Skip to main content

Newyddion

Ar 30 Hydref aeth Comisiynydd Heddlu a Throsedd Andy Dunbobbin i ymweld â darparwyr hamdden a chwaraeon Gwynedd sef Byw'n Iach yng Nghanolfan Byw'n Iach, Plas Ffrancon ym Methesda er mwyn dysgu sut mae arian o'r Gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo mentrau ar gyfer pobl yr ardal.

Ar 31 Hydref, ymwelodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru â Grwp Sgowtiaid Cyntaf Saltney Ferry er mwyn dysgu mwy am waith a gweithgareddau'r Sgowtiaid.

e Gweithiwr Allgymorth newydd gael ei benodi gan Crimestoppers hefo'r nod o gyflwyno eu prosiect Fearless yng Ngogledd Cymru.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin yn cynnal cymorthfeydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy (Gorllewin Ffordd Caer, Queensferry) i drigolion Glannau Dyfrdwy a'r ardal o 2pm i 4pm ar 22 Tachwedd.

Ar ddydd Gwener, 13 Hydref, gwnaeth dros 100 o ddisgyblion Chweched Dosbarth a Blwyddyn 11 yn Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun brofi sut mae bod mewn achos llys, hefo achos llys ffug ym mhrif neuadd yr ysgol. Cafodd ei noddi gan y darparwr offer drama Kompan.

Fe aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i ymweld â Gwersyll Ardal Talwrn Sgowtiaid Ynys Môn ar 14 Hydref, yn ystod un o'i ddyddiau cynnal a chadw dros yr hydref.

Mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb yn cael ei chynnal rhwng 14 a 21 Hydref ledled y DU, gyda'r nod o daflu goleuni ar bla trosedd casineb.

Ar 29 Medi, gwnaeth CHTh Andy Dunbobbin gyfarfod â Sean Bibby, Cynghorydd Gorllewin Shotton. Diben y cyfarfod oedd gweld sut mae mentrau trechu trosedd yn gwneud gwahaniaeth ac yn helpu cadw trigolion lleol yn saffach yn Shotton. 

Ar 28 Medi, mi wnaeth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Andy Dunbobbin ymweld â Seren Ffestiniog Cyf (Seren) yn eu canolfan ym Mlaenau Ffestiniog i ddysgu mwy am sut mae arian o gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis yn cael ei ddefnyddio i wella ansawdd bywyd pobl gydag anawsterau dysgu.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin yn cynnal cymorthfeydd yng Nghanolfan Glanhwfa, Ffordd Glanhwfa i drigolion Llangefni a'r ardal o 2pm i 4pm ar 25 Hydref fel rhan o'i ymgyrch i ddod â phlismona yn agosach at bobl yr ardal.