Skip to main content

Pennaeth heddlu yn cyhoeddi ymgyrch uwch-dechnoleg mewn dau leoliad

Dyddiad

Pennaeth heddlu yn atgyfnerthu'r rheng flaen gyda mwy o blismyn, technoleg newydd a pheilotiaid dronau

Bydd adnabod rhifau ceir yn awtomatig a dwsinau o gamerâu teledu cylch cyfyng newydd yn cael eu defnyddio mewn ymgyrch uwch-dechnoleg mewn dau leoliad troseddu problemus yng ngogledd Cymru.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, wedi sicrhau bron i £500,000 mewn cyllid ychwanegol ar gyfer yr ymgyrch yn erbyn byrgleriaethau, troseddau ceir a lladradau ym Mae Colwyn a Bangor.

Nod y fenter Strydoedd Mwy Diogel yw mynd i'r afael â'r troseddau dwyn hyn, sy'n cyfrif am 60 y cant o'r holl droseddau.

Bydd yr ymgyrch hefyd yn targedu troseddwyr a gangiau troseddu cyfundrefnol o'r tu allan i'r ardal sy'n dod ar sbri tor-cyfraith i'r ddwy gymuned.

Gall camerâu adnabod rhifau ceir yn awtomatig (ANPR) ddarllen rhif cofrestru car a'i wirio ar unwaith yn erbyn cronfa ddata o gofnodion cerbydau.

Os yw o ddiddordeb, gall swyddogion heddlu atal y cerbyd ac arestio os oes angen.

Mae mesurau eraill yn cynnwys goleuadau gwell mewn strydoedd a meysydd parcio a phecynnau atal troseddau i wneud cartrefi, adeiladau cymunedol a busnesau yn fwy diogel.

Ar draws y ddwy dref mae Heddlu Gogledd Cymru wedi defnyddio data a gasglwyd yn ofalus i adnabod yr ardaloedd sydd fwyaf mewn perygl o ddioddef troseddau fel byrgleriaeth a lladrad ac sy'n cael eu difetha gan ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Yn ôl Mr Dunbobbin, bydd ef a'r heddlu'n gweithio gyda nifer o bartneriaid lleol i fynd i’r afael â throseddu yn y lleoliadau mwyaf trafferthus yn y ddwy gymuned.

Bydd y prosiect ym Mangor yn derbyn bron i £239,000 tra bydd yr un ym Mae Colwyn yn cael £246,622.

Mae'n dilyn ymlaen o fenter debyg y llynedd pan lansiwyd ymgyrchoedd yn erbyn troseddu yn y Rhyl a Wrecsam.

Dywedodd Mr Dunbobbin: “Mae'n newyddion gwych a hoffwn ddiolch i'm tîm am weithio ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid eraill i lunio'r cais llwyddiannus hwn am y swm sylweddol iawn o arian yma.

“Mae mor bwysig bod pobl gogledd Cymru yn teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau. Mae'n ymwneud ag achub ar bob cyfle posib i atal troseddau dwyn, lle mae troseddwyr yn cymryd eiddo gan ddioddefwyr naill ai trwy ladrad, byrgleriaeth neu droseddau ceir.

“Pan gyhoeddwyd yr ail rownd hon o’r Gronfa Strydoedd Mwy Diogel, gweithiodd fy nhîm gyda’n partneriaid i adolygu ardaloedd ledled y Gogledd i weld lle gallem ddefnyddio’r arian hwn i wneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl leol.

“Roedd yn amlwg bod Bangor a Bae Colwyn yn ddwy ardal a gafodd eu heffeithio’n anghymesur gan droseddau dwyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond roedden nhw’n ardaloedd lle gellid rhoi rhai atebion syml ar waith i atal troseddu a gwella diogelwch y bobl sy’n byw yno yn sylweddol.

”Gyda’r arian yma, byddwn yn gallu rhoi rhai mesurau tymor hir ar waith yn gymharol gyflym a hawdd a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn, gan helpu i adeiladu cymunedau mwy diogel, cryfach ac iachach.

“Rwy’n siŵr y bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r cymunedau hyn ym Mae Colwyn a Bangor.

“Mae'n hynod bwysig i mi nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl a bod pawb yn cael eu cynnwys ar draws ein holl gymunedau yma yn y Gogledd.”

Ym Mangor, lle bydd Mr Dunbobbin a Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio'n agos gyda Chyngor Gwynedd a'r gymuned leol, bydd 41 o gamerâu cylch cyfyng newydd yn cael eu gosod ar golofnau goleuadau stryd.

Bydd y prosiect hefyd yn gweld goleuadau stryd ychwanegol yn cael eu gosod ym meysydd parcio Dwyrain a Gorllewin Glan y Môr i atal troseddwyr a gwneud y meysydd parcio yn fwy diogel yn y nos.

Rhoddir gwybodaeth i breswylwyr am dueddiadau troseddu lleol a sut i osgoi dioddef trosedd trwy ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, gan gynnwys taflenni, arwyddion a chyfarfodydd cymunedol.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a phartneriaid lleol eraill yn cymryd rhan yn yr ymgyrch ym Mae Colwyn lle bydd 100 o leoliadau cymunedol fel eglwysi ac adeiladau cymunedol yn cael eu gwarchod.

Bydd y rhwydwaith teledu cylch cyfyng lleol o gamerâu sefydlog yn cael ei ategu gan dri chamera symudol newydd y gellir eu gosod mewn gwahanol leoliadau a nodwyd fel mannau problemus o ran troseddu lleol.

Bydd pobl leol hefyd yn gallu manteisio ar gronfa arbennig ar gyfer prosiectau amgylcheddol i wella balchder ac ymwneud cymunedol er mwyn “gallu ailfeddiannu’r lleoliadau hyn ar gyfer y cyhoedd”.

Roedd yr Uwcharolygydd Helen Corcoran, o Heddlu Gogledd Cymru sydd â chyfrifoldeb am ddiogelwch cymunedol, yn ddiolchgar am gefnogaeth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Meddai: “Dyma’r ail flwyddyn i ni fod yn llwyddiannus yn ein bidiau i’r Gronfa Strydoedd Mwy Diogel ac mae’n enghraifft arall eto o’r gwaith partneriaeth eithriadol sydd gennym yng ngogledd Cymru.

“Bydd y gronfa hon yn ein helpu i fynd i’r afael â byrgleriaeth, troseddau ceir a lladradau. Mae'r troseddau hyn yn cyfrif am oddeutu 60 y cant o'r holl droseddau - a bydd unrhyw un sydd wedi dioddef byrgleriaeth yn dweud wrthych mai profiad gofidus iawn yw bod yn ddioddefwr.

“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn ein cymunedau lleol, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Chynghorau Gwynedd a Conwy i ddarparu cyfleusterau gwell i helpu i gadw ein trigolion yn ddiogel.”