Skip to main content

Dim osgoi cyfrifoldeb gan y banciau, medd pennaeth heddlu

Dyddiad

040518 PCC -1

Mae pennaeth heddlu yn galw ar y banciau i dalu am swyddog penodol yng ngogledd Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r nifer cynyddol o droseddau twyll ar adeg pan maent yn cau canghennau ar draws y rhanbarth.

Naill ai hynny neu mi ddylent helpu i ariannu staff ychwanegol yng Nghanolfan Cymorth Dioddefwyr y rhanbarth sy’n rhoi cefnogaeth hanfodol i bobl sydd wedi cael eu twyllo o’u harian gan ladron creulon.

Dyna’r neges gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones sy’n dweud bod gan y banciau ddyletswydd i wneud mwy i helpu pan fo’u cwsmeriaid yn aml yn gorfod teithio’n bell iawn ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb oherwydd bod eu canghennau lleol wedi cau.

Roedd Mr Jones yn siarad yn ystod ymweliad â’r ganolfan gymorth yn Llanelwy, sy’n delio gyda’r nifer mwyaf erioed o alwadau gan ddioddefwyr pob math o droseddau.

Y llynedd, deliodd canolfan Llanelwy â 34,000 o achosion, mwy nag unrhyw ganolfan arall yng Nghymru.

Amlygwyd problem twyll yn ddiweddar gan achos dyn oedrannus yn ei 70au a gollodd bron i £300,000 o’i gynilion mewn twyll.

Yn yr achos hwnnw, roedd y sgamwyr wedi perswadio’r dioddefwr dros gyfres o alwadau ffôn ei fod mewn perygl o golli ei gynilion oherwydd bod gweithiwr banc anonest yn dwyn o’i gyfrif banc.

Yr unig ffordd o amddiffyn ei arian yn ddiogel, yn ôl y twyllwyr, oedd trosglwyddo ei gynilion dros dro i “gyfrif diogel” arall, ond cyfrif y twyllwyr eu hunain oedd hwnnw.

Mae’n stori sy’n rhy gyfarwydd i Sioned Jacobson, rheolwr gweithrediadau’r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr.

Dywedodd: “Mae’r llwyth gwaith yn sicr yn cynyddu. Rydym yn cael rhwng 80 a 120 o achosion y dydd yn uniongyrchol gan yr heddlu, ac ar ben hynny rydym yn cael  pobl yn cyfeirio eu hunain atom, yn ogystal â chael achosion wedi’u cyfeirio yma gan asiantaethau eraill, neu ardaloedd eraill o bob rhan o’r DU, oherwydd gellir trosglwyddo achosion i ni os yw’r dioddefwr yn byw yng ngogledd Cymru.

Yn ogystal â’n tîm ni yma yn Llanelwy, mae gennym gronfa o 35 o wirfoddolwyr ar draws gogledd Cymru a all gynnig y cymorth emosiynol pwysig hwnnw i ddioddefwyr, gan eu helpu gyda’r hyn sydd wedi digwydd, eu helpu i ddatblygu strategaethau ymdopi, yn ogystal â phethau eraill fel cymorth ymarferol.

Mae llawer o’r achosion rydym wedi’u cael yn ddiweddar yn rhai lle mae rhywun wedi hacio i gyfrifiadur, a gofyn i bobl roi eu cyfrinair a’u manylion banc, ac yna wedi i’r troseddwr gael y manylion banc maen nhw’n galu dwyn swm sylweddol o arian.

Cafwyd cryn dipyn o achosion o dwyll annifyr lle cafodd llawer o arian dioddefwyr ei ddwyn, mewn un achos dygwyd rhwng £250,000 a £300,000.

Nid yw hyn o reidrwydd yn ymwneud â’r swm o arian sydd wedi cael ei ddwyn, mae’n ymwneud ag effaith y drosedd ar y dioddefwr.”

Yn ôl y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Arfon Jones, roedd y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr yn darparu gwasanaeth rhagorol.

