Skip to main content

Pennaeth heddlu yn galw am Ddeddf Hillsborough newydd

Dyddiad

Rhybudd ar ôl i dwyllwyr creulon roi dioddefwyr ar restr er mwyn gwerthu data ar y we dywyll

Mae pennaeth plismona wedi beirniadu celwyddau uwch swyddogion heddlu a honiadau o gelu’r gwir am drasiedi Hillsborough - ac mae’n galw am ddeddf newydd i’w hatal rhag digwydd eto.

Mynegodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin ei farn yn groyw yn dilyn methiant yr achos yn erbyn uwch swyddogion a chyfreithiwr Heddlu De Swydd Efrog dros farwolaethau 96 o gefnogwyr Lerpwl yn Hillsborough 32 mlynedd yn ôl.

Mae Mr Dunbobbin wedi ychwanegu ei lais at y protestiadau ac wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel yn cefnogi Mesur Atebolrwydd Awdurdodau Cyhoeddus a gynigiwyd gan Faer Manceinion Fwyaf, Andy Burnham.

Byddai’r Mesur, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Deddf Hillsborough, yn ei gwneud hi'n ddyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau cyhoeddus a'u gweithwyr i ddweud y gwir.

Mae’n “hwyr glas” cael deddfwriaeth o’r fath a fyddai hefyd yn sicrhau bod teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn derbyn cymorth ariannol fel bod ganddynt gynrychiolaeth gyfreithiol briodol mewn unrhyw gwest, yn union fel cyrff cyhoeddus.

Ymhlith y 96 o ddioddefwyr y mae eu henwau ar gofrestr anrhydedd yn stadiwm Anfield yn Lerpwl yr oedd John McBrien, myfyriwr 18 oed o Dreffynnon, a James Hennessy, 29, o Ellesmere Port, y mae ei ferch, Charlotte, yn byw yn y Fflint.

Roedd llawer o gefnogwyr o bob rhan o ogledd Cymru hefyd yn Hillsborough, yn Sheffield, ar y prynhawn Ebrill heulog hwnnw ac a oroesodd y wasgfa angheuol ofnadwy ym mhen Leppings Lane o’r stadiwm.

Dywedodd Mr Dunbobbin: “Rwyf wedi siarad â Charl Hennessy a gollodd ei thad, James, y diwrnod hwnnw ac rwy’n gwybod pa mor ofidus a blin y mae hi’n teimlo oherwydd ei bod wedi brwydro i gael cyfiawnder nid yn unig i’w thad ond hefyd i holl deuluoedd y 96.”

Dim ond chwech oed oedd Charlotte, sy’n fam i bedwar o blant, ar adeg y drasiedi ac meddai: “Dim ond hogan fach oeddwn i ar y pryd a brith gof sydd gen i ohono ond roedd yn ddyn da a phobl yn hoff iawn ohono.

“Mi wnaethon nhw ddweud nad oedd achos i’w ateb oherwydd mai’r unig beth oedd y dynion hyn wedi ei wneud oedd casglu gwybodaeth ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus ond mae hynny’n gwneud i mi boeni am deuluoedd Grenfell a bom Manceinion - a yw’n golygu mai’r cyfan fyddan nhw’n ei gael yw’r wybodaeth y mae’r awdurdodau eisiau iddyn nhw ei chael?

“Mae teuluoedd Hillsborough bob amser wedi bod yn glir iawn ein bod ni eisiau sicrhau na fydd angen i unrhyw deuluoedd eraill fynd trwy'r hyn rydyn ni wedi ei ddioddef.

“Mae pobl yn credu bod gan gyrff cyhoeddus ddyletswydd gyfreithiol i ddweud y gwir ond nid dyna yw’r sefyllfa mewn gwirionedd ac nid oes unrhyw beth sy'n gwneud cuddio’r gwir yn drosedd ond byddai Deddf Hillsborough yn newid hynny.

“Nid 1989 yw hi bellach, mae’n 2021 ac os yw gwersi i’w dysgu yna mae’n rhaid gwneud newidiadau sylweddol.”

