Skip to main content

Cyngor ar osgoi twyll i'r dim i drigolion Gogledd Cymru

Dyddiad

Mae pob cefnogwr cerddoriaeth a chwaraeon yn gwybod y gall tocynnau ar gyfer nosweithiau, gwyliau, gemau mawr a thwrnameintiau werthu'n gyflym iawn. Er mwyn osgoi siom, efallai gwnaiff pobl droi at y cyfryngau cymdeithasol, marchnadoedd ar-lein, neu fforymau cefnogwyr er mwyn chwilio am docynnau. Efallai y byddant yn lwcus, neu efallai byddant yn cael eu twyllo, sydd hyd yn oed yn fwy siomedig. Mae pobl yn colli allan ar docynnau, ond hefyd maent yn colli eu pres. 

Dyna pam, yn ystod mis Ebrill, mae Heddlu Gogledd Cymru a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn gweithio hefo arbenigwyr diogelwch ar-lein sef Get Safe Online er mwyn amlygu rhai o'r bygythiadau wrth brynu tocynnau ar-lein. Mae Get Safe Online yn brif ffynhonnell gwybodaeth deg, ffeithiol a hygyrch ar ddiogelwch ar-lein yn y DU. Mae'n wasanaeth wedi'i gomisiynu gan SCHTh a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn rhannu gwybodaeth a chyngor defnyddiol hefo pobl yr ardal. 

Dywedodd PC Dewi Owen o Dîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru: “Bydd llawer o bobl yn edrych ymlaen at fynd i ddigwyddiadau dros yr haf fel gwyliau cerddoriaeth a digwyddiadau chwaraeon eleni. Fodd bynnag, mae troseddwyr ar-lein yn gweld hyn fel cyfle er mwyn targedu mynychwyr gwyliau a chefnogwyr chwaraeon posibl hefo cynigion ar docynnau twyllodrus. Yn ôl Action Fraud, gwnaeth dros 7,000 o bobl ddioddef twyll tocynnau yn 2022, a oedd yn cyfateb i golledion dros £6.7 miliwn hefo'r dioddefwr cyffredin yn colli cannoedd o bunnau'r un.

"'Da ni felly'n annog pawb ar draws Gogledd Cymru fod yn wyliadwrus am dwyllwyr ar-lein yn gwerthu tocynnau ffug neu docynnau sydd ddim yn bodoli ar gyfer digwyddiadau. Er enghraifft, hefo tocynnau Taylor Swift yn boblogaidd iawn yr haf hwn a lleoliadau wedi gwerthu ar draws Ewrop, mae'r heddlu ar draws Cymru a Lloegr wedi derbyn nifer uchel o adroddiadau am ddioddefwyr yn cael eu targedu mewn marchnadoedd ar-lein gan dwyllwyr sy'n honni gwerthu eu tocynnau Taylor Swift gan na allent fynychu bellach. Yn ddi-os, bydd galw mawr am rai tocynnau Ewro 24 yr haf hwn hefyd. Dylai tocynnau ond cael eu talu a'u trosglwyddo drwy werthwyr a gwefannau swyddogol ac os yw'n bosibl, talu gan ddefnyddio cerdyn credyd, neu wasanaethau talu fel PayPal sy'n rhoi gwell cyfle i chi gasglu'r pres os 'da chi'n dioddef twyll. Osgowch dalu am docynnau drwy drosglwyddiad banc, yn enwedig os 'da chi'n prynu gan rywun dydych chi ddim yn eu hadnabod.

"Byddwch yn ymwybodol o negeseuon e-bost, negeseuon neu gyhoeddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol digymell am fargeinion anhygoel o dda ar docynnau, yn enwedig os ydy'r tocynnau'n boblogaidd neu wedi gwerthu allan. Os ydyw'n edrych yn rhy dda i fod yn wir, mae felly. Os 'da chi'n prynu gan werthwr, gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n aelod o'r Gymdeithas Gweithredwyr a Manwerthwyr Tocynnau (STAR). Os ydyn nhw, mae'r cwmni wedi cofrestru hefo'u safonau llywodraethu llym.  Mae STAR hefyd yn cynnig gwasanaeth Datrys Anghydfod Amgen cymeradwy er mwyn helpu cwsmeriaid hefo cwynion nodedig. Am fwy o wybodaeth ewch ar: www.star.org.uk/buy_safe 

