Skip to main content

Heddwas ymateb arfog yn dipyn o arwr ar ôl achub dau fywyd

Dyddiad

270721 PCC Shea-1

Mae arwr heddlu “eithriadol” wedi cael ei enwebu ar gyfer dwy anrhydedd fawr ar ôl helpu i achub dau fywyd mewn dau ddiwrnod.

Mae'r swyddog ymateb arfog PC Richard Shea yn cael ei enwebu am ganmoliaeth swyddogol gan Heddlu Gogledd Cymru a gwobr y Liverpool Shipwreck and Humane Society.

Daeth y newyddion am ei wrhydri i'r amlwg yn ystod ymweliad Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, ag Uned Plismona Arfog y Gynghrair. 

Fel aelodau eraill y tîm ymateb arfog, mae’r PC Shea, a ymunodd â Heddlu Gogledd Cymru yn 2013 gan ddod yn aelod o’r uned ymateb arfog dair blynedd yn ddiweddarach, wedi cael ei hyfforddi mewn gofal trawma uwch ac mae gan bob un o’r tîm becyn llawn cyfarpar meddygol lefel uchel.

Digwyddodd yr achos cyntaf o achub bywyd pan wnaeth PC Shea a'i bartner, PC Damien Boyle, ymateb  i argyfwng meddygol ar yr A55 i gyfeiriad y dwyrain ger Brychdyn.

Roeddent yn mynd i'r cyfeiriad arall pan welsant fod person yn derbyn Dadebru Cardio-ysgyfeiniol (CPR) mewn cilfan ar yr ochr arall i'r ffordd ddeuol.

Wedi troi yn ôl ar y gyffordd nesaf, asesodd yr Heddwas Shea gyflwr y wraig a chanfuwyd "nid oedd yn anadlu, nid oedd ganddi guriad calon, nid oedd yn ymwybodol ac i bob pwrpas roedd wedi marw".

Meddai PC Shea: "Mi wnaeth fy mhartner osod llwybr anadlu igel, gan gysylltu silindr ocsigen trwy Fasg-Falf-Bag ac mi wnes i barhau gyda’r CPR gan roi anadliadau i'r claf.

“Pan wnaethon ni gyrraedd roedd yna aelod o’r cyhoedd yn y fan a’r lle yn rhoi CPR ac roedd partner y claf hefyd yn rhoi anadliadau iddi.

“Cymerais drosodd y cywasgiadau a chawsom ddiffibriliwr i weithio hefyd a rhoi sioc i'r claf. Cynghorodd y peiriant diffibriliwr y dylem roi sioc arall a dyna wnaethon ni.

“Cyrhaeddodd dau ambiwlans ac ambiwlans awyr a chafodd y claf ei chymryd i mewn i ambiwlans ac o ganlyniad i'r gofal o gafodd yno llwyddwyd i gael curiadau ei chalon yn ôl.

“Yna aeth heddwas traffig i wirio pethau gyda’r ysbyty ac mae’n debyg bod y person wedi cael llawdriniaeth, a’r newyddion diweddaraf a gawsom oedd bod pethau’n gwella.

“Digwyddodd yr ail achos ddiwrnod a hanner yn ddiweddarach. Roedd rhywun arall a oedd wedi dioddef ataliad ar y galon ar safle carafanau ger y Rhyl. Doedden nhw ddim yn ymwybodol, a doedden nhw ddim yn anadlu chwaith.

“Ar y diwrnod hwnnw roeddwn yn gweithio mewn criw ger Cyffordd Llandudno ac roedd fy arweinydd, y Rhingyll Adam Sargeant, a PC Gary Faulkner, mewn lleoliad arall.

“Felly fe ddaethon ni o ddau leoliad ar wahân i’r digwyddiad, a phan gyrhaeddais i yno roedd dau heddwas lleol o’r Rhyl yn gweithio ar y claf ac roedd aelodau o’r teulu yno’n gwylio.

“Unwaith eto, nid oedd gan y wraig hon unrhyw guriad calon, ac nid oedd yn anadlu, doedden hi ddim efo ni mewn gwirionedd felly fe wnaethon ni agor y pecyn trawma.

“Gofynnais i rywun wneud CPR wrth i mi drefnu yr igel a’r ocsigen ac yna mi wnes i roi CPR, gan wneud hynny am yn ail efo Gary Faulkner a phobl eraill oedd yno.