Cafodd achos llys y swyddogion heddlu wedi ymddeol y Prif Uwch-arolygydd Donald Denton a’r Ditectif Uwch-arolygydd Alan Foster a chyn-gyfreithiwr Heddlu De Swydd Efrog Peter Metcalf yn Llys Nightingale yn Theatr Lowry, Salford ei atal ar ôl mwy na phedair wythnos gan yr Ustus William Davis a ddyfarnodd nad oedd ganddynt achos i'w ateb.

Roedd Mr Denton, 83 oed, o Sheffield; Mr Foster, 74 oed, o Harrogate; a Mr Metcalf, 71 oed, o Ilkley, wedi gwadu dau gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder trwy newid datganiadau i leihau’r bai a roddwyd ar Heddlu De Swydd Efrog yn dilyn y trychineb.

Dywedodd y barnwr fod y datganiadau wedi'u paratoi ar gyfer yr ymchwiliad cyhoeddus dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Taylor yn 1990. Nid oedd yr ymchwiliad hwnnw yn ymchwiliad statudol ac felly nid oedd yn cael ei ystyried yn "llys barn", felly nid oedd yn "gwrs cyfiawnder cyhoeddus" y gellid ei wyrdroi.

Yn ei lythyr at yr Ysgrifennydd Cartref, dywedodd Mr Dunbobbin: “Mae teuluoedd dioddefwyr Hillsborough a gwleidyddion lleol wedi ymgyrchu am 27 mlynedd dros y gwir er gwaethaf celwyddau uwch swyddogion a honiadau o gelu’r gwirionedd.

“Oni ddylai pob corff cyhoeddus weithredu er budd y cyhoedd? Byddai Deddf Hillsborough yn newid y system gyfreithiol annheg a methiannus sy'n bodoli yn y wlad hon ar hyn o bryd.

“Rwy’n credu mai’r gyfraith hon, a fyddai’n ei gwneud yn anghyfreithlon i’r rhai mewn gwasanaeth cyhoeddus roi gwybodaeth gamarweiniol ac a fyddai’n nodi’r cosbau a’r dirwyon i’r rheini sy’n fwriadol yn methu cydymffurfio, yw’r peth lleiaf y dylai teuluoedd dan sylw ei ddisgwyl.

“Mae’n annheg bod arian cymorth cyfreithiol er mwyn ymladd eu hachosion yn cael ei wrthod i deuluoedd ac, fel y nodir yn y gyfraith arfaethedig, dylid cynnig yr un adnoddau i bob teulu ag y mae cyrff cyhoeddus yn ei gael i gyflwyno eu hachos mewn cwest.

“Ar hyn o bryd mae clorian cyfiawnder yn pwyso’n drwm yn erbyn pobl gyffredin.

“Bydd y ddeddf arfaethedig yn sicrhau na fydd yn rhaid i unrhyw deulu ddioddef yr un dynged eto â’r rhai sydd wedi dioddef fel hyn yn y blynyddoedd a fu a gobeithio y byddwch yn rhoi cefnogaeth lawn i’r gyfraith hon.”

Dywedodd Andy Burnham, a fu’n ymgyrchu gyda theuluoedd Hillsborough: “Rydyn ni i gyd wedi rhoi popeth i gael cyfiawnder ond nid oedd ein popeth yn ddigon i sicrhau unrhyw atebolrwydd am y 96 marwolaeth anghyfreithlon ar dir Prydain.”

Dywedodd Sue Hemming, o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Mae’r ffaith bod awdurdod a gyllidir gan arian cyhoeddus yn gallu dal gwybodaeth yn ôl yn gyfreithiol o ymchwiliad cyhoeddus sy’n gyfrifol am ddarganfod pam y bu farw 96 o bobl mewn gêm bêl-droed, er mwyn sicrhau nad yw’n digwydd byth eto - neu fod cyfreithiwr yn gallu cynghori dal gwybodaeth yn ôl fel hyn, heb sancsiwn o unrhyw fath - yn fater a ddylai fod efallai yn destun craffu.”