Skip to main content

Arwyr lleol yn cael eu cydnabod gan y CHTh mewn Seremoni Gwobrau Cymunedol arbennig

Dyddiad

Awards 2

Dychwelodd Seremoni Gwobrau Cymunedol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ar ddydd Iau, 16 Mehefin, er mwyn dathlu'r bobl yn ein cymunedau ledled y rhanbarth sy'n gwneud gwahaniaeth i gynorthwyo'r heddlu a'u cyd-ddinasyddion. Nododd y noson ddychweliad derbyniol y gwobrau yn dilyn saib o ddwy flynedd oherwydd y pandemig.   

Bu'r digwyddiad yn y Quay Hotel and Spa yn Neganwy a gwelwyd dros 100 o westeion yn dod at ei gilydd. Roeddent yn cynnwys y cyhoedd, yr heddlu, y gwasanaethau brys, gwleidyddion lleol a chenedlaethol, elusennau a'r trydydd sector ehangach yng Ngogledd Cymru.

Mae'r gwobrau yn cydnabod yr arwyr lleol sy'n aml yn ddisylw sy'n gweithio yn y cefndir er mwyn cynorthwyo dioddefwyr, adsefydlu a lleihau tebygolrwydd ac effaith trosedd ledled y rhanbarth.  Gwelodd y broses enwebu swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr o Heddlu Gogledd Cymru yn cyflwyno awgrymiadau o bobl maent wedi gweithio gyda nhw yn y gymuned fel enillwyr. 

Agwedd newydd o'r gwobrau eleni oedd bod busnesau lleol yn enwebu'r categorïau gwahanol. Cyfrannodd bob cwmni £300 a oedd yn cae ei roi'n uniongyrchol i achos da er mwyn cynorthwyo eu gwaith caled yn y gymuned. Naddwyd enw bob enillydd, ynghyd ag enw'r noddwr, ar y tlws gwydr arbennig a gyflwynwyd ar gyfer bob categori gwobr gan y Comisiynydd. 

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwyf yn falch o gydnabod cyfraniad cymaint o bobl ledled Gogledd Cymru i'w cymunedau a'u gwaith caled wrth gynorthwyo gwaith yr heddlu a'r gwasanaethau brys. Nodwedd arbennig o'r gwobrau hyn ydy eu bod yn bwrw goleuni ar bobl yn ein cymdeithas sy'n gweithio'n ddiflino – yn aml tu ôl i'r llenni – er mwyn gwneud gwahaniaeth. Mae fy Ngwobrau Cymunedau am amlygu'r cyfraniad hwnnw a diolch i'r enillwyr ar ran pobl Gogledd Cymru am yr oll maent yn ei wneud."

Andy

Y rhestr lawn o'r enillwyr ydy:

Pencampwr Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt – Noddwyd y wobr gan NFU Cymru

Malcolm Ingham

Swyddog Bywyd Gwyllt wedi ymddeol ydy Malcolm sy'n arbenigwr mewn moch daear a brochfeydd. Mae wedi cynorthwyo Heddlu Gogledd Cymru ar sawl achlysur dros yr 8 mlynedd diwethaf yn ein helpu i ymchwilio i darfu ar setiau moch daear a throseddau yn ymwneud ag ymladd moch daear. Mae ei gefnogaeth a'i arbenigedd yn casglu gwybodaeth yn y maes hwn wedi bod yn amhrisiadwy.

Mae wedi gweithio yn ddyfal dros y blynyddoedd yn cynnig tystiolaeth arbenigol sydd wedi galluogi'r heddlu nid yn unig i erlyn ond hefyd wedi arwain at euogfarnu llwyddiannus gan roi gangiau trefnedig o dan glo.

Gwobr Pencampwr Cymunedol – Noddwyd y wobr gan Gartref Preswyl Brompton Lodge, Llandrillo yn Rhos

Meryl Williams

Mae Meryl Williams yn gweithio fel rheolwr yng nghaffi a chanolfan galw heibio Hafan Age Cymru yng nghanol dinas Bangor. Mae'r caffi yn darparu lle i bobl hŷn o ardal Bangor i gyfarfod, cymdeithasu a chael cymorth os oes angen ac y gallent gael bwyd a diod am brisiau rhesymol.  Pwrpas y caffi yw hyrwyddo rhyngweithio cymunedol a chymdeithasol ar gyfer pobl hŷn. Mae swyddogion heddlu lleol yn cynnal cymorthfeydd yn y caffi lle gallent siarad â phobl am droseddau a phroblemau yn y gymuned a all eu heffeithio. Mae brwdfrydedd Meryl tuag at ei gwaith yn denu pobl yn ôl o hyd ac felly'n lleihau unigedd sy'n ffactor allweddol yn arwain at fregusrwydd i drosedd.   Mae ei gwaith hefyd yn galluogi Heddlu Gogledd Cymru i gadw mewn cysylltiad gyda phobl hyn yn yr ardal. 

Gwobr Cymunedau Diogelach – Noddwyd y wobr gan Grŵp Hamdden Tir Prince

Mesut Alkir a Jo Alkir

Mae Mesut a Jo Alkir, Efenechtyd yn sir Ddinbych, wedi cyfrannu yn sylweddol i wella diogelwch ar y ffyrdd i bobl ifanc. Dair blynedd yn ôl, bu farw merch Jo a Mesut sef Olivia mewn gwrthdrawiad traffig ffordd. Ers hynny, maent wedi ymgyrch ynghylch diogelwch ffyrdd ac wedi rhoi cefnogaeth werthfawr i greu pecyn addysgiadol wedi ei ddatblygu gan raglen SchoolBeat i addysgu gyrwyr ifanc. Gan ddefnyddio stori Olivia, cyfrannodd Jo a Mesut at ffilm a lansiwyd ym mis Mawrth. Buont yn gweithio'n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru i wneud y prosiect yn deilwng o Olivia, gan sicrhau ei fod yn addas ar gyfer cynulleidfa ifanc. Mae'r ffilm yn defnyddio ffilm a sain o noson y ddamwain sy'n creu ymateb dirdynnol ac effeithiol.

Gwobr Pencampwr Dioddefwyr – Cam-drin Domestig – Noddwyd y wobr gan PACT Gogledd Cymru

Jessica Russell

Mae Jess Russell yn fam i 12 o blant sy'n rhoi cymorth sylweddol i'r heddlu o ran cam-drin domestig. Mae wedi cynorthwyo mentrau sy'n cynorthwyo i leihau tebygolrwydd ac effaith y troseddau hyn yn digwydd i bobl eraill ac yn rhoi mewnbwn i hyfforddiant swyddogion. Mae Jess wedi goroesi cam-drin domestig ei hun. Cafodd ei cham-drin gan ei chyn ŵr am dros 18 mlynedd. Mae Jess wedi defnyddio ei hanes ei hun i gynorthwyo pobl eraill a chyfrannu at hyfforddi swyddogion heddlu a phobl eraill am y math hwn o drosedd a'r effaith ar y dioddefwr. Mae'n siarad â swyddogion heddlu newydd yn ystod eu hyfforddiant am yr anawsterau a'r rhwystrau y mae dioddefwyr yn eu hwynebu. Mae'n gweithio'n ddiflino dros ddioddefwyr cam-drin domestig.

Pencampwr Dioddefwr – Caethwasiaeth Fodern

Glory Williams

Am fwy na degawd mae Glory Williams wedi gweithio i BAWSO yng Ngogledd Cymru, yn cynorthwyo dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol. Yn fwy diweddar, mae hefyd wedi canolbwyntio ar gynorthwyo dioddefwyr caethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Mae BAWSO yn sefydliad ymatebwyr cyntaf caethwasiaeth fodern. Mae hyn yn golygu eu bod yn rhan o fframwaith ymateb cenedlaethol y DU i gynorthwyo a gwarchod dioddefwyr. Yn ei gwaith gyda dioddefwyr caethwasiaeth fodern, mae Glory wedi arddangos ei hymroddiad sy'n mynd yr ail filltir. Gan fod y math hon o drosedd yn aros yn gudd neu yn ddirgel, mae'n bwysig iawn i'r heddlu gael gweithiwr proffesiynol yn gweithio ar y cyd gyda nhw sy'n arbenigwr ym maes anghenion dioddefwyr a sut i'w cynorthwyo yn effeithiol.

Pencampwr Dioddefwyr – Troseddau Casineb

Dr Salamatu J. Fada – Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru

Mae Dr Salamatu J. Fada yn gyd-sylfaenydd a chadeirydd Cymdeithas Affricanaidd Gogledd Cymru ac wedi gweithio'n galed yn y rôl yn cynnal perthynas waith dda gyda Heddlu Gogledd Cymru. Mae Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru (NWAS) yn sefydliad cymunedol yng Ngwynedd. Mae'n gasgliad o aelodau o bobl o gyfandir Affrica a phobl sydd â diddordeb diwylliannol yn Affrica. Mae rhai aelodau wedi dioddef Trosedd Casineb. Dr Salamatu wedi cefnogi'r bobl hyn ac wedi cadw mewn cysylltiad â heddlu lleol er mwyn sicrhau cysondeb cyfathrebu rhwng pawb. Dr Salamatu yn aml yw'r pwynt cyswllt cyntaf ac mae'n cynnig cyngor, cymorth ac arweiniad ynghylch trosedd casineb. Mae'n cael ei gwerthfawrogi gan y tîm plismona lleol am ei hymdrechion yn cynorthwyo dioddefwyr ac yn hwyluso cyfathrebu da.

