Skip to main content

Newyddion

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn rhybuddio trigolion y rhanbarth i fod yn wyliadwrus, ar ôl gweld cynnydd troseddau’n ymwneud ag arian crypto a sgamiau yn yr ardal dros y misoedd diwethaf, efo aelodau’r cyhoedd yn dioddef ac yn colli arian i dwyllwyr.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, wedi datgelu’r rhestr terfynol o ymgeiswyr llwyddiannus o’i Gronfa Chwaraeon yr Haf, sy’n cynnwys 26 sefydliad o bob un o chwe sir Gogledd Cymru.

Bydd Rhaglen Ysgolion Cymru, a elwir hefyd yn SchoolBeat Cymru, yn parhau yng Ngogledd Cymru diolch i ymdrechion a chyllid cyfunol Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru sef Amanda Blakeman a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru sef Andy Dunbobbin.

Mae plismona yng Ngogledd Cymru yn rhywbeth sy’n bwysig i ni gyd. Dyna pam, rhwng rŵan a 27 Medi, mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, yn gofyn wrth bobl leol ddweud eu dweud ynglŷn â’r hyn  maen nhw’n feddwl ddylai blaenoriaethau Heddlu Gogledd Cymru fod dros y pedair blynedd nesaf, a sut hoffai’r trigolion weld eu cymunedau yn cael eu plismona.

Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a'i Ddirprwy, Wayne Jones i ymweld â Swyddfa Cymorth Dioddefwyr yn Llanelwy i ddysgu mwy am eu gwaith yn y gymuned, am bwysigrwydd derbyn arian pellach o swyddfa'r CHTh.

Mae Get Safe Online yn lansio ymgyrch “Safer Kids”, er mwyn annog y plant ledled yr ardal i ddefnyddio’r we yn ddiogel ac yn hyderus. 

Mae clwb chwaraeon cadeiriau olwyn yng Ngogledd Cymru ar garlam diolch i'r cyllid a gymerwyd o elw troseddu. Fe wnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ymweld hefo Rhyl Raptors er mwyn gweld sut mae'r arian yn cael ei ddefnyddio er lles y gymuned, ac yn arbennig er mwyn helpu'r clwb ehangu eu storfa er mwyn llwytho a dadlwytho cadeiriau olwyn chwaraeon.

Mewn cyfarfod arbennig o Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ym Modlondeb, Conwy ar 21 Mehefin, ail-gadarnhawyd Wayne Jones fel Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru am gyfnod pellach o bedair blynedd.

Mae menter newydd wedi’i lansio heddiw yng Nghanolfan Busnes Conwy, Cyffordd Llandudno, efo’r nod o greu Gogledd Cymru heb drais. Ei henw ydy Strategaeth Ymateb i Drais Difrifol Gogledd Cymru, a  bwriad y cynllun ydy  gweithio efo cymunedau er mwyn atal a lleihau trais difrifol ar draws y rhanbarth.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (CHTh) Andy Dunbobbin a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal cymhorthfa gyngor yn llyfrgell y dref yn Neuadd y Farchnad ar Stryd Stanley ar gyfer trigolion Caergybi a’r cyffiniau o 2-4pm ar Orffennaf 24 fel rhan o'i ymgyrch i ddod â phlismona yn agosach at bobl yr ardal.