Skip to main content

Pennaeth heddlu yn ymgyrchu i Gymru gymryd rheolaeth dros blismona

Dyddiad

Troseddau casineb

Mae pennaeth plismona Gogledd Cymru yn bwriadu mynd a’i frwydr i ymladd dros ddatganoli pwerau’r heddlu i Gymru gam yn uwch.

Mae Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, yn mynd i gynrychioli Cymru ar y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cenedlaethol, sy’n goruchwylio’r system cyfiawnder troseddol.

Bydd yn ymuno â’r Ysgrifennydd Cartref Sajid Javid, yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder David Gauke, y Twrnai Cyffredinol Jeremy Wright a Chomisiynydd yr Heddlu Metropolitan Cressida Dick ar y corff a sefydlwyd gan y Llywodraeth bum mlynedd yn ôl i wella’r system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd Mr Jones: “Rwyf wrth fy modd fy mod i wedi cael cais i ymuno efo’r Bwrdd, yn enwedig o gofio’r datblygiadau ym maes Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae’n hanfodol cael llais cryf i Gymru ar y fforwm uchaf hwn ar gyfer cyfiawnder.

Fi fydd yr ail Gomisiynydd Heddlu a Throsedd ar y bwrdd lle mae Cadeirydd Cymdeithas Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, David Lloyd, o Swydd Hertford, hefyd yn eistedd ar ôl olynu fy rhagflaenydd yng Ngogledd Cymru, Winston Roddick.

Yng Nghymru, mae’r Prif Weinidog wedi penodi’r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd i arwain comisiwn i adolygu’r system gyfiawnder a phlismona yng Nghymru, ac rwyf i a’r comisiynwyr eraill yng Nghymru yn awyddus i weld mwy o gyfrifoldebau yn cael eu datganoli i Gymru.

Mae llawer yn digwydd o gwmpas cyfiawnder ar hyn o bryd - pethau fel materion datgelu, cyfiawnder ieuenctid, carcharu merched, ac mae angen mynd i’r afael â phob un ohonynt, heb sôn am y sefyllfa yn ein carchardai.

Hoffwn weld cymaint o gyfiawnder â phosib yn cael ei ddatganoli i Gymru, naill ai i’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd neu i Lywodraeth Cymru.

Nid yw cyfiawnder ieuenctid wedi’i ddatganoli, er bod popeth arall sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc yng Nghymru yn faterion datganoledig, ac mae’r meysydd hynny a phob maes arall sydd wedi’i ddatganoli i Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru yn gweithredu’n eithaf effeithiol.”

Er nad yw llawer o feysydd eraill y system cyfiawnder troseddol, fel Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r gwasanaeth llysoedd, wedi’u datganoli’n gyfreithiol, maent eisoes yn gweithredu gyda strwythurau Cymru gyfan.

Dywedodd Mr Jones, sy’n gyn Arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru, fod pob un o’r pedwar comisiynydd yng Nghymru yn credu y dylid datganoli plismona yn gyfan gwbl i Gymru, ac ychwanegodd: “Dim ond mater o amser yw hi cyn i hyn ddigