Skip to main content

Cyfiawnder Adferol

Beth yw Cyfiawnder Adferol?

Mae Cyfiawnder Adferol yn cynnig cyfle i ddioddefwyr i gyfathrebu â'r troseddwr mewn ymgais i wella'r niwed sydd wedi cael ei achosi. Mewn sawl achos mae'r broses Cyfiawnder Adferol yn digwydd wyneb yn wyneb ond gall hefyd gael ei gwblhau drwy ddull gwennol sy'n golygu ysgrifennu llythyron.

Beth yw manteision Cyfiawnder Adferol?

I’r Dioddefwr:

  1. Mae dioddefwyr yn cael y cyfle i egluro'r effaith y mae gweithredoedd y troseddwr wedi cael ar eu bywyd.
  2. Gall dioddefwyr ofyn i'r troseddwr am eglurhad.
  3. Mae'n caniatáu iddynt roi terfyn ar y mater a symud ymlaen. Mae'n rhoi boddhad mawr i'r dioddefwr

I’r Troseddwr

  1. Mae'r troseddwyr yn cael cyfle i ymddiheuro am eu gweithredoedd.
  2. Amcangyfrifir bod Cyfiawnder Adferol yn lleihau ail-droseddu 14%
  3. Mae'n rhoi'r cyfle i droseddwyr ddysgu oddi wrth y dioddefwr ac i newid

Sut gallwch chi gymryd rhan mewn Cyfiawnder Adferol?

Naill ai gall y dioddefwr neu'r troseddwr ofyn am Gyfiawnder Adferol a gall ddigwydd unrhyw bryd ar unrhyw bwynt yn y System Gyfiawnder Troseddol. Mae hwylusydd Cyfiawnder Troseddol sydd wedi ei hyfforddi yn cwrdd â'r ddau barti cyn trefnu cyfarfod. Fel arall, mae'n bosib bod gwell gan y ddwy ochr gyfathrebu yn anuniongyrchol neu beidio â dilyn y broses o gwbl.

Y Broses Cyfiawnder Adferol

  1. Rhaid i'r ddwy ochr gydsynio i Gyfiawnder Adferol
  2. Mae'r cydlynydd Cyfiawnder Adferol yn cwrdd â'r dioddefwr a'r troseddwr ar wahân i drafod yr hyn maent am elwa o'r broses.
  3. Cyn gynted ag y bydd yr hwylusydd yn fodlon ei bod hi'n ddiogel i gynnal cyfarfod rhwng y dioddefwr a'r troseddwr byddant yn trefnu dyddiad ar gyfer Cynhadledd Cyfiawnder Adferol.

Y Gynhadledd

Mae'r Gynhadledd Cyfiawnder Adferol yn gyfarfod rhwng y dioddefwr a'r troseddwr. Ynghyd â'r Cydlynydd gall y dioddefwr a'r troseddwr ofyn i unigolyn ymuno â nhw er mwyn cynnig cymorth. 

Beth Nesaf?

Os hoffech gymryd rhan mewn proses adferol neu ddysgu mwy amdano cysylltwch â'n swyddog cyfiawnder adferol:

PC 1568 Alex Challinor
Diogelwch Cymunedol
Gorsaf Heddlu Llanelwy

E-bost: restorativejustice.officer@northwales.police.uk
Ffôn: 01745 588776