau perfformiad ac asesiadau gweithredol
Adroddiadau gan Arolygyddion ac Archwilwyr Allanol
- Adroddiadau AHEM ac ymatebion y Comisiynydd Heddlu a Throsedd o dan Adran 55 o Ddeddf yr Heddlu 1996
- Adroddiadau Peel diweddaraf AHEM
- Swyddfa Archwilio Cymru (Cydbwyllgor Archwilio)
- Archwilio Mewnol (Cydbwyllgor Archwilio)
Gwybodaeth ystadegol a ddarparwyd i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd
- Adroddiadau perfformiad a gwybodaeth ystadegol (Bwrdd Gweithredol Strategol a’r Panel Heddlu a Throsedd)
Asesiadau Effaith Preifatrwydd
- Os ymgymerir ag unrhyw asesiadau effaith preifatrwydd byddant yn cael eu cyhoeddi yn amodol ar eithriadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000