Skip to main content

Dyddiad

Mam a ddioddefodd flynyddoedd o artaith emosiynol yn annog dioddefwyr cam-drin domestig i gysylltu â llinell gymorth 24/7 newydd

Gellir cysylltu â'r Cynghorwyr Trais Domestig Annibynnol yn rhad ac am ddim 24/7 trwy ffonio'r Llinell Gymorth Am Ddim Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800

Mae mam i ddau o blant a ddioddefodd flynyddoedd o artaith emosiynol gan ei phartner yn annog dioddefwyr cam-drin domestig i ofyn am gymorth gan wasanaeth cymorth allai achub bywydau yn ystod yr argyfwng Coronafeirws.

Mae'r gwasanaeth rhanbarthol Ymgynghorydd Annibynnol Trais yn y Cartref (IDVA) newydd ymestyn ei weithrediad o bum niwrnod i saith diwrnod yr wythnos a bydd cefnogaeth ar gael 24 awr y dydd diolch i arian gan Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Dywedodd y wraig, sydd bellach wedi gwahanu oddi wrth ei herlidiwr creulon, fod ymestyn y gwasanaeth yn allweddol i bobl y mae eu lles corfforol a meddyliol yn hongian ar linyn yn ystod cyfyngiadau llym yr argyfwng Coronafeirws.

Dywedodd y wraig yr ydym yn ei galw’n Lily er mwyn amddiffyn ei diogelwch - er nad dyna yw ei henw iawn – ei bod yn hanfodol i’r neges gyrraedd dioddefwyr er mwyn iddyn ddeall bod help yn dal i fod ar gael er gwaethaf y cyfyngiadau llym.

Yng ngogledd-orllewin Cymru mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg gan Gorwel, ac yn y gogledd-ddwyrain mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan yr Uned Diogelwch Trais Teuluol (DASU) yng Nglannau Dyfrdwy.

Wrth i arbenigwyr cenedlaethol hefyd rybuddio y gallai pellhau cymdeithasol tymor hir arwain at gynnydd mewn trais yn y cartref, dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd fod  ymestyn y gwasanaeth Ymgynghorydd Annibynnol Trais yn y Cartref yn digwydd ar adeg hanfodol.

Dywedodd Mr Jones, sy'n gyn arolygydd heddlu, ac sydd wedi gwneud mynd i’r afael â cham-drin domestig yn un o brif flaenoriaethau ei gynllun plismona, fod ofnau difrifol y bydd digwyddiadau o drais yn y cartref yn cynyddu wrth i deuluoedd sydd mewn perygl gael eu cadw gyda’i gilydd am gyfnodau hir.

Dioddefodd Lily, sydd bellach yn ei 40au, flynyddoedd o gam-drin emosiynol gan ei chyn bartner, a thad ei dau blentyn.

Wrth weld yr effaith seicolegol ddifrifol yr oedd y cam-drin yn ei chael arnynt, yn ogystal ag arni hi ei hun, cymerodd y cam dewr o ofyn am gymorth gan Gorwel, sy’n cael ei reoli gan gymdeithas dai Grŵp Cynefin ac sy'n cefnogi dros 100 o blant sy'n dioddef camdriniaeth yn y cartref.

Ond mae Lily bellach yn ofni y gallai dioddefwyr feddwl nad oes unman iddynt droi ynghanol yr argyfwng coronafeirws, a bod yn rhaid iddynt ddioddef cael eu cam-drin, neu hyd yn oed yn ystyried niweidio eu hunain yn eu gofid.

Meddai: “I aelwydydd sydd â phatrwm parhaus o gam-drin domestig, gallai'r canlyniadau fygwth bywydau.”

Mae'r ffigurau diweddaraf yn datgelu bod 959 achos o drais domestig wedi'u hadnabod ar draws chwe awdurdod gogledd Cymru mewn blwyddyn.

Mae llawer o weithwyr proffesiynol yn credu y gallai hyn gynyddu'n sylweddol yn sgil  gwrthdaro a phobl yn colli tymer yn y cartref wrth i bobl sydd fel arfer ar wahân yn y gwaith neu'r ysgol yn ystod y dydd orfod aros gyda'i gilydd drwy'r amser.