“Cyrhaeddodd yr ambiwlans ac mi wnes i barhau i roi CPR yn yr ambiwlans, wrth i’r parafeddygon gynnal eu gwiriadau, ac o ganlyniad i'r CPR dechreuodd ei chalon guro ar ei phen ei hun eto cyn i'r ambiwlans gychwyn, felly cafwyd adferiad da y tro yna.

“Yn amlwg , swyddogion ymateb arfog ydyn ni, nid parafeddygon ond mae natur y swydd rydyn ni'n ei gwneud yn golygu ein bod ni'n cael ein galw i lawer o argyfyngau meddygol. Yn aml, rydyn ni'n pontio'r bwlch nes i'r ambiwlans gyrraedd.

“Yn anffodus, nid yw CPR bob amser yn gweithio ond mae siawns dda bob amser o ddod â rhywun yn ôl a chael curiad a rhythm calon eto.

“Mae'r hyfforddiant yn dda iawn. Rydyn ni'n gwneud gofal trawma uwch, a gallwn  bron iawn ofalu am unrhyw beth cyn-ysbyty gyda'r hyn rydyn ni'n ei gario yn y bag  meddygol.”

Roedd y Prif Arolygydd Simon Newell, sydd â chyfrifoldeb dros y Gynghrair Ymateb Arfog – sy’n cael ei rhannu a'i rhedeg ar y cyd gan heddluoedd Gogledd Cymru a Swydd Gaer - yn "hynod o falch" o fedrusrwydd PC Richard Shea wrth helpu i achub dau fywyd mewn cyfnod mor fyr o amser.

Meddai: “Mae'n dangos nad swyddogion arfau ydym yn unig. Mae'r tîm yn dod â llawer iawn mwy i blismona ac amddiffyn y gymuned a chadw pobl yn ddiogel. Nid dim ond ymateb i ddigwyddiadau arfog yw ein gwaith. Rydyn ni wedi ein hyfforddi i lefel aruthrol o uchel, heb fod ymhell o safon parafeddyg.

“Prif swyddogaeth y swyddogion yw achub bywydau a dyna beth rydyn ni'n ei wneud ym mha bynnag ffordd sy'n bosib.

“Maen nhw'n cario'r arfau i amddiffyn y cyhoedd, ac i achub bywydau oherwydd bod rhai digwyddiadau rydyn ni'n mynd iddyn nhw nad oes modd eu datrys ond trwy ddefnyddio arfau.

“Fodd bynnag, y dewis olaf yw hynny bob tro, a byddwn bob amser yn ceisio achub bywyd ar ôl i ni ddefnyddio arfau hefyd.

"Rydym wedi enwebu Rich am ganmoliaeth uchel ac rydym yn bwriadu  ei enwebu ar gyfer gwobr y Liverpool Shipwreck and Humane Society sy’n wobr benodol ar gyfer achub bywydau.”

Croesawyd yr enwebiadau gan y Comisiynydd Dunbobbin a ddywedodd: "Mae swyddogion fel PC Rich Shea yn arwyr bywyd go iawn.

“Maen nhw'n darparu gwasanaeth hanfodol ac yn aml yn rhoi eu bywydau eu hunain ar y lein. Byddai'n naïf ohonom i beidio â bod yn barod na chael unrhyw beth wedi'i gynllunio i frwydro yn erbyn y sefyllfaoedd ofnadwy a all godi fel hyn.

“Fodd bynnag, rwy’n siŵr na fyddai llawer o bobl yn sylweddoli bod swyddogion ymateb arfog hefyd wedi’u hyfforddi bron at safon parafeddygon. Yn ogystal â gorfodi'r gyfraith, maen nhw'n amddiffyn bywydau ym mha bynnag ffordd y gallan nhw.

“Mae pobl fel PC Rich Shea yn arbennig iawn. Mae'r hyn y mae wedi'i wneud wrth achub dau fywyd yn anhygoel. Mae'n amlwg yn swyddog eithriadol ac yn glod i'r heddlu. Mae'n haeddu pob anrhydedd am ei weithredoedd achub bywyd arwrol.

“Ni allaf ddiolch digon iddo ef a’i gydweithwyr am bopeth y maen nhw'n ei wneud wrth amddiffyn ac achub bywydau. Bendith arnyn nhw bob un.”