Skip to main content

Cytundebau Cydweithio

Cydweithio yng Nghymru

Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru (WECTU)

Sefydlwyd WECTU yn 2006 gan ffurfio un Gangen Arbennig ar gyfer Cymru gyfan.  Ei gylch gwaith ydi diogelu Cymru rhag terfysgaeth ryngwladol ac eithafiaeth ddomestig ac mae’n cael ei arwain gan Strategaeth Gwrthderfysgaeth y Llywodraeth a elwir yn CONTEST.  Drwy weithio ar y cyd mae WECTU yn bwriadu gweithio’n fwy effeithiol yn ei ymateb i’r bygythiad gan derfysgaeth ac eithafiaeth genedlaethol a rhyngwladol.  Bydd yn ceisio sicrhau bod trigolion Gogledd Cymru yn ddiogelach drwy feithrin hyder a ffydd yn ein cymunedau drwy weithio gyda’r cyhoedd a’n partneriaid i adnabod, targedu ac aflonyddu ar derfysgwyr ac eithafwyr. 

Cydweithio gyda'r Gogledd Orllewin

Uned Chwilio Tanddwr

Mae’r uned yn gwasanaethu ardaloedd Swydd Gaer, Manceinion Fwyaf, Glannau Mersi, Swydd Gaerhirfryn, Cymbria a Gogledd Cymru ac yn cynnwys staff o’r chwe ardal gyda chost yr uned yn cael ei rhannu rhwng bob un o’r ardaloedd plismona hynny. 

Plismona Arfog ar Uned Gwn Heddlu

Heddlu Sir Gaer a Heddlu Gogledd Cymru wedi creu cynghrair plismona arfog ac uned cwn.

Uned Troseddau Rhanbarthol

Mae’r Uned, sydd yn cael ei nabod fel Titan, yn gwasanaethu ardaloedd Swydd Gaer, Manceinion Fwyaf, Glannau Mersi, Swydd Gaerhirfryn, Cymbria a Gogledd Cymru ac yn bodoli er mwyn cynyddu capasiti a gallu gweithredol er mwyn mynd i’r afael â bygythiad  troseddau trefnedig yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr drwy sefydliad tasglu rhanbarthol.   Am fwy o wybodaeth am yr Uned Rhanbarthol ymwelwch a www.titanrocu.org.uk

Uned Cudd-wybodaeth Ranbarthol

Mae’r Uned yn gwasanaethu ardaloedd Swydd Gaer, Manceinion Fwyaf, Glannau Mersi, Swydd Gaerhirfryn, Cymbria a Gogledd Cymru ac yn chwarae rôl allweddol o ran mynd i’r afael â throsedd traws-ffiniol.  Mae’r uned yn bwydo gwybodaeth i mewn i weithredu sy’n digwydd ar lefel ranbarthol yn ogystal â chasglu gwybodaeth a fydd yn hysbysu gwaith y dyfodol. 

Tîm Adfer Asedau Rhanbarthol  

Mae’r Uned yn gwasanaethu ardaloedd Swydd Gaer, Manceinion Fwyaf, Glannau Mersi, Swydd Gaerhirfryn, Cymbria a Gogledd Cymru a’i nod yw darparu gallu gweithredol aml-asiantaeth sydd â chyfrifoldeb am ymchwilio i wyngalchu arian ac adfer asedau.

Fforenstig Rhanbarthol

Cytundeb Cydweithredu Fforensig Rhanbarthol Adran 22A Heddlu Swydd Gaer, Cymbria, Swydd Gaerhirfryn, Glannau Mersi a Heddlu Gogledd Cymru i gynnwys Profion Cyffuriau, Esgidiau, Arfau Tanio, Tocsicoleg a Gwasanaeth Cludo Fforensig.

Gwasaneaeth Telegyfathrebiadau 

Cytundeb ar y Cyd rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Sir Gaer ar gyfer gwasanaeth pwynt cyswllt telegyfathrebiadau 24/7 ar gyfer caffael data cyfathrebiadau o dan Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016.

Mae'r cytundeb ar y cyd wedi ei arwyddo gan y Prif Gwnstabl a Chyrff Plismona Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Sir Gaer.

Mae'r cyrff plismona yn gyfrifol am lywodraeth, strategaeth, yn gwneud y Prif Swyddogion yn atebol, trefniadau ariannol a datrys anghydfodau sy'n codi o'r cydweithio.   Mae Prif Swyddogion yn gyfrifol am arweiniad a rheolaeth cyfrifoldebau o ddydd i ddydd i aelodau'r Uned Gwasanaethau Telegyfathrebiadau.

Cydweithio gyda Heddluoedd Cymru a Lloegr

Sefydliad Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu

Nod y Cyngor yw dod â'r holl heddluoedd yn y DU at ei gilydd i helpu plismona i gydgysylltu gweithrediadau, diwygio, gwella a darparu gwerth am arian.

Darpariaeth Swyddfa Cofnodion Troseddol ACRO 

Cefnogi gorfodi cyfraith y DU a chyfraith rhyngwladol drwy brosesu cofnodion troseddol at ddibenion diogelu'r cyhoedd, diogelu a diogelwch cymunedol byd-eang..

Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Balisteg Cenedlaethol (NABIS)

Mae NABIS yn darparu gwybodaeth amser cyflym sy'n gysylltiedig â'r defnydd troseddol o ddrylliau tanio, gan gysylltu digwyddiadau drylliau tanio ledled y DU i helpu i ddatblygu dealltwriaeth genedlaethol o ddefnyddio, cyflenwi, mewnforio a gweithgynhyrchu drylliau tanio anghyfreithlon.

Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu (NPAS)

Mae NPAS yn darparu cymorth awyr di-ffiniau i'r heddluoedd ledled Cymru a Lloegr 24/7/365 o rwydwaith cenedlaethol o ganolfannau..

Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Troseddau Cerbydau Cenedlaethol (NAVCIS) / yr Uned Troseddau Bywyd Gwyllt Cenedlaethol (NWCU) ac Uned Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data Cenedlaethol yr Heddlu (NPFDU).

Mae NAVCIS yn darparu cyswllt rhwng plismona a diwydiant, mae NWCU yn rhoi cymorth i bob heddlu ar faterion bywyd gwyllt, mae NPFDU yn rhoi cyngor proffesiynol ar ryddid gwybodaeth a materion diogelu data..

Hafan Ar-lein Unigol

Sefydlu llwyfan cenedlaethol ar gyfer cyflwyno ystod o wasanaethau ar-lein. 

Rhaglen Trawsnewid Caethwasiaeth Fodern yr Heddlu

Mae heddluoedd Cymru a Lloegr wedi cytuno i gydweithio o ran ymestyn a chynnal Rhaglen Trawsnewid Caethwasiaeth Fodern yr Heddlu a fydd yn eu cynorthwyo i wella eu hymatebion i Dimau Caethwasiaeth Fodern. 

Y Rhwydwaith Ymchwilio Gwrthdrawiadau Fforensig (FCIN). 

Cytundeb Adran 22A ar gyfer sefydlu Rhwydwaith Ymchwilio Gwrthdrawiadau Fforensig yn ffurfiol ar gyfer pob heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Llofnodwyd y cytundeb cydweithio hwn gan Brif Gwnstabliaid a Chyrff Plismona'r holl heddluoedd yng Nghymru a Lloegr.

Amcan y trefniant yw i bob heddlu yng Nghymru a Lloegr ennill achrediad UKAS mewn ymchwiliad gwrthdrawiadau fforensig erbyn mis Hydref 2023 ac wedi hynny cynnal achrediad UKAS o dan ymbarél Tîm Rheoli FCIN Heddlu Gogledd Cymru sy'n cynnal ymchwiliad gwrthdrawiadau fforensig achrededig. 

Mae'r cyrff plismona yn gyfrifol am lywodraethu, strategaeth, dwyn Prif Swyddogion perthnasol i gyfrif, trefniadau ariannol a datrys anghydfodau sy'n deillio o'r cydweithio.   Mae'r Prif Swyddogion yn gyfrifol am gynghori'r Cyrff Plismona ar ystyriaethau gweithredol sydd i'w cynnwys yn strategaeth, monitro ac effeithlonrwydd y FCIN, anghydfodau sy'n deillio o safbwynt gweithredol a chyfeiriad a rheolaeth swyddogion o fewn y FCIN.

Cytundeb Cydweithrebu Cenedlaethol o ran Canolfan Genedlaethol Cydlynu'r Heddlu (NPoCC)

Mae’r NPoCC yn galluogi Prif Swyddogion annibynnol gweithredol ac atebol lleol i gydlynu lleoli swyddogion a staff heddlu ledled plismona’r DU er mwyn cynorthwyo heddluoedd yn ystod digwyddiadau mawr, ymgyrchoedd ac mewn cyfnodau o argyfwng cenedlaethol e.e. llifogydd mawr ac argyfyngau sifil. 

Y Cyrff Plismona fydd yn gyfrifol am lywodraeth, strategaeth a chymeradwyo cyllideb,  inter alia.

Y Prif Gwnstabliaid fydd yn gyfrifol am gynghori’r Cyrff Plismona ar ystyriaethau gweithredol, cynlluniau cyflenwi ac argymhellion a nhw fydd yn cyfarwyddo a rheoli swyddogion o fewn y SCHTHC.