Dywedodd: “O ran ei maint, dyma’r ganolfan sy’n perfformio orau yng Nghymru gyfan ac rwy’n falch iawn ein bod ni’n darparu gwasanaeth o’r safon uchaf i bobl gogledd Cymru.

“Mae’n deg dweud ein bod ar flaen y gad o ran cefnogi dioddefwyr ond mae’r galw’n cynyddu, ac wrth i fwy o bobl ddod i wybod am y gwasanaeth, mae’r pwysau arnom yn cynyddu hefyd, felly mae angen i ni barhau i adolygu lefel yr adnoddau sydd gennym yno er mwyn ymdopi â’r galw cynyddol.

Mae’r cynnydd yn nifer yr achosion o dwyll yn destun pryder arbennig oherwydd bod y twyllwyr yma’n manteisio ar bobl fregus, nid yn unig yng ngogledd Cymru. Mae’n broblem anferth ar draws y DU.

Y ffactor allweddol yw bregusrwydd y dioddefwr, beth bynnag yw’r drosedd a hoffwn wneud mwy ynghylch dioddefwyr twyll sy’n agored i niwed.

Mae pobl fregus, yn aml yn henoed, yn cael eu targedu’n benodol ac mae hynny’n warthus.

Rydym wedi cael enghreifftiau yn y gorffennol o bobl fregus i bob pwrpas yn cael eu paratoi dros gyfres o alwadau ffôn ac yna cael arian yn cael ei ddwyn oddi wrthynt a benthyciadau yn cael eu gwneud yn eu henw.

Dyma’r math gwaethaf o drosedd oherwydd bod y dioddefwyr wedi gweithio’n galed ac arbed eu harian ar hyd eu bywydau dim ond i’w weld yn diflannu ar ôl ychydig o alwadau ffôn.

Os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir yna mae’n debyg nad yw’n wir, a dyna’r neges y mae’n rhaid i ni ei throsglwyddo.

Rwy’n gwybod bod banciau eisoes yn helpu mewn rhai meysydd ac mae ganddynt berthynas dda efo Action Fraud yn Ninas Llundain ond os ydym am fynd i’r afael go iawn â thwyll, mae angen i’r banciau wneud mwy i helpu.

Hoffwn weld y banciau yn darparu rhywfaint o werth cymdeithasol yng ngogledd Cymru trwy ariannu swyddog heddlu pwrpasol i ymladd twyll neu staff yn y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr.

Dydw i ddim yn gofyn i un banc penodol, rwy’n credu y dylent ddod at ei gilydd i helpu oherwydd bod ganddyn nhw lawer o gwsmeriaid yng ngogledd Cymru ac maent yn gwneud llawer o arian allan o bobl yng ngogledd Cymru.

Mae’n hen bryd iddynt roi rhywbeth yn ol i’r gymuned, yn enwedig ar adeg pan maen nhw’n cau canghennau.

Nid yw llawer o bobl yn gyfforddus ynglŷn â bancio ar-lein ac mae hynny’n ddigon dealladwy oherwydd rydym yn dal i weld enghreifftiau o hacwyr yn llwyddo i dorri i mewn i’r hyn ddylai fod yn systemau diogel.

Mae yna rannau mawr o gefn gwlad gogledd Cymru lle mae’n rhaid i chi deithio milltiroedd lawer i wneud unrhyw fancio.

Os ydych chi’n dioddef twyll ac am fynd i siarad â rhywun wyneb yn wyneb yn y banc, yna mewn llawer o ardaloedd mae fwy neu lai yn amhosibl i chi wneud hynny

Os ydych chi’n hŷn, yn methu symud yn rhwydd ac os nad oes gennych gludiant, fedrwch chi ddim gwneud hynny.

O dan yr amgylchiadau, mi allai ac mi ddylai’r banciau wneud mwy i helpu dioddefwyr troseddau. Dyma’r lleiaf y gallant ei wneud.”