Skip to main content

Arian a atafaelwyd gan droseddwyr yn rhoi hwb newydd i bentref

Dyddiad

Arian a atafaelwyd gan droseddwyr yn rhoi hwb newydd i bentref

Mae ysgol segur ar Ynys Môn sy'n cael ei throi'n ganolbwynt pentref ffyniannus wedi cael hwb ariannol diolch i arian parod a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr.

Mae hen ysgol gynradd Llanddona yn cael ei chodi i'r safon gofynnol fel ei bod yn cydymffurfio â rheoliadau’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch ac Anabledd a bydd grant o £2,500 o gronfa arbennig a ddosbarthwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones yn mynd tuag at y costau adnewyddu.

Daw’r grant o gronfa arbennig sydd wedi cael ei dosbarthu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, sydd â chyfanswm o £61,901 ynddi eleni ac sy’n cynnwys dau gyfraniad mawr a neilltuwyd yn benodol i ymladd bygythiad Llinellau Cyffuriau.

Mae menter Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei chefnogi gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru sy’n dathlu eu 21ain pen-blwydd eleni.

Daw’r cyllid ar gyfer y cynlluniau o arian gafodd ei atafaelu gan y llysoedd drwy’r Ddeddf Elw Troseddau gyda’r gweddill yn dod o Gronfa Comisiynydd yr Heddlu.

Mae pob un o chwe sir y rhanbarth wedi derbyn hyd at £2,500 yr un ar gyfer dau grŵp gyda £5,000 yr un hefyd wedi’i neilltuo ar gyfer dau grŵp arall sy’n gweithredu mewn tair neu fwy o siroedd.

Yn ychwanegol eleni, diolch i gyllid ychwanegol gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru, mae dau grant newydd o £10,000 ar gael.

Bwriad y grantiau sylweddol hyn yw ariannu prosiectau sy’n delio â phroblemau sy’n deillio o fygythiad Llinellau Cyffuriau, lle mae pobl ifanc yn cael eu gorfodi a’u bygwth â thrais i gymryd rhan mewn gweithgareddau anghyfreithlon ar draws y rhanbarth.

Roedd tua 15,000 wedi bwrw pleidlais ar-lein i benderfynu pa un o’r cynlluniau cymunedol ddylai dderbyn cefnogaeth, a chyflwyniad sieciau i’r 19 ymgeisydd llwyddiannus ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn.

Mae Rhian Hughes, sy'n cadeirio pwyllgor Calon y Pentref Neuadd Bentref Llanddona yn dweud y bydd eich arian Eich Cymuned, Eich Dewis yn gwneud llawer i helpu gyda'r gwaith adnewyddu.

Dywedodd: “Mae wedi bod yn frwydr galed ers i'r ysgol gau bum mlynedd yn ôl. Ers hynny rydym wedi gwneud cais am lawer o grantiau ac wedi cael rhywfaint o lwyddiant ond mae'r arian hwn yn help mawr.

Rydym wedi colli'r ysgol bentref, y swyddfa bost a rhai cysylltiadau trafnidiaeth felly mae gwir angen y neuadd bentref hon arnom, a bydd yn helpu i ddod â'r gymuned at ei gilydd. Mae'n golygu llawer iawn i'r gymuned ac rydym yn ddiolchgar iawn am bres Eich Cymuned Eich Dewis.”

Ychwanegodd Hannah Elin Baguley, Aelod o'r Pwyllgor: “Fe wnaethon ni gymryd perchnogaeth o'r ysgol ym mis Hydref 2018 ond bydd y gwaith adnewyddu yn brosiect parhaus am flynyddoedd lawer i ddod.

Bydd yr arian hwn yn helpu i gefnogi'r gwaith parhaus hwnnw ac yn ein helpu gyda phrosiectau cymunedol fel Panad a Sgwrs sy'n cynnwys ein preswylwyr hŷn a'n Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu lleol.

Ein dymuniad yw defnyddio ein cyfleuster er mwyn helpu i ddatblygu sgiliau plant yn ein cymuned a bod yn fan cyfarfod i bob oed ddod at ei gilydd i ddysgu Sgiliau Bywyd. Bydd y grant hwn yn sicr o helpu hynny.”

Mae Clwb Ieuenctid Penysarn, sydd â 23 o aelodau, wedi derbyn grant o £1,000 i’w galluogi i deithio i Wlad Belg o gronfa arbennig a ddosbarthwyd gan Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, sydd eleni yn gyfanswm o £61,901 gyda dwy brif rodd wedi ymrwymo i ymladd bygythiad Llinellau Cyffuriau.

Ymgeiswyr llwyddiannus eraill Ynys Môn oedd Clwb Ieuenctid Caergybi am brosiect i weithio gyda Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu i arwain pobl ifanc i ffwrdd o drwbl a Chlwb Ieuenctid Penysarn sydd wedi derbyn £1,000 ar gyfer prosiect hanes a fydd yn helpu i dalu i aelodau’r clwb ymweld â Gwlad Belg i wasgaru pridd lleol ar feddau milwyr o'r pentref a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae menter Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei chefnogi gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru sy’n dathlu eu 21ain pen-blwydd eleni.

