Skip to main content

Pennaeth heddlu yn taro ar wyneb cyfarwydd ar y bît yn Wrecsam

Dyddiad

310621- PCC WXM-10

Mi wnaeth pennaeth plismona newydd gogledd Cymru daro ar wyneb cyfarwydd pan dreuliodd ddiwrnod ar y bît yn Wrecsam.

Roedd Andy Dunbobbin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd newydd a etholwyd yn ddiweddar, ar daith canfod ffeithiau o amgylch strydoedd tref fwyaf y rhanbarth pan gyfarfu â’r Rhingyll David Wilson sydd hefyd newydd ei benodi ac sydd wedi bod yn arwain y Tîm Plismona Cymdogaeth lleol.

Nid yw’r ddau yn ddieithr i’w gilydd gan i’r Rhingyll Wilson fod yn Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH) yn ei dref enedigol Cei Connah 12 mlynedd yn ôl pan oedd Mr Dunbobbin yn gynghorydd cymuned yno.

Dywedodd y Comisiynydd: “Mae wedi bod yn dda cyfarfod eto a mynd allan ar batrôl efo’r Rhingyll Wilson a gweld pa mor adnabyddus ydyw o fewn y gymuned yma.

“Mae siopwyr ac aelodau eraill o’r cyhoedd yn amlwg yn ei adnabod ac yn hapus i siarad a thrafod efo fo ac mae’r berthynas honno’n parhau i fod yn rhan ganolog o blismona.

“Mae presenoldeb ar y strydoedd yn parhau i fod yn bwysig oherwydd mae’n ymwneud â chael y wybodaeth allweddol yna wrth gysylltu â'r cyhoedd er mwyn adeiladu darlun o'r hyn sy'n digwydd i'n galluogi i ddefnyddio swyddogion heddlu yn fwy effeithiol.

“Mae'r traffig dwy ffordd yna'n bwysig iawn yn enwedig wrth i ni ddod allan o’r cyfnod clo a llawer mwy o bobl allan o gwmpas y lle a hefyd oherwydd y materion iechyd meddwl a achoswyd gan gyfyngiadau’r pandemig.”

Mae Mr Dunbobbin hefyd wedi addo sicrhau bod gogledd Cymru yn cael ei chyfran deg o'r 100 Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru gan Lywodraeth Cymru, gan ddod â'r cyfanswm cenedlaethol i fyny at 600.

Meddai: “Rwy’n gwybod o brofiad pa mor bwysig yw gwaith y Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu wrth gefnogi’r heddlu a byddaf yn sicrhau ein bod ni yn y Gogledd yn cael ein cyfran deg o’r cynnydd mewn niferoedd.

“Mae gen i bryderon penodol hefyd ynglŷn â phenodi heddweision i gymryd lle  swyddogion sydd wedi ymddeol ac yn dioddef o afiechyd a allai fod wedi cael eu colli a byddaf yn edrych ar beth y gellir ei wneud gyda golwg ar hyn.

Dywedodd y Rhingyll Wilson, a ymunodd â Heddlu Gogledd Cymru 12 mlynedd yn ôl: “Mae’r economi gyda'r nos bellach wedi agor ac mae mwy o alw am adnoddau gyda mwy o bobl yn dod i ganol y dref.

“Mae hynny'n arwain at amrywiaeth o wahanol ddigwyddiadau y mae'n rhaid i ni ddelio efo nhw ac er ein bod ni eisiau i bobl gael amser da a mwynhau eu hunain oherwydd yr anawsterau a achoswyd gan y cyfnodau clo, rydyn ni am iddyn nhw ymddwyn yn gyfrifol.

“Rydan ni rŵan yn gweld swyddogion heddlu yn dioddef ymosodiadau, a dydy hynny ddim yn dderbyniol ond mae croeso mawr i’r Comisiynydd yma ac rwy’n gwerthfawrogi ei fod wedi dod allan i fynd ar batrôl troed efo mi.

“Rwy’n ei gofio’n dda o’r amser roeddwn yn Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu fy hun cyn ymuno â’r Heddlu ac roedd yn gynghorydd cymuned yng Nghei Connah.

“Mae’r newyddion am y Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu yn dda oherwydd eu bod yn gallu helpu i ehangu ein cysylltiad â’r gymuned a bod gwelededd yn dal i fod yn bwysig gan na allem weithredu heb gefnogaeth y cyhoedd.”