Skip to main content

Eich Cymuned Eich Dewis

Dyddiad

Eich Cymuned Eich Dewis

Bydd arian a atafaelwyd gan ddihirod yn cael eu defnyddio i gynorthwyo plant a phobl ifanc ddianc o grafangau gangiau Llinellau Cyffuriau yn camfanteisio arnynt i werthu cyffuriau mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru. 

Bydd ymdrin â throseddau difrifol a threfnedig yn flaenoriaeth i'r gronfa arbennig o £40,000 a sefydlwyd gan Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru gyda chymorth Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (PACT).

Bydd hanner yr arian yn cael ei gyfrannu gan y Comisiynydd, gyda'r gweddill yn dod o botyn o arian a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr drwy'r Ddeddf Enillion Troseddau.

Nod cynllun Eich Cymuned Eich Dewis yw ailgylchu enillion twyll dihirod at ddibenion cadarnhaol.

O ganlyniad, bydd dau grŵp cymunedol ym mhob sir yng Ngogledd Cymru yn derbyn hyd at £2,500 yr un tra bydd dau grant am £5,000 ar gael i sefydliadau sy'n gweithio ledled tair sir neu fwy yng Ngogledd Cymru.

Mae'r ffenest i grwpiau gyflwyno ceisiadau yn agor am gyfnod o bedair wythnos ar 11 Tachwedd, gyda'r enillwyr yn cael eu dewis gan bleidlais gyhoeddus.

Dywedodd y Comisiynydd Jones, sy'n gyn-arolygydd: “Canolbwynt cronfa Eich Cymuned Eich Dewis eleni yw atal y bygythiad i'n cymunedau sy'n dod oddi wrth gangiau cyffuriau o'r ardaloedd trefol ac sy'n defnyddio neu'n cam-fanteisio ar bobl ifanc i werthu cyffuriau yn ein cymunedau.

Y nod yw creu gwytnwch mewn cymunedau i atal y bygythiad hwn, ac atal grwpiau trosedd trefnedig rhag treiddio i'n trefi a phentrefi a cham-fanteisio a gorfodi pobl ifanc bregus i werthu cyffuriau. Yn ei hanfod, rydym yn siarad am gosbi gangiau Llinellau Cyffuriau.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cymryd camau mawr wrth ymdrin â'r broblem o Linellau Cyffuriau, ac adnabod y rhai sy'n gyfrifol, a chael gwared ar y gangiau.  Rydym wedi cael llwyddiannau mawr mewn cael gwared ar grwpiau trosedd trefnedig.

Ond mae ein cymunedau angen chwarae eu rhan wrth hysbysu Crimestoppers am hyn. Gellir cysylltu â nhw'n ddienw drwy ffonio 0800 555 111.

Pa well ffordd i ddefnyddio enillion trosedd na chynorthwyo cymunedau i greu gwytnwch ymysg eu pobl ifanc eu hunain.

Mae elfen o haeddiant mewn defnyddio arian a gafwyd drwy drosedd i ymdrin â'r broblem o droseddau yn ein cymunedau.

Mae Llinellau Cyffuriau yn un o'r prif flaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd ac felly mae yn ffitio i'w gilydd. Lleihau cam-fanteisio’n droseddol ar bobl ifanc yw'r flaenoriaeth gyffredinol yn fy nghynllun. Mae Llinellau Cyffuriau wrth galon hwnnw.”

Roedd yn deimlad a ategwyd gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sacha Hatchett.

Dywedodd: “Mae'r gwobrau hyn yn bwysig oherwydd eu bod yn cynnwys y gymuned. Mae'r cymunedau'n penderfynu lle gall yr arian gael ei wario orau.

Mae llawer o'r hyn a ariannwn wedi'i anelu at roi rhywbeth i bobl ifanc gymryd rhan yn hytrach na chael eu temtio i gyflawni trosedd neu ymbleseru mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydym eisiau cynorthwyo cymunedau fel eu bod yn gallu bod yn gyfrifol am eu hardaloedd eu hunain.

Gall grwpiau cymunedol llai wneud llawer iawn i wneud cymunedau'n fwy diogel, lleihau trosedd a lleihau aildroseddu. Mae hefyd yn anfon neges dda i'r cymunedau oherwydd ei fod yn dangos ein bod yn gwrando arnynt.

Y nod yw creu gwytnwch mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru i gynorthwyo pobl fregus i atal pethau fel Llinellau Cyffuriau.

Dwi'n meddwl na all troseddoldeb dyfu weithiau mewn ardaloedd lle na wnaiff y gymuned adael iddo wneud.

Rwy'n cael boddhad arbennig o wybod fod rhan o'r nawdd yn dod o enillion trosedd. Mae arian a gymerir o bocedi troseddwyr a'u henillion twyll gan y llysoedd yn dychwelyd i fentrau cymunedol.

Mae'n troi arian drwg i arian da. Mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol oherwydd mai pobl leol sy'n adnabod a deall eu problemau lleol a sut i'w datrys. Mae hon yn agwedd gadarnhaol iawn i'r cynllun ac mae'n cynorthwyo i ddod â ni'n agosach at y cymunedau hynny."

Ychwanegodd Dave Evans, rheolwr PACT:

“Rhaid i ymgeiswyr fod yn grŵp cymunedol â chyfansoddiad iawn neu'n elusen gofrestredig. Y prif feini prawf yw bod y prosiect yn cynorthwyo'r Cynllun Heddlu a Throsedd drwy gyflwyno cymdogaethau mwy diogel.

Mae'n rhoi'r cyfle i ni ymgysylltu gydag amrywiaeth eang o grwpiau cymuned. Yn bwysig hefyd, mae'n rhoi'r cyfle i dimau cymdogaethau diogelach lleol ymgysylltu gyda'r grwpiau hynny a'u cynorthwyo gyda'u prosiectau.

Mae ymgeiswyr sy'n ystyried gwneud cais angen cysylltu gyda'u tîm plismona cymdogaethau lleol i drafod eu cynnig a sicrhau ei fod mor gynhwysfawr â phosibl a bod eu Harolygydd Ardal yn ei gefnogi.”

Dyddiad agor ar gyfer ceisiadau yw 11 Tachwedd a rhaid eu dychwelyd ar e-bost at yourcommunityyourchoice@nthwales.pnn.police.uk erbyn 5yh ar y dyddiad cau sef 6 Rhagfyr.

Ewch ar wefan Heddlu Gogledd Cymru www.north-wales.police.uk am fwy o wybodaeth neu wefan y Comisiynydd www.northwales-pcc.gov.uk neu ffoniwch 01745 588516