Hon yw seithfed flwyddyn y cynllun gwobrau ac mae llawer o’r dros £220,000 sydd wedi'i drosglwyddo i achosion haeddiannol yn y cyfnod hwnnw wedi dod o arian a ddaeth i law drwy'r Ddeddf Elw Troseddau, gan ddefnyddio arian a atafaelwyd o droseddwyr gyda gweddill y cyllid yn dod gan y Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Mae'r cynllun wedi'i anelu at sefydliadau sy'n addo rhedeg prosiectau fydd yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a brwydro yn erbyn trosedd ac anhrefn yn unol â blaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd Arfon Jones.

Eleni mae 19 o grantiau wedi'u rhoi i gefnogi cynlluniau gan sefydliadau cymunedol gyda phleidlais ar-lein yn penderfynu ar yr ymgeiswyr llwyddiannus o blith 35 o brosiectau a gyflwynwyd gyda bron i 15,000 o bleidleisiau yn cael eu bwrw.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru Arfon Jones, a gyflwynodd y wobr ar y cyd gyda’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol newydd Sacha Hatchett: “Rwy’n falch iawn fod cronfa Eich Cymuned Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ar draws gogledd Cymru am y seithfed flwyddyn yn olynol.

Mae’r gronfa unigryw yma’n caniatáu i’n cymunedau benderfynu pa brosiectau ddylai gael cefnogaeth ariannol drwy ein system pleidleisio ar-lein ac mae’r ymateb wedi gweld bron i 15,000 o aelodau’r cyhoedd yn pleidleisio dros gyfanswm o 30 prosiect.

Mae’r prosiectau yma’n cefnogi fy Nghynllun Heddlu a Throsedd sydd â´r pwrpas o sicrhau fod Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi sylw penodol i’r pwyntiau hynny sydd wedi cael eu hadnabod fel rhai hanfodol gennyf i, y cyhoedd, ac yn wir yr heddlu ei hunain.

Bydd nifer ohonoch yn ymwybodol o’r ymgynghoriad Trydydd Sector diweddar a gynhaliwyd gen i, sydd wedi arwain at ddiweddaru fy mlaenoriaethau i gynnwys y ffyrdd rydym yn delio gyda thueddiadau sy’n dod i'r amlwg gan gynnwys Troseddu Cyfundrefnol a cham-fanteisio ar bobl fregus

Fel rhan o hyn, rwy’n bwriadu sicrhau bod ffocws clir yn parhau i gael ei roi ar droseddau llinellau cyffuriau - ffurf filain o droseddu sy’n cymryd mantais ar bobl ifanc bregus a’u troi at fywyd o droseddu sy’n beryglus a threisgar iawn lle nad oes llawer o ffyrdd i ddianc ohono.

Rwy’n falch iawn o weld bod nifer o’ch ceisiadau yn ceisio mynd i'r afael â’r broblem hon a chefnogi ein pobl ifanc.

Mae grwpiau cymunedol yn hanfodol i ddinasyddion gogledd Cymru, ac maent yn helpu ein cymunedau i fod ymysg y llefydd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hwynt yn y Deyrnas Gyfunol.”

Dywedodd Sacha Hatchett: “Mae’r arian yma’n cynnwys arian gafodd ei atafaelu gan droseddwyr o dan y Ddeddf Elw Troseddau. Mae hon yn neges bwysig iawn oherwydd drwy agwedd broffesiynol Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a chefnogaeth y llysoedd, rydym yn medru taro’r troseddwyr lle mae’n eu brifo fwyaf - eu pocedi.

Mae ein gweithrediadau yn targedu pob math o droseddau difrifol gan gynnwys troseddau traws-ffiniol, lladradau arfog, defnydd anghyfreithlon o ddrylliau yn ogystal â chynhyrchu, mewnforio a chyflenwi cyffuriau.

Mae’r rhai sy’n rhan o droseddu difrifol yn aml iawn yn byw ymhell tu hwnt i’w modd, drwy yrru ceir drud, byw mewn tai mawr a mynd ar wyliau dramor yn aml; ac mae’n bosib iawn eu bod yn gallu byw bywyd fel hyn oherwydd yr elw maent wedi’i wneud o droseddau.

Mae ein cymunedau yn parhau i chwarae rhan yn y llwyddiant yma diolch i wybodaeth leol sy’n cael ei rhoi i’r swyddogion sydd yn ein helpu i ddod â’r troseddwyr yma o flaen eu gwell.

Mae’n danfon neges bositif bod arian sy’n cael ei gymryd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian drwg yn arian da gaiff ei ddefnyddio i bwrpas adeiladol.”

Cynrychiolwyr Neuadd Bentref Llanddona yn derbyn eu gwobr Eich Cymuned Eich Dewis ym Mhencadlys Heddlu'r Gogledd, o'r chwith, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sacha Hatchett, Hanna Elin Baguley a Rhian Hughes gyda Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones.