Skip to main content

CHTh yn creu Panel Dioddefwyr i sicrhau bod llais y dioddefwr yn cael ei glywed yn y frwydr yn erbyn troseddau

Dyddiad

Victims Panel

Yn ddiweddar gwireddodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd addewid allweddol a wnaeth pan gafodd ei ethol i'r rôl drwy gynnal cyfarfod cyntaf Panel Dioddefwyr Gogledd Cymru. Cyfarfu'r panel yng Nghanolfan Busnes Conwy yng Nghyffordd Llandudno i glywed oddi wrth ddioddefwyr troseddau am eu profiadau o blismona a'r system gyfiawnder troseddol.

Yn ei faniffesto a'r Cynllun Heddlu a Throsedd dywedodd Andy Dunbobbin y byddai'n " Sefydlu Panel Dioddefwyr sy'n rhoi cyfle i ddioddefwyr a goroeswyr ddweud wrthym beth y gellir ei wneud yn well a dal y CHTh, yr heddlu a'r asiantaethau i gyfrif."

Mae'r panel yn cael ei gadeirio gan y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd, Wayne Jones, ac yn bresennol mae staff Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (SCHTh) a Chanolfan Cymorth Dioddefwyr (VHC). Gwasanaeth yw VHC wedi ei gomisiynu gan CHTh i gynnig cyngor a chefnogaeth i ddioddefwyr troseddau ac mae’n helpu gweinyddu rhedeg y panel a gweithio gyda dioddefwyr er mwyn rhannu eu syniadau.

Rhoddodd wyth dioddefwr eu hadborth ar y diwrnod yn cynnwys amrywiaeth o fathau gwahanol o droseddau a phrofiadau o'r system gyfiawnder troseddol. Mae'r themâu a drafodwyd yn y panel yn hyblyg a gall fod yn drosedd benodol neu yn faterion mwy cyffredinol y maent wedi profi o fewn y broses gyfiawnder troseddol. Pan fydd themâu penodol yn cael eu trafod, bydd aelodau ychwanegol o'r panel yn gallu cynnig eu harbenigedd wrth ddelio â materion sensitif, er enghraifft cam-drin ddomestig neu drais rhywiol. Mae hyn i gyd yn cael ei wneud yn gyfrinachol, gan sicrhau bod preifatrwydd y dioddefwr yn cael ei ddiogelu pan roddir adborth.

Y nod wrth fynd ymlaen yw y bydd y panel yn cwrdd bob chwarter ac yn darparu adborth i'r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol (LCJB) drwy SCHTh: Bydd y SCHTh yn paratoi adroddiadau ar gyfer LCJB gan gytuno ar weithrediadau ar sail yr adborth a gaiff ei ddarparu. O fewn ffrâm amser dylai'r LCJB ofyn i'r asiantaeth bartner roi diweddariadau ar weithred ac ar argymhellion a gwelliannau i wasanaethau dioddefwyr o ganlyniad uniongyrchol i ymgysylltiad â dioddefwyr. Bydd Canolfan Cymorth Dioddefwyr yn gweithio gyda dioddefwyr i'w diweddaru ar unrhyw welliant i'r gwasanaeth.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Pan gefais fy ethol, roeddwn yn benderfynol y dylid gwrando ar leisiau dioddefwyr troseddau fel bod gwelliannau yn gallu cael eu gwneud yn y system.   Dw i'n falch bod cyfarfod cyntaf Panel Dioddefwyr Gogledd Cymru wedi digwydd.

“Pwrpas y Panel yw sicrhau bod lleisiau'r dioddefwyr yn dylanwadu ar ddarparu gwasanaeth a sicrhau bod Asiantaethau Cyfiawnder Troseddol yn rhoi gwasanaeth ardderchog i'r dioddefwyr. Ethos y panel yw un sy'n gwrando, gan alluogi'r dioddefwyr i siarad yn rhydd, fel ein bod yn gallu deall sut i wneud eu profiad, a phrofiad dioddefwyr eraill yn well."

Dywedodd Wayne Jones, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae sgandalau diweddar mewn Heddluoedd ar draws y DU wedi effeithio ar hyder y cyhoedd yn yr heddlu a'r system gyfiawnder troseddol ac mae'n bwysig ein bod ni yng Ngogledd Cymru yn gwneud ein rhan yn ail-adeiladu hyder y cyhoedd yn y gwasanaeth. Mae rhan o hyn yn golygu deall profiadau pobl o'r system gyfiawnder troseddol a sut, fel dioddefwyr, maent wedi canfod y gwasanaeth a ddarparwyd ar eu cyfer.  Mae'n bwysig ein bod ni'n clywed hyn, fel ein bod ni'n gallu nodi pa welliannu y gellir eu gwneud ac fel ein bod yn gallu sicrhau bod pobl yn derbyn y gwasanaeth gorau a mwyaf effeithiol, ar gyfnod bregus iawn ym mywydau pobl."

Dywedodd Jess Rees, Rheolwr Ardal, Cymorth Dioddefwyr: “Rydym yn gwybod pan ddaw dioddefwyr ymlaen a riportio trosedd i'r heddlu maent am iddynt wrando a'u cymryd o ddifrif. Mae'n hanfodol bod heddluoedd lleol yn deall anghenion penodol y gymuned y maent yn gweithio iddynt. Felly rydym yn croesawu creu Panel Dioddefwyr Gogledd Cymru a gobeithiwn fod eu lleisiau a'u profiadau yn gallu atgyfnerthu'r gwasanaeth y mae Heddlu Gogledd Cymru yn darparu i ddioddefwyr troseddau."