Skip to main content

Pennaeth heddlu yn hybu defnyddio uwch-dechnoleg i ymladd troseddu

Dyddiad

Rhybudd ar ôl i dwyllwyr creulon roi dioddefwyr ar restr er mwyn gwerthu data ar y we dywyll

Bydd pennaeth heddlu yn chwarae rhan allweddol wrth ddefnyddio technoleg i ymladd troseddau ledled y DU.

Mae’r Gymdeithas Comisiynwyr Heddlu a Throsedd (APCC) yn bwriadu manteisio ar arbenigedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin.

Maent wedi ei ethol yn ddirprwy arweinydd ar gyfer technoleg yr heddlu a digidol a dirprwy arweinydd ar gyfer troseddau seiber ac economaidd, gan gynnwys twyll.

Penderfynodd ei gyd-gomisiynwyr mai ef oedd y person delfrydol ar gyfer y swydd oherwydd ei gefndir yn gweithio yn y diwydiant technoleg.

Yn ôl yn 2012 fe helpodd i sicrhau bod Gemau Olympaidd Llundain yn cael eu darlledu’n llwyddiannus ledled y byd i biliynau o bobl.

Ar y pryd roedd yn arweinydd tîm technegol i gwmni rhwydwaith lleol ac roedd yn gyfrifol am gynnal gwiriadau trylwyr ar yr amrywiaeth helaeth o dechnoleg a ddefnyddid gan yr unedau darlledu allanol yn y Gemau Olympaidd, y digwyddiad chwaraeon mwyaf yn y byd.

Un o'i gyfrifoldebau newydd fydd sicrhau bod swyddogion yn gallu cael mynediad at yr offer uwch-dechnoleg ddiweddaraf fel y gallant weithredu'n fwy effeithiol heb orfod mynd yn ôl i orsaf heddlu i gynnal gwiriadau cofnodion a chwblhau unrhyw dasgau biwrocrataidd.

Mae Mr Dunbobbin hefyd yn awyddus i fynd i'r afael â'r twf cynyddol mewn troseddau ar-lein, gan gynnwys troseddau cam-drin plant yn rhywiol, troseddau casineb a thwyll.

Meddai: “Rwy’n ddiolchgar i’m cydweithwyr ar yr APCC am roi cyfle imi wneud defnydd da o’m sgiliau a’m gwybodaeth.

“Rwy’n gobeithio y byddaf yn gallu bod o fudd i’r APCC yn genedlaethol yn ogystal â chael effaith sylweddol ar yr hyn sy’n digwydd yma yng ngogledd Cymru hefyd.

“Mae technoleg yn chwarae rhan gynyddol hanfodol mewn plismona felly mae hwn yn faes hynod bwysig.

“Mae’r cynnydd mewn troseddau ar-lein yn her enfawr i’r heddlu, yma yng ngogledd Cymru ac ar draws y DU.

“Mae'r troseddwyr yn dod yn fwyfwy soffistigedig yn y ffordd y maen nhw'n gweithredu ac mae angen i ni ymateb yn unol â hynny er mwyn i ni allu aros un cam ar y blaen.

“Felly mae'n hanfodol ein bod ni’n buddsoddi i sicrhau bod gennym y dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael i ni fel y gallwn fynd i'r afael â'r troseddwyr ar-lein hyn.

“Mae angen i ni sicrhau bod ein technoleg yn addas i’r dyfodol ac ar yr un pryd sicrhau ein bod yn cael gwerth am arian bob amser.

“Oherwydd fy nghefndir, rwyf wedi arfer defnyddio pecynnau meddalwedd ac offer soffistigedig iawn a chredaf y bydd fy ngwybodaeth yn y maes hwn yn gryfder go iawn.

“Datblygiad cyffrous arall yw’r defnydd o dronau wrth blismona a bydd hwn yn dod yn arf cynyddol bwysig yn y dyfodol.”