Er nad oedd partner Lily erioed yn gorfforol dreisgar tuag ati, roedd yn chwarae gemau meddyliol di-baid, gan ei sarhau’n eiriol, a’i chyhuddo a’i bygwth hi o flaen y plant, a chreu straeon annifyr amdani.

Meddai: “Hyd yn oed os nad oes trais corfforol mae’r effeithiau seicolegol ar blant yn enfawr. Mi fydden nhw'n fy ngweld yn crio, yn teimlo'n ddiymadferth ac yn annigonol. Ni allwn adael iddyn nhw barhau i weld pethau felly yn digwydd dro ar ôl tro. Nid bywyd teuluol arferol ydi hynny.”

Clywodd Lily am Gorwel gan ffrind ond meddai, gan nad oedd ei phartner yn gadael iddi gael swydd na mynd allan yn gymdeithasol, byddai ei ffrindiau ond yn dod draw i'w gweld pan nad oedd ei phartner o gwmpas.  

Meddai: “Fy ffrindiau oedd fy achubiaeth, ond pan mae popeth wedi cau i lawr fel hyn efallai na fydd gan ddioddefwyr unrhyw ffordd o gysylltu na siarad yn breifat efo ffrindiau neu deulu. Bydd y pwysau arnyn nhw bob awr o’r dydd a’r nos. Efallai y byddan nhw’n teimlo nad oes dianc. Mae mor bwysig iddyn nhw sylweddoli bod yna achubiaeth o hyd, mae mannau diogel ar agor, a gwasanaethau'n dal i weithio galed i'w helpu.”

Dywedodd rheolwr Gorwel, Gwyneth Williams, sydd â mwy nag 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y maes, y gall hunan ynysu neu ynysu cartref gael effaith uniongyrchol ar unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig.

Meddai: “Mae cam-drin domestig yn effeithio ar bob oed, rhyw a phob dosbarth. Rydym mewn cyfnod peryglus lle mae pobl yn naturiol yn ceisio cadw at y rheolau pellhau cymdeithasol sydd ar waith oherwydd yr argyfwng Coronafeirws, ond y gwir trist amdani yw nad yw cartref yn lle diogel i unrhyw un sy'n byw gyda rhywun sy’n cam-drin.

“Mae'n bwysig tynnu sylw at y ffaith bod gwasanaethau hanfodol yn parhau ar agor bob awr hyd yn oed yng nghanol y cyfyngiadau llym presennol.

“Mae gwasanaeth rhanbarthol Ymgynghorydd Annibynnol Trais yn y Cartref yn un sefydliad sy’n cynnig lloches i bobl mewn angen mawr ac mae newydd ychwanegu dau ddiwrnod arall at ei rota fel bod y tîm o weithwyr proffesiynol profiadol ar gael ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos.”

Y gwasanaeth hwn sydd â'r dasg o ddarparu cefnogaeth ddi-dor i bob dioddefwr cam-drin domestig, fel rhan o bartneriaeth ariannu pum mlynedd rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Mae'n costio £540,000 i’w weithredu ar draws chwe ardal awdurdod lleol y rhanbarth: Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, a Wrecsam.

Ychwanegodd Gaynor McKeown, Prif Weithredwr DASU: “Roedd angen cynyddu’r ddarpariaeth o wasanaeth pum niwrnod i gyfleuster saith diwrnod, hyd yn oed cyn yr argyfwng Coronafeirws.

“Lle mae gan bartner hanes o drais yn y cartref, mae’r teulu cyfan mewn perygl.

“Hyd yn oed os yw’r cam-drin yn rhywbeth newydd nad yw wedi digwydd o’r blaen, peidiwch â gadael i’r peth fynd, peidiwch â’i roi i lawr i’r sefyllfa a gadael iddo waethygu. Ceisiwch help.

