Skip to main content

Rhyddid Gwybodaeth

Bydd Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod cymaint o wybodaeth â phosib ar gael ar y wefan hon. Fe welwch yn ein Cynllun cyhoeddi a'n Log Datgeliadau a’n yr holl wybodaeth sydd eisoes ar gael heb orfod cyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth. Mae’r Log Datgeliadau hefyd yn rhoi manylion ynghylch pob cais a dderbyniwyd dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r ymatebion a ddarparwyd.

Os ydych yn dymuno gwneud cais am wybodaeth, rhaid gwneud y cais yn ysgrifenedig naill ai drwy lythyr, ffacs neu e-bost. Rhaid i’ch cais gynnwys eich enw a chyfeiriad ar gyfer anfon gohebiaeth atoch a rhaid iddo ddisgrifio’n glir pa wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani. Fel arall gallwch lenwi ffurflen ar lein.

Gallwch anfon eich cais drwy e-bost, ffacs neu drwy'r post at:

Y Prif Weithredwr
Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd
Pencadlys yr Heddlu
Glan y Don
Bae Colwyn
LL29 8AW

E-bost: OPCC@heddlu-gogledd-cymru.police.uk
Ffacs: 01492 805489

Bydd ceisiadau a wneir ar-lein yn cael eu hanfon yn awtomatig i’r swyddfa.

Sut yr ymdrinnir â'ch cais

Ar ôl derbyn eich cais byddwn yn ei asesu i weld a yw’r wybodaeth gennym ai peidio, ac os felly a fydd yn bosibl ei datgelu. Os bydd eithriadau statudol yn bodoli sy’n rhwystro datgelu’r wybodaeth byddwn yn rhoi gwybod i chi am yr eithriadau perthnasol a'r rhesymau drostynt.

Byddwn yn gwneud ein gorau i ymateb i’ch cais o fewn 20 diwrnod gwaith. Os nad yw’n glir beth yr ydych yn gwneud cais amdano, byddwn yn cysylltu â chi i gael eglurhad pellach ac ni fydd y cyfnod o 20 diwrnod yn cychwyn hyd nes y byddwn wedi cael digon o wybodaeth i’n galluogi i barhau. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein Gweithdrefn Rhyddid Gwybodaeth.

Beth i’w wneud os ydych yn anfodlon â’n hymateb

Os nad ydych yn fodlon a’n hymateb i’ch cais am wybodaeth bydd gennych hawl i ofyn am adolygiad mewnol a fydd yn cael ei gynnal gan rywun nad oedd yn gysylltiedig â’ch cais gwreiddiol. Byddwch yn cael gwybod beth oedd canlyniad yr ymchwiliad yn ysgrifenedig

Os byddwch yn parhau i fod yn anfodlon gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth