Skip to main content

Craffu Gwasanaethau Plismona

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn atebol am gynnal gwasanaeth plismona effeithiol ac effeithlon yng Ngogledd Cymru ac mae herio a chraffu ar waith Heddlu Gogledd Cymru yn rhan allweddol o’i ddyletswyddau. Bydd hyn yn cynnwys monitro perfformiad yn erbyn y Cynllun Heddlu a Throsedd.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â lefelau trosedd yn eich cymdogaeth drwy fynd i wefan y Swyddfa Gartref. Gellir teilwra mapiau trosedd yn arbennig ar gyfer yr ardal y mae gennych chi ddiddordeb ynddi a cheir siartiau sy'n dangos lefelau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol fesul categori, dadansoddiad o 'ganlyniadau cyfiawnder' fesul categori a’r tueddiadau ym mhob categori o drosedd fesul mis.

Ar Wefan Cymharu Troseddau AHEM ceir teclyn ar gyfer cymharu cyfraddau trosedd, niferoedd gweithluoedd a chost ac ansawdd gwasanaethau plismona.

Bob blwyddyn bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol a fydd yn rhoi gwybodaeth ynghylch yr hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad a chynnydd o ran cyflawni'r amcanion plismona a throseddu.


Bwrdd Gweithredol Strategol

Drwy’r Bwrdd Gweithredol Startegol (y Bwrdd), mae’r Comisiynydd yn craffu ar berfformiad yn erbyn y Cynllun Heddlu a Throsedd, yn monitro perfformiad yr Heddlu a chyllideb yr Heddlu. Y Bwrdd yw’r fforwm gwneud penderfyniadau ar gyfer y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a ble bo hynny’n briodol, mewn ymgynghoriad â’r Prif Gwnstabl. Mae’r Bwrdd yn cael ei gadeirio gan y Comisiynydd a gallai aelodau gynnwys y Dirprwy Gomisiynydd, y Prif Gwnstabl, y Dirprwy Brif Gwnstabl, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, y Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau a Phrif Weithredwr a Phrif Swyddog Cyllid Swyddfa’r Comisiynydd.

Mae cylch gorchwyl llawn y bwrdd ar gael yma.

Cofnodion Bwrdd Gweithredol Strategol

Dim ond yn y Saesneg mae'r cofnodion isod ar gael. Os ydych angen copi Cymraeg, cysylltwch ar swyddfa ar OPCC@nthwales.pnn.police.uk. The minutes of the following SEB meetings are currently only available in English. Should you require a version in the Welsh language please contact the office on OPCC@nthwales.pnn.police.uk.


Panel Craffu Gwarediadau tu allan i’r Llys

Mae Gwarediadau tu allan i’r Llys yn cael eu hasesu a’u craffu yn annibynnol gan Banel Craffu Gogledd Cymru. Cynrychiolir Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar y Panel Craffu ynghyd â Chadeiryddion Mainc Ynadon, cynrychiolwyr o’r Timau Troseddau Ieuenctid, Ymddiriedolaeth Prawf Gogledd Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Cymorth i Ddioddefwyr, Adran Gweinyddu Cyfiawnder yr Heddlu a’r Gwasanaeth Plismona Lleol.

Gall y panel wneud argymhellion, rhoi adborth ar achosion unigol i swyddogion, cyfleu canfyddiadau, hyrwyddo arferion gorau ac adnabod datblygiadau polisi posibl neu anghenion hyfforddiant ar gyfer eu hystyried gan yr heddlu neu asiantaeth arall perthnasol. Ni all y panel newid canlyniad gwreiddiol achos a bydd yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei dileu cyn y caiff ei chraffu arni.