"Os 'da chi wedi prynu tocynnau ar-lein, gallwch golli eich tocynnau os ydy eich cyfrif e-bost neu gyfrif ar-lein yn cael ei hacio hefyd. Gwarchodwch eich cyfrifon ar-lein pwysig hefo cyfrineiriau cryf, hir ac unigryw. Mae defnyddio 3 gair ar hap a rhoi nhw at ei gilydd yn ffordd effeithiol o greu cyfrinair cryf a chofiadwy. 'Da ni hefyd yn annog pawb droi Dilysu 2 Gam ymlaen ar eu cyfrifon gan fod hyn yn ychwanegu lefel ychwanegol o ddiogelwch i gyfrifon. Os 'da chi eisiau dysgu mwy ynghylch sut i wneud hyn, ewch ar wefan Cyber Aware Cyber Aware – NCSC.GOV.UK

Fe ychwanegodd Tony Neate, Prif Swyddog Gweithredol Get Safe Online: "Mewn twyll tocynnau, mae'r gwerthwr yn dweud wrthych chi y gwnân nhw bostio neu e-bostio'r tocynnau cyn gynted ag eich bod wedi trosglwyddo'r pres i'w cyfrif banc. Ond pan 'da chi'n trio cysylltu hefo nhw ar ôl i ddim gyrraedd, maen nhw wedi diflannu. Mae'n debyg fod dwsinau o bobl eraill wedi dioddef yr un twyll. Peidiwch â chael eich dal fel hyn a thrïwch ddilyn ein prif gynghorion er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn prynu tocynnau'n saff."

Cynghorion ar osgoi twyll tocynnau

  • Er mor daer 'da chi ar gael mynd i noswaith, gŵyl neu gêm, peidiwch prynu tocynnau gan unrhyw un oni bai am swyddfa docynnau'r lleoliad, y clwb chwaraeon, yr hyrwyddwr, y gweithredwr swyddogol, neu wefannau cyfnewid tocynnau sydd hefo enw da.
  • Ystyriwch fod tocynnau sy'n cael eu hysbysebu ar unrhyw ffynhonnell arall fel gwefannau arwerthu, ar y cyfryngau cymdeithasol a fforymau cefnogwyr yn gallu bod yn ffug neu ddim yn bodoli o gwbl. Efallai bod y gwerthwr yn ymddangos yn ddilys ond gwiriwch ydyn nhw wedi gwerthu o dan, uwchben neu ar ei olwg.
  • Peidiwch â chael eich temtio clicio ar ddolenni ar y cyfryngau cymdeithasol, negeseuon testun neu negeseuon e-bost neu atodiadau'n cynnig tocynnau, gan y gallan nhw gysylltu hefo gwefannau twyllodrus neu faleiswedd.
  • Gall talu am docynnau drwy drosglwyddiad banc – er mor daer 'da chi am eu cael nhw – arwain atoch chi'n colli eich pres os yw'n dwyll. Chi sy'n gyfrifol am golledion, neb arall, gan gynnwys eich banc.
  • Gwiriwch bolisïau preifatrwydd a dychwelyd gwerthwyr.
  • Ystyriwch dalu hefo cerdyn credyd er mwyn cael gwarchodaeth ychwanegol dros ddulliau talu eraill.
  • Gwiriwch holl fanylion eich pryniad cyn cadarnhau'r taliad.
  • Cyn prynu ar-lein, gwiriwch fod y dudalen yn ddilys (rhowch y cyfeiriad eich hun yn ofalus, nid o ddolen) a saff ('https' a chlo clap wedi'i gloi) ac allgofnodwch pan 'da chi wedi cwblhau'r trafodyn. Gallwch wirio os ydy gwefan yn debygol o fod yn gyfreithlon neu'n dwyllodrus ar  www.getsafeonline.org/checkawebsite
  • Cadwch dderbynebau tan ar ôl y digwyddiad.
  • Os 'da chi hefyd yn chwilio ac yn archebu llety, dilynwch ein cyngor ni ar wneud yn saff. 

Am fwy o gyngor am ddim ac ymarferol ar gadw'n saff ar-lein, ewch ar www.getsafeonline.org