“Gwaethygir y peryglon os yw yfed yn rhan o’r peth neu os yw plant ifanc yn strancio yn eu tymer. Yn aml, bydd dyn sydd â hanes o geisio rheoli ymddygiad yn beio ei bartner am y peth lleiaf y mae'n ei ystyried yn anghywir ac yn ymosod yn dreisgar.

“Mae hwn yn amgylchedd arbennig o beryglus a brawychus i blant ifanc sy'n dyst i olygfeydd o greulondeb neu sy'n cael eu tynnu i mewn i ffraeo ac ymladd yn y cartref.”

Mae'r gwasanaeth Ymgynghorydd Annibynnol Trais yn y Cartref yn gweithio i symud oedolion a phlant o sefyllfaoedd lle maent mewn perygl, dod o hyd i lety diogel, cwnsela a rhoi cefnogaeth iddynt er mwyn gallu adeiladu bywyd newydd.

Ychwanegodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, fod pryderon ynghylch na fydd gan bobl sydd wedi eu hynysu gyda'r sawl sy’n eu cam-drin yn cael cyfle diogel i alw am help neu gael mynediad at gysylltiadau ar-lein tra bod eu camdriniwr yn agos.

Meddai: “Am y rheswm hwn rydym yn galw ar unrhyw un sy’n poeni am aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog i gysylltu ar eu rhan.

“Ni ddylai unrhyw un sy’n camdrin feddwl am eiliad y gall gyflawni unrhyw fath o ymosodiad heb ganlyniadau oherwydd bod y wlad dan glo.

“Rydym i gyd yn teimlo effeithiau pellhau cymdeithasol a hunan ynysu sydd wedi eu gosod er diogelwch pawb. Mae'n amser gofidus, ond nid oes esgus dros drais corfforol, gorfodaeth emosiynol nac ymddygiad bygythiol waeth beth fo'r amgylchiadau.

“Mae gan gynghorwyr gwasanaeth Ymgynghorydd Annibynnol Trais yn y Cartref brofiad a sgiliau i helpu unrhyw un yn y sefyllfa enbyd hon. Rydym yn annog pobl i beidio ag oedi am eiliad cyn estyn allan am gymorth.”

Gellir cysylltu â'r Cynghorwyr Trais Domestig Annibynnol yn rhad ac am ddim 24/7 trwy ffonio'r Llinell Gymorth Am Ddim Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800


Sut i gael gafael ar help os ydych chi'n profi camdriniaeth:

• Os ydych chi'n teimlo mewn perygl uniongyrchol ond yn methu siarad oherwydd eich bod wedi eich ynysu gyda phartner ymosodol, deialwch 999 a gwasgwch 55. Mae hyn yn arwydd i'r sawl sydd ar ben arall y ffôn bod angen help arnoch ond nad ydych chi'n gallu siarad.

• Gellir lawrlwytho Ap diogel a'i ddefnyddio i gofnodi digwyddiadau o gam-drin domestig.

Sut i helpu ffrind neu aelod o'r teulu sy'n byw gyda cham-drin domestig yn ystod  cyfyngiadau llym yr argyfwng Coronafeirws

• Dylech dybio bob amser bod y sawl sy'n camdrin yn gwrando ar eich galwad neu'n darllen eich negeseuon felly byddwch yn ofalus.

• Cadwch lygad am newidiadau yn y ffordd rydych chi'n cyfathrebu â'ch gilydd fel arfer. Gall rhywun sy'n cael eu cam-drin yn gorfforol osgoi galwadau fideo neu gall rhywun sy'n destun ymddygiad gorfodol a rheoli dorri pob cysylltiad gyda chi yn llwyr.

• Ceisiwch gadw mewn cysylltiad mor aml â phosib ac yn bennaf trwy alwadau fideo neu alwadau llais.

• Cytunwch ar air cod y gellir ei ddefnyddio i nodi'r angen am help.

• Os ydych chi'n poeni bod rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.

• Byddwch yn ymwybodol o'r wybodaeth uchod er mwyn helpu'r rhai sydd wedi'u hynysu gyda phartner ymosodol.