Skip to main content

Achub bywydau dioddefwyr trais yn y cartre yn deyrnged priodol i fam a lofruddiwyd

Dyddiad

Achub bywydau dioddefwyr trais yn y cartre yn deyrnged priodol i fam a lofruddiwyd

Mae pob swyddog llinell flaen yng Ngogledd Cymru yn cael hyfforddiant arbenigol i ddarparu gwell diogelwch ar gyfer dioddefwyr camdriniaeth ddomestig gan achub bywydau.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio “rhaglen o newid diwylliannol” er mwyn gwella eu dealltwriaeth o gam-drin a rheoli gorfodol.

Bydd yr heddlu yn gweithio gyda’r elusen Achub Bywydau dros y 18 mis nesaf i gyflwyno cwrs Materion Camdriniaeth Ddomestig, gyda’r staff hefyd yn cael eu hyfforddi.

Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth well iddynt o ystyr rheoli gorfodol, herio beio’r dioddefwr a’u hysgogi i adnabod lefelau uchel o orfodaeth gan y rhai sy’n cam-drin.

Cefnogir gwaith yr heddlu i fynd i’r afael â cham-drin domestig gan Rhingyll Mike Taggart a gafodd ei anrhydeddu yn ddiweddar gyda MBE am ei waith yn cefnogi camdriniaeth ddomestig.

Mae’r crwsâd gan Rhingyll Taggart, sy’n gweithio yn Uned Ddiogelu Pobl Fregus (PVPU),  yn cael ei symbylu gan stori drasig ei deulu.

Dim ond 15 oedd o pan lofruddiwyd ei fam, Donna Crist gan ei lys-dad Derek Evans ym 1997.

Eglurodd Rhingyll Taggart nad yw rheoli a chymell o reidrwydd yn cynnwys trais corfforol ond serch hynny yn gam-drin seicolegol ac emosiynol.

Ers 2015, mae’r drosedd yn cario mwyafswm o bum mlynedd o garchar.

“Mae swyddogion yn ymwybodol o reoli, ond nawr, rydym am i’r wybodaeth hon gael mwy o effaith,” dywedodd Rhingyll Taggart.

“Nod yr hyfforddiant hyn yw i addysgu swyddogion a rhoi mwy o ymwybyddiaeth iddynt, i gymryd hyn gam ymhellach.

“Y mwyaf o wybodaeth y gallwn gasglu, mwyaf trylwyr fydd yr ymchwiliad a’r gobaith yw y bydd yn helpu gwneud dioddefwyr yn fwy diogel a chael mwy o erlyniadau yn y llys.”

Ychwanegodd: “Mae adegau wedi bod pan gollwyd cyfleoedd a gellir fod wedi gwneud mwy i newid canlyniadau neu wneud pethau yn well i rywun.

“Felly, mae cael ein gweld fel heddlu sy’n rhoi pethau yn eu lle i ddelio â phethau o’r fath yn ddatblygiad anferth.”

Croesawyd y newyddion am y rhaglen hyfforddi gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru Andy Dunbobbin, sy’n ymgyrchydd brwd yn erbyn camdriniaeth ddomestig.

Dywedodd Mr Dunbobbin: “Rwyf wedi bod yn lysgennad swyddogol ar gyfer yr ymgyrch Rhuban Gwyn i ddiweddu trais gan ddynion yn erbyn menywod ers 2013 felly mae hyn yn agos at fy nghalon.

“Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Heddlu Gogledd Cymru yn gyffredinol a Rhingyll Taggart yn benodol yn ymladd camdriniaeth domestig yn rhagorol.

“Mae cyflwyno’r cwrs Materion Camdriniaeth Ddomestig yn enghraifft arall o sut mae’r heddlu yn arwain y ffordd yn y maes plismona hanfodol hwn.

“Dw i’n siŵr y bydd yr hyfforddiant hwn yn achub bywydau ac ni allaf feddwl am deyrnged well i fam annwyl Rhingyll Taggart.”

Yn y gorffennol mae Rhingyll Taggart wedi creu mentrau fel mynychu cynhadledd tatŵ a hyfforddiant staff mewn salonau i adnabod arwyddion o gam-drin.

Hefyd croesawodd ddedfrydau carchar yn fwy llym ar gyfer camdriniaeth ddomestig yn ystod y blynyddoedd diwethaf a galwodd am gofrestr ar gyfer stelcwyr parhaus er mwyn helpu monitro troseddwyr.

Yn ôl Rhingyll Taggart, tasai’r wybodaeth sydd i gael heddiw gan ei fam, ynghyd ag anogaeth a chefnogaeth efallai y buasai wedi cael “yr hwb a oedd ei hangen” i chwilio am help fel dioddefwr camdriniaeth ddomestig ynghynt.

“Rwyf yn meddwl yn ôl i’r 90au, roedd pobl yn ystyried camdriniaeth ddomestig fel rhywbeth a oedd yn digwydd yn y cartref ac nad oedd yn fusnes i neb arall,” ychwanegodd Rhingyll Taggart.

Ond nid mater y tu ôl i ddrysau caeedig yw hyn nawr, mae’n fater o sut yr ydym ni fel heddlu a’r cyhoedd yn delio ag e.

“Rhaid i ni gyd gadw’n llygaid a’n clustiau yn agored er mwyn helpu dioddefwr, a allai fod â chymaint o ofn nad ydynt yn gofyn am help, ond weithiau gall angel gwarchodol yn rhywle wneud yr alwad a fydd yn dechrau’r broses o gael cefnogaeth.

“Doedd dim byd o’r fath ar gael pan oedd fy mam yn fyw.

“Byddai gwybodaeth o’r fath ar y pryd, ar gael yn hawdd, ac anogaeth a chefnogaeth o bosib wedi rhoi’r hwb i fy Mam yr oedd angen arni.”

Gobeithio bydd y rhaglen yn parhau i achub bywydau, ychwanegodd Rhingyll Taggart: “Bydd pobl yn cysylltu â’r heddlu fel eu dewis cyntaf os byddant mewn argyfwng.

“Felly, i swyddog alw wrth y drws a sylweddoli bod y broblem yn fwy nag un digwyddiad, a’i fod yn batrwm o ymddygiad, dw i’n credu y bydd hyn yn cael effaith anhygoel.

“Os gallwn adnabod y sefyllfaoedd hyn yn gynharach, gallwn ymyrryd ynghynt a gosod mesurau diogelu sydd yn y pen draw yn mynd i’w cadw yn fwy diogel a rhoi’r hyder a’r anogaeth iddynt adael y berthynas.”

Mae’r hyfforddiant yn digwydd ar hyn o bryd i holl swyddogion a staff llinell flaen.