Skip to main content

Covid yn gorfodi gangiau cyffuriau I manteisio ar blant mewn cartrefi gofal

Dyddiad

Pennaeth heddlu yn galw am ymchwiliad i honiadau yn erbyn carcharorion Cymraeg

Mae pennaeth heddlu yn ofni bod plant mewn gofal yn cael eu recriwtio gan gangiau llinellau cyffuriau creulon.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi cael gwybod bod cyfyngiadau cyfnodau clo Covid-19 wedi gorfodi arweinwyr gangiau troseddol i newid eu “model busnes”.

Yn hytrach na dod â rhedwyr ifanc o Lannau Merswy a Manceinion i ogledd Cymru, credir bod y gangiau bellach yn meithrin perthynas amhriodol â phobl ifanc bregus mewn cartrefi gofal er mwyn gwerthu heroin a chocên ar strydoedd y Gogledd.

Dyna yw barn y sefydliad trosedd a chyfiawnder arbenigol, Crest Advisory, ymgynghoriaeth gyda ffocws ar ymchwilio’r fasnach llinellau cyffuriau anfad.

Mae mynd i’r afael â gangiau llinellau cyffuriau yn flaenoriaeth fawr i Arfon Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu ac yn eiriolwr blaenllaw dros ddiwygio’r gyfraith cyffuriau.

Meddai: “Mi wnaiff model busnes troseddwyr cyfundrefnol addasu i amgylchiadau os yw’r troseddwyr yn credu y gallan nhw wneud mwy o arian.

“Gyda’r ffyrdd yn dawelach a llai o bobl ar y trenau, mae hi wedi bod yn haws i’r heddlu, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, a ni ein hunain, ganfod pobl sy’n dod i ogledd Cymru i ddelio mewn cyffuriau.

“Felly beth maen nhw’n ei wneud yn awr yw ceisio recriwtio plant a phobl ifanc yn lleol ac rwy’n poeni’n benodol bod pobl mewn gofal yn cael eu recriwtio i ddelio mewn cyffuriau.

“Un o’r materion pwysicaf i mi yw cyfweliadau cartref ar ôl i blant fynd ar goll - mae’n bwysig iawn bod y rhain yn cael eu cynnal

“Arferai’r cyfweliadau hyn gael eu hariannu ar draws siroedd y Gogledd gan Lywodraeth Cymru ac ers i’r ariannu hynny ddod i ben rydym wedi ceisio cael awdurdodau lleol i ymuno efo ni i barhau â’r arfer hwn ond yn lle hynny maen nhw wedi mynd eu ffordd eu hunain.

“Rwyf bellach yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i gomisiynu tîm o bobl i gynnal y cyfweliadau hyn gyda phlant sydd wedi mynd ar goll yn y boblogaeth gyffredinol ac o gartrefi gofal.

Cynhaliodd Crest Advisory gyfweliadau gyda swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Glannau Merswy, yn ogystal ag asiantaethau eraill, fel rhan o brosiect ehangach yn edrych ar linellau cyffuriau a phlant sy’n derbyn gofal.

Dywedodd Joe Calouri, pennaeth polisi Crest: “Oherwydd y defnydd o dechnoleg ac apiau a chyfryngau cymdeithasol, mae’n hawdd iawn i gangiau recriwtio plant heb hyd yn oed eu cyfarfod trwy gael cyfoedion i’w recriwtio a’u rheoli trwy apiau rhwydwaith cyfryngau cymdeithasol.

“Rydyn ni’n feirniadol iawn o lywodraeth ganol yn ein casgliadau ac yn argymell eu bod nhw’n cyflwyno strategaeth genedlaethol sy’n cynnwys sawl adran o’r llywodraeth.

“Yng ngogledd Cymru mi wnaethon ni ddarganfod nad oedden ni’n gallu ymgysylltu ag awdurdodau lleol o gwbl yn ein hymchwil ac nid ydym wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth eu bod yn cymryd unrhyw gamau nac yn ymrwymo unrhyw adnoddau I ddelio â’r mater.

“Maen nhw wedi cael cyfle i achub y blaen ar y troseddwyr ond yn lle hynny maen nhw wedi claddu eu pennau yn y tywod.

“Dylai pobl yng ngogledd Cymru fod yn bryderus iawn am fygythiad niweidiol llinellau cyffuriau.

“Dros amser mewn rhannau eraill o’r wlad rydyn ni wedi gweld cynnydd, wrth i gangiau ddechrau recriwtio’n fwy lleol a dibynnu llai ar fasnachu plant dros ffiniau, mewn lefelau o drais, ac yn aml bydd gangiau yn ffurfio ar sail ardal cod post gan arwain at lefel uchel o drais a hyd yn oed llofruddiaeth mewn rhai sefyllfaoedd.

“Mae gan ogledd Cymru gyfle i fod ar y blaen o ran atal hyn rhag digwydd, ond i wneud hynny mae angen cydnabod bygythiad llinellau cyffuriau yn lleol a gweithredu, yn hytrach na’i drin fel problem sydd wedi dod i mewn o’r tu allan o Lannau Merswy.”