Skip to main content

Penaethiaid heddlu'n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i feddwl eto am ystafelloedd cymryd cyffuriau, i arbed bywydau a lleihau trosedd

Dyddiad

Penaethiaid heddlu'n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i feddwl eto am ystafelloedd cymryd cyffuriau, i arbed bywydau a lleihau trosedd

Mae pennaeth heddlu’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i newid eu hagwedd, a pheidio gwrthwynebu darparu ystafelloedd cymryd cyffuriau lle gall pobl sy’n gaeth i gyffuriau roi chwistrelliad iddynt eu hunain, mewn amgylchedd diogel a glân.

Cafodd Ystafelloedd Cymryd Cyffuriau eu defnyddio’n effeithiol yn y Swistir, Portiwgal ac Awstria. Ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod y cynnig i arbrofi gyda’u defnyddio yma, er gwaetha’r ffaith bod marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau wedi cyrraedd niferoedd uwch nag erioed.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, Comisiynydd Durham Ron Hogg a Chomisiynydd Gorllewin Canolbarth Lloegr David Jamieson wedi arwyddo llythyr ar y cyd at Victoria Atkins, yr Aelod Seneddol a’r Gweinidog Trosedd, Diogelu a Bregusrwydd. Ynddo, maent yn dweud eu bod yn “bryderus iawn” bod y Llywodraeth yn parhau i wrthwynebu dechrau defnyddio ystafelloedd cymryd cyffuriau.

Maent wedi mynegi eu barn ar ôl i’r un oedd yn y swydd cyn Ms Atkins, sef Sarah Newton AS, yrru llythyr i’r Cyngor Ymgynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau i ddweud bod yr ystafelloedd hyn yn drafferthus o ran y gyfraith, eu bod yn codi materion moesegol ar gyfer gweithwyr meddygol proffesiynol ac anawsterau i’r heddlu.

Yn ôl y Comisiynwyr, roedd llythyr y Llywodraeth hefyd yn dyfynnu adroddiad yn dangos bod yr ystafelloedd yn cynyddu mynediad at wasanaethau cymdeithasol, iechyd a thriniaeth ar gyfer cyffuriau. Roeddent hefyd yn targedu defnyddwyr cyffuriau trafferthus oedd yn anodd i’w cyrraedd, ac yn darparu amgylchedd diogel lle gallent gael chwistrellu.

Mae’r llythyr at Ms Atkins oddi wrth y Comisiynwyr yn dilyn ymweliad gan Mr Jones a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Durham, Ron Hogg, i Genefa i weld yn uniongyrchol sut yr oedd cyfleuster tebyg wedi arwain at ostyngiad yn y fasnach mewn heroin anghyfreithlon.

Yn y llythyr dywed y Comisiynwyr: “Mae tystiolaeth ryngwladol hefyd yn dangos nad yw ystafelloedd cymryd cyffuriau’n arwain at gyfraddau uwch o droseddau’n ymwneud â chyffuriau, ond yn hytrach gall yr ystafelloedd leihau anhrefn ar y stryd ac ymwneud yr heddlu.

Mae wedi cael ei ddangos bod ystafelloedd cymryd cyffuriau’n lleihau’r rhannu nodwyddau a sbwriel. Mae hynny wedyn yn ei dro yn lleihau’r risg o heintiau firws sy’n cael eu cario mewn gwaed, a gallant leihau marwolaethau yn dilyn gorddos a galwadau ambiwlans oherwydd gorddos, a thrwy hynny leihau’r pwysau ar ein gwasanaethau brys.

Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu bod ystafelloedd cymryd cyffuriau yn arbed mwy o arian nag y maen nhw’n ei gostio, gyda thystiolaeth o Vancouver bod yr ystafell cymryd cyffuriau yno wedi arbed dros $18 miliwn mewn costau iechyd dros gyfnod o 10 mlynedd.

Rydym felly’n gofyn i chi edrych eto ar eich penderfyniad i atal dechrau defnyddio ystafelloedd cymryd cyffuriau, fel enghraifft o ymrwymiad y llywodraeth i edrych pa ddewisiadau eraill sydd ar gael tu mewn i fframwaith y ddeddfwriaeth.

Pe byddai’r Llywodraeth yn caniatáu safle peilot, ar sail asesiad o’r anghenion lleol, i weithredu yn y Deyrnas Unedig, byddem yn gallu dangos beth sy’n gweithio’n lleol.

