Skip to main content

Ad-dalu Cymunedol

Beth ydy Ad-dalu Cymunedol?

Ad-dalu Cymunedol ydy gwaith di-dâl i rai ar brawf sydd wedi'u dedfrydu i rhwng 40 a 300 awr o wasanaeth cymunedol. Fe'i rheolir a'i cyflawnir gan y Gwasanaeth Prawf. Mae'r math hwn o wasanaeth cymunedol wedi'i lunio er mwyn cynorthwyo gyda phrosiectau gwella yn ardal leol y troseddwr ar brawf am y niwed a achoswyd gan eu troseddau.

Gall dedfrydau cymunedol gael eu rhoi am droseddau fel:

  • Difrod troseddol
  • Lladrad, ac
  • Ymosod

Gall y math o wasanaeth cymunedol gynnwys:

  • Tynnu graffiti
  • Clirio tir diffaith, ac
  • Addurno mannau ac adeiladau cyhoeddus fel canolfan gymunedol.

Sut i ymgeisio am Ad-dalu Cymunedol

Gallwch enwebu prosiect Ad-dalu Cymunedol er mwyn awgrymu pa waith di-dâl a gyflawnir gan droseddwyr yn eich ardal leol. Gall hyn fod yn dynnu graffiti, clirio tir diffaith, addurno canolfan gymunedol neu unrhyw brosiect tebyg arall sydd o fudd i'r gymuned leol. Ni ddylai prosiectau fynd â bara menyn oddi ar bobl eraill neu fod o elw i neb.

Os oes gennych brosiect yr hoffech gael ei ystyried am Ad-dalu Cymunedol, e-bostiwch eich Rheolwr Gweithrediadau lleol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod:

O fewn eich e-bost, cynhwyswch:

  • enw'r prosiect neu'r sefydliad
  • lleoliad y gwaith
  • disgrifiad byr o'r gwaith
  • eich manylion cyswllt.

Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam: Richard.purton@justice.gov.uk

Conwy, Gwynedd a Môn: Emlyn.parry@justice.gov.uk