Skip to main content

Annog trigolion Gogledd Cymru i sicrhau eu bod yn gwneud buddsoddiad call

Dyddiad

Mae buddsoddiadau yn hoff dric a ddefnyddir gan dwyllwyr i ddwyn arian oddi wrth aelodau’r cyhoedd, un ai o gronfa neu arian  a arbedwyd ar gyfer gwyliau neu ymddeoliad.

Rhwng 2020 a diwedd 2023, wnaeth bron i 100,000 o bobl yn y DU ddioddef sgamiau buddsoddiad, cyfanswm o £2.6. biliwn, neu £13 miliwn bob wythnos*. Mae’r ffigyrau hyn yn ymwneud â sgamiau a’u riportiwyd yn unig, felly mae’r gwir gyfanswm yn debygol o fod yn lawer uwch.

Dyna pam, yn ystod y mis Mai hwn, bod Heddlu Gogledd Cymru a Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd (SCHTh) am weithio efo arbenigwyr mewn diogelwch ar-lein, Get Safe Online, i amlygu’r peryglon o Sgamiau Buddsoddiadau i drigolion Gogledd Cymru.

Mae Get Safe Online yn ffynhonnell arweiniol o wybodaeth ddiduedd, ffeithiol, hawdd i’w ddeall ar ddiogelwch ar-lein yn y DU, ac mae’n wasanaeth a gomisiynwyd gan y CHTh a Heddlu Gogledd Cymru, i rannu gwybodaeth cynorthwyol a chyngor efo pobl y rhanbarth.

Dywedodd Rachel Roberts, Swyddog Diogelwch Cam-Drin Ariannol Heddlu Gogledd Cymru: “Mae buddsoddiadau wastad yn fentrus, a does dim ffasiwn beth a sicrhad. ‘Da ni wedi gweld cynnydd yng Ngogledd Cymru mewn dioddefwyr yn buddsoddi yn yr hyn mae’n nhw’n credu yw arian crypto ond mewn gwirionedd maen nhw wedi talu arian uniongyrchol i mewn i gyfrif banc traddodiadol sy’n cael ei reoli gan droseddwyr. Mae llawer o ddioddefwyr yn cael eu targedu dro ar ôl tro. Mae dioddefwyr yn aml yn teimlo cywilydd, ac yn daer i gael eu harian yn ôl, ac felly’n fwy tebygol o barhau i anfon arian.  Dim ond pan fydd y dioddefwyr wedi rhedeg allan o arian maen nhw’n sylweddoli na fyddant byth yn cael eu harian yn ôl.

Argymhellion i ddiogelu eich hun rhan sgamiau buddsoddi:

  • Ystyriwch os ydy unigolyn neu sefydliad yn cysylltu efo chi ar hap ynglŷn â chyfle i fuddsoddi, mae’n debygol o fod un ai yn sgam, neu’n fuddsoddiad efo risg sylweddol.
  • Byddwch yn ymwybodol bod raid i bob cwmni gwasanaethau ariannol gael ei awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), sy’n cynnal Cofrestr Gwasanaethau Ariannol a llinell gymorth i ddefnyddwyr.
  • Dysgwch sut i adnabod arwyddion amlwg twyll buddsoddiad, fel sicrhad o lawer iawn o arian yn ôl ar eich buddsoddiad (er nad ydy hyn yn wir bob tro), pwysau gormodol neu amser cyfyngedig ar y cynnig, bod yn or-gyfarwydd, absenoldeb cyfeiriad corfforol neu gofyn eich bod yn caniatáu mynediad o bell i’ch dyfais.
  •  Os derbyniwch alwad digroeso yn cynnig buddsoddiad, peidiwch a pharhau efo’r sgwrs, ond gorffennwch yr alwad un ai drwy roi’r ffôn lawr yn syth, neu ar ôl dweud “Dim diolch, does dim diddordeb gen i”.
  • Os dderbyniwch gyfathrebiad ar-lein neu drwy neges destun ynglŷn â buddsoddiad, anwybyddwch o, ac os  mai e-bost ydy o, dilëwch o. Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni nag atodiadau.
  • Anwybyddwch gynigion na ofynnwyd amdanynt, ynglŷn ag adennill arian ‘rydych wedi ei golli yn sgìl sgam, oherwydd bod hwn yn debygol iawn o fod yn sgam arall.
  • Gwiriwch bod y sefydliad yn un dilys, ac nad yw’n “gwmni clôn”. Defnyddiwch y manylion cyswllt ar Gofrestr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol bob tro, ac nid y manylion sydd yn y cyfathrebiad. Gallwch hefyd wirio os ydy’r wefan yn un gwirioneddol neu’n un ffug yn www.getsafeonline.org/checkawebsite
  • Cymrwch gyngor ariannol diduedd cyn buddsoddi.

Dywedodd Tony Neate, y Prif Weithredwr yn Get Safe Online: “Mae mwy o fathau o sgamiau buddsoddiadau na fedraf i eu rhestru, ond maent bron bob tro’n argyhoeddiadol iawn, efo cyfathrebiadau, gwefannau a gohebiaeth, seminarau hyd yn oed, sy’n edrych yn broffesiynol. Mae rhai yn arddangos dyfyniadau gan “gleientiaid boddhaol”. Mae rhai yn cynnig llawer o arian yn ôl ar risg isel, rhai eraill yn cynnig symiau rhesymol o arian. Beth bynnag  ydy’r enghraifft, mae bron yn sicr na welwch eich harian eto, felly os  ydy rhywbeth yn teimlo’n amheus, mae’n debygol o fod.”

Am ragor o gyngor defnyddiol, yn  rhad ac am ddim, am gadw’n ddiogel ar y we, ewch i www.getsafeonline.org

*Pensions Management Institute