Skip to main content

Pennaeth heddlu yn bwriadu rhoi mwy o blismyn ar y strydoedd yng ngogledd Cymru

Dyddiad

Pennaeth heddlu yn bwriadu rhoi mwy o blismyn ar y strydoedd yng ngogledd Cymru

Mae pennaeth heddlu wedi addo rhoi mwy o blismyn ar y strydoedd yng Ngogledd Cymru.

Dywed Andy Dunbobbin, comisiynydd heddlu a throsedd newydd y rhanbarth, y bydd yn cynyddu nifer y swyddogion heddlu a staff yn ystod ei dymor tair blynedd yn y swydd.

Addawodd hefyd wella’r dechnoleg sydd ar gael iddynt fel y gall swyddogion heddlu dreulio mwy o amser allan mewn cymunedau ledled y Gogledd, yn hytrach na gorfod dychwelyd i’w gorsafoedd heddlu i lenwi ffurflenni neu chwilio am wybodaeth.

Rhoddodd Mr Dunbobbin y sicrwydd yma yn ei Gynllun Heddlu a Throsedd cyntaf sy’n nodi’r strategaeth gyffredinol ar gyfer plismona Gogledd Cymru y bydd yn rhaid i’r Prif Gwnstabl Carl Foulkes ei rhoi ar waith.

Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ddydd Llun nesaf (Medi 20).

Mae’r blaenoriaethau sydd yng nghynllun newydd y comisiynydd yn cynnwys:

  • Cyflawni cymdogaethau mwy diogel
  • Cefnogi dioddefwyr a chymunedau
  • System gyfiawnder troseddol deg ac effeithiol

Wrth lunio’r strategaeth, dywed y comisiynydd ei fod wedi ymgynghori’n eang ac wedi gwrando ar yr hyn y mae’r cyhoedd ei eisiau.

Yn ôl Mr Dunbobbin, un gŵyn gyson a glywodd yn ystod ei ymgyrch etholiadol oedd nad oedd trigolion yn gweld unrhyw heddweision yn cerdded strydoedd eu cymunedau mwyach.

Meddai: “Byddaf yn gweithio’n galed i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd swyddogion a staff yr heddlu.

“Y brif flaenoriaeth i gymunedau yw gwella plismona gweladwy - darparu sicrwydd, casglu gwybodaeth ac amharu ar weithgareddau troseddol.

“Mae Timau Plismona Cymdogaeth Lleol (TPCau) yn darparu’r gwelededd a’r sicrwydd ond maen nhw hefyd yn cael eu hystyried fel ffynhonnell wybodaeth amhrisiadwy er mwyn mynd i’r afael â throseddau difrifol a throseddu trefnedig.

“Mae gwaith ein Huned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol (ROCU) ac Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru (WECTU) yn dibynnu’n fawr ar y wybodaeth leol y mae TPCau yn ei darparu. Plismona cymdogaeth yw carreg sylfaen y Cynllun hwn.

“Er mwyn mynd i’r afael â materion yn amrywio o ddelio mewn cyffuriau yn ein trefi i droseddau cefn gwlad ar ein ffermydd, mae’n hanfodol bod gan bob un o’n cymunedau yng Ngogledd Cymru gysylltiadau a phrofiadau cadarnhaol gyda’u heddlu lleol, gan helpu i chwalu’r rhwystrau presennol a grymuso trigolion i ddweud eu dweud ar yr hyn y dylem ni fel gwasanaeth fod yn canolbwyntio ein hymdrechion arno.

“Yn ogystal â chynyddu nifer y swyddogion heddlu yn ein cymunedau, rwyf hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda’r Prif Gwnstabl i wella’r gefnogaeth ddigidol sydd ar gael i’n swyddogion a’n staff presennol a thrwy hynny gynyddu faint o amser maen nhw’n ei dreulio yn y gymuned.”

Roedd gwella diogelwch ar y ffyrdd yn faes allweddol i Mr Dunbobbin sydd am leihau nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu gael eu hanafu’n ddifrifol.

Dywed y bydd agwedd yr heddlu tuag at yrru peryglus neu ddiofal yn llym ac na fydd gyrru o’r fath yn cael ei oddef.

Roedd mynd i’r afael ag atal cam-drin domestig a thrais rhywiol hefyd yn brif flaenoriaeth ac addawodd Mr Dunbobbin wneud Gogledd Cymru yn “amgylchedd gelyniaethus” i droseddwyr o’r fath.

Ar yr un pryd, roedd gormod o lawer o ferched yn cael eu hanfon i’r carchar gyda chanlyniadau dinistriol i’w teuluoedd, yn enwedig eu plant, felly bydd Mr Dunbobbin yn arwain datblygiad strategaeth newydd i droseddwyr sy’n ferched.

Ymhlith y datblygiadau arloesol y mae Mr Dunbobbin eisiau eu cyflwyno y mae panel ‘dioddefwyr’ fel y gellir clywed llais pobl sydd wedi dioddef troseddau yn eu herbyn a rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Roedd lleihau aildroseddu yn golygu y byddai llai o ddioddefwyr felly mae Mr Dunbobbin yn awyddus i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddu a chryfhau mesurau adsefydlu.

Gyda hynny mewn golwg, bydd yn parhau i ariannu rhaglen arloesol Checkpoint Cymru er mwyn dargyfeirio troseddwyr lefel isel i ffwrdd o gyflawni troseddau ynghyd â chefnogi prosiectau atal troseddu ac adsefydlu arloesol eraill yng Ngogledd Cymru.

Yn dod o gefndir yn y sector technoleg, roedd y comisiynydd yn ymwybodol iawn bod sgamiau ac ymosodiadau ar-lein bellach yn cyfrif am bron i hanner yr holl droseddau.

Yn ogystal â chynllunio’r frwydr yn erbyn seiberdroseddu yng Ngogledd Cymru, bydd Mr Dunbobbin yn chwarae rhan flaenllaw yn y DU ar ôl i Gymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ei ethol yn ddirprwy arweinydd ar gyfer technoleg a digidol yr heddlu a dirprwy arweinydd ar gyfer troseddau economaidd a seiberdroseddu, gan gynnwys twyll.

Meddai: “Mae’n hanfodol bod ymagwedd gwasanaethau’r heddlu tuag at seiberdroseddu wedi’i gydlynu’n dda ac yn effeithiol wrth ddarparu gwasanaeth o safon i bobl Gogledd Cymru.

“Nid yw nifer sylweddol o droseddau seiberdroseddu yn cael eu hadrodd yn genedlaethol a byddwn yn gweithio i fagu hyder pobl a busnesau yng Ngogledd Cymru i adrodd am y troseddau hyn.”