Skip to main content

Swyddi Gwag

Aelodau Panel Annibynnol

Mae’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru yn chwilio am aelodau o’r cyhoedd i eistedd fel aelodau annibynnol ar wrandawiadau camymddygiad yr heddlu a thribiwnlysoedd apeliadau’r heddlu.

Penodir aelodau annibynnol i eistedd mewn gwrandawiadau er mwyn rhoi sicrwydd i’r gymuned bod materion camymddygiad yr heddlu yn cael eu trin o ddifrif ac yn cael eu dyfarnu mewn modd annibynnol.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed o leiaf, bod â dealltwriaeth o’r angen am y safonau uchaf o ymddygiad yng ngwasanaeth yr heddlu ynghyd ag ymrwymiad i degwch a chydraddoldeb.

Mae’r rhinweddau angenrheidiol yn cynnwys sgiliau dadansoddi a chyfathrebu cryf, hunanhyde a’r gallu i ystyried materion sydd ger bron gyda meddwl agored ac mewn ffordd gytbwys a gwrthrychol. Rydym yn croesawu amrywiaeth a cheisiadau gan bawb.

Bydd yn angenrheidiol i aelodau annibynnol herio aelodau eraill y panel a ffurfio barn deg ar sail tystiolaeth ynghylch ymddygiad swyddog a chytuno ar ffordd briodol o weithredu neu waredu.

Mi fydd angen i’r aelod annibynnol eistedd ar wrandawiadau a thribiwnlysoedd bob Heddlu yng Nghymru.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Swyddfa’r Comisiynydd ar 01492 805486 neu anfonwch e-bost at OPCCvacancy@northwales.police.uk

Pecyn Cais

Ffurflen Gais

Dyddiad cau:- Dydd Llun 17 Ebrill 2023

Profiad Gwaith

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am brofiad gwaith gyda Heddlu Gogledd Cymru, edrychwch ar eu gwefan am fwy o wybodaeth. Bydd y broses recriwtio fel arfer yn dechrau ddiwedd mis Hydref bob blwyddyn ar gyfer cyfleoedd yr haf dilynol.

Os bydd cyfle profiad gwaith yn codi gyda Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, bydd Heddlu Gogledd Cymru yn hwyluso’r broses recriwtio ar ein rhan. 


Gwirfoddolwyr gyda'r Heddlu

Am gyfle i wirfoddoly gyda Heddlu Gogledd Cymru gwelwch yma