Rydym yn sicr eich bod chithau, fel ninnau, yn dymuno gweld lleihad mewn marwolaethau’n gysylltiedig â chyffuriau, lleihad mewn risgiau i iechyd, llai o olygfeydd o gymryd cyffuriau’n agored, gwell glendid, llai o ansicrwydd ymysg y cyhoedd o ran y defnydd o gyffuriau a chynnydd mewn gwasanaethau sy’n cefnogi rhai o’r bobl sydd fwyaf ar y cyrion a mwyaf bregus mewn cymdeithas.”

Mae Mr Jones, sy’n gyn arolygydd Heddlu, wedi bod yn annog creu ystafelloedd defnyddio cyffuriau ers amser hir, ac yn credu y dylai bod yn gaeth i gyffuriau gael ei drin fel mater meddygol yn hytrach na throsedd.

Dywedodd Arfon  Jones: “Mae’n gwbl annerbyniol ein bod ni’n colli 2,500 o bobl bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig, sef marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau, yn enwedig gan fod modd i ni atal llawer o’r marwolaethau hyn trwy gael mesurau syml i leihau niwed.

Bûm yn gweithio fel swyddog heddlu am dros 30 mlynedd ac rwyf wedi gweld yn uniongyrchol y difrod torcalonnus y mae cyffuriau’n ei achosi i bobl sy’n gaeth iddyn nhw, eu teuluoedd a’u cyfeillion.

Mae’n gylch dieflig o hunan ddinistr. Bydd pobl sy’n gaeth i gyffuriau yn aml yn lladrata er mwyn gallu prynu eu dos nesaf o gyffuriau. Bydd y bobl hynny’n cael eu harestio, eu herlyn a’u hanfon i’r carchar. Wedyn maen nhw’n dod allan o’r carchar yn dal yn gaeth i gyffuriau ac mae’r cylch yn dechrau eto, fel fersiwn arswydus o’r ffilm Groundhog Day.

Allwch chi ddim gorfodi rhywun i fynd i driniaeth neu adsefydlu hyd nes byddan nhw’n barod i fynd. Hynny ydi natur a grym bod yn gaeth, felly yn y cyfamser fe ddylem ni drefnu bod pethau ar gael i leihau’r niwed ac i ddiogelu defnyddwyr cyffuriau trafferthus.

Mae’n bosibl y byddai’n arbed bywydau pe bai ystafell cymryd cyffuriau ar gael i bobl sy’n dioddef o ddefnydd problemus o gyffuriau fynd i gymryd y cyffuriau eu hunain yn ddiogel ac yn lân, a byddai’n dod â manteision gwirioneddol i’r gymuned.

Byddai cael llai o nodwyddau yn cael eu gadael o gwmpas yn sicrhau bod y strydoedd yn fwy diogel a chyfleusterau glanach yn lleihau lledaeniad afiechydon fel HIV. Ar yr un pryd, byddai’r gwasanaethau brys yn gallu cyrraedd yn gynt at unrhyw un sy’n dioddef gorddos, yn mynd yn dreisiol tra dan ddylanwad neu’n pigo eu hunain efo nodwydd yn ddamweiniol.

Mae’n bwysig i’r gymuned y gall Ystafell Cymryd Cyffuriau leihau trosedd am y bydd yn rhyddhau amser yr heddlu i ganolbwyntio ar droseddau difrifol ac ar yr un pryd yn rhoi cyfle i gynorthwyo’r rhai sy’n cymryd cyffuriau i roi sylw i faterion eraill fel tlodi a digartrefedd.

Mae’r hyn a welais yng Ngenefa wedi cadarnhau ymhellach i mi y byddai ystafelloedd cymryd cyffuriau’n ddefnyddiol yng ngogledd Cymru. Byddan nhw'n lle diogel i ddefnyddwyr problemus gael mynd yn hytrach na gorfod chwistrellu mewn llefydd cyhoeddus a dychryn pobl sy’n gweld y cyflwr maen nhw ynddo. Byddai hefyd lawer mwy diogel iddyn nhw gan nad oes neb erioed wedi marw mewn Ystafell Cymryd Cyffuriau.”

Er nad yw Ron Hogg am weld ystafelloedd fel hyn yn ei ardal ef, mae o blaid Triniaeth gyda Chymorth Heroin. Mae Ron Hogg yn credu y dylai’r gyfraith ganiatáu i Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd sefydlu’r ystafelloedd os ydyn nhw am wneud hynny.

Dywedodd Mr Hogg: “Os ydi’r Llywodraeth eisiau arbed bywydau a gwella cymunedau mae angen caniatáu safleoedd peilot ar gyfer ystafelloedd cymryd cyffuriau er mwyn gweld pa mor effeithiol yw hynny.”

Mae David Jamieson wedi argymell y dylid cynnal astudiaeth i weld pa mor ymarferol fyddai cael ystafelloedd cymryd cyffuriau yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.