Gwobr Pobl Ifanc – Noddwyd y wobr gan CAFgas

Ameera Ahmad, Karly Larkin, Beth Rhodes, Morgan Wall – Ysgol Uwchradd Prestatyn

Datblygwyd ymgyrch 'Discrimination. It Stops With Me' yn Ysgol Uwchradd Prestatyn yn 2020 yn dilyn sgwrs rhwng Ameera Ahmad, disgybl ysbrydoledig a'r Dirprwy Bennaeth. Mynegodd Ameera, a oedd ym mlwyddyn 10 ar y pryd, ei phryderon ynghylch gwahaniaethu a throsedd casineb yn yr ysgol a'r gymuned ehangach. Gofynnodd i staff wneud mwy i fynd i'r afael â hyn. Fe wnaeth cyd-ddisgyblion Ameera sef Beth Rhodes, Morgan Wall a Karly Larkin ymuno â hi. Maent i gyd wedi dangos dyfalbarhad mawr i ddechrau'r prosiect a sicrhau ei lwyddiant parhaus. Mae'r ymgyrch wedi creu newid ac wedi bod yn ffordd o ddangos ymroddiad yr ysgol i gael gwared â wahaniaethu ac i greu newid positif. Mae wedi ymgorffori gwers newydd o fewn cwricwlwm yr ysgol wedi ei anelu at fynd i'r afael â gwahaniaethu, rhagfarn a bwlio.  

Gwobr Pobl Ifanc – Noddwyd y wobr gan Knightly's

We Are Plas Madoc (Ymddiriedolaeth Cymunedau Adeiladu)

Mae trigolion stad dai Plas Madoc yn Wrecsam wedi dod at ei gilydd i redeg We Are Plas Madoc (Ymddiriedolaeth Cymunedau Adeiladu). Sefydlwyd y fenter hon er mwyn dod a chymunedau a thrigolion Plas Madoc at ei gilydd i fanteisio ar grant nawdd loteri er budd pawb yn y gymuned.   Mae'r ardal wedi profi heriau sylweddol dros y blynyddoedd yn cynnwys ymdrin ag effeithiau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae sawl grŵp a gweithgaredd gymunedol wedi'u sefydlu sy'n hybu ymdeimlad cryf o gymuned a chynorthwyo i ddatrys unrhyw broblemau yn eu babandod neu eu hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf. Mae We Are Plas Madoc yn cynnal cyfarfodydd misol gyda phartneriaid lleol sy'n cynnwys AVOW, yr heddlu a'r cyngor lleol, ynghyd â thrigolion y stad, er mwyn trafod unrhyw broblemau neu bethau y buasai'r trigolion yn hoffi ei weld yn digwydd ar y stad. Mae eu gwaith partneriaeth effeithiol wedi arwain at gymuned leol well a mwy diogel.

Gwobr Adsefydlu – Noddwyd y wobr gan y Quay Hotel and Spa, Deganwy

John Edwards

Am nifer o flynyddoedd, mae John Edwards wedi bod yn ymweld â charcharorion fel gwirfoddolwr, fel rhan o'r tîm caplaniaeth i Gymdeithas Carcharorion. Yn fwy diweddar, mae wedi bod yn cyflwyno cyrsiau Cyfiawnder Adferol i gynorthwyo carcharorion ddeall effaith eu gweithredoedd a chael cefnogaeth i wneud newidiadau. Mae John wedi bod yn gwirfoddoli i'r Gymdeithas Carcharorion ers 1995 ac mae wedi ymweld â nifer o garchardai yn cynnwys CEM Alcourse, Risley a Berwyn. Mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser sbâr gyda chyn-droseddwyr a'r rhai hynny gydag anghenion cymhleth. Mae ei gymorth ar y lefel hon yn lleihau'r tebygolrwydd o aildroseddu ac yn rhoi'r cyfle iddynt siarad am unrhyw anawsterau sydd ganddynt.

Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig – Noddwyd y wobr gan Spillane & Co, Bae Colwyn

Jane Ruthe

Dechreuodd Jane Ruthe (sydd yng Nghaernarfon) weithio i'r Ganolfan Cymorth Treisio a Cham-drin RHywiol (RASASC) yn 2001 pan adwaenid hi fel y Llinell Argyfwng Treisio. Am dros 20 mlynedd mae wedi cynorthwyo'r sefydliad ac wedi arwain iddo ddatblygu a thyfu ar draws Gogledd Cymru. O dan arweinyddiaeth Jane, mae RASASC Gogledd Cymru wedi datblygu yn sylweddol. Mae Jane wedi datblygu gwasanaeth lle mae goroeswyr yn gweld a chael cymorth yn rhwydd. Maent yn cael eu clywed. Mae'r gefnogaeth yn ddiduedd, hygyrch, teg a phriodol. Mae gallu Jane i ddeall anghenion goroeswyr a gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth wedi dod â gwasanaeth o'r radd flaenaf i ddioddefwyr. Mae Jane wedi bod yn benderfynol a phroffesiynol i ddod â RASASC i lle mae heddiw.  Mae'n enillydd teilwng o'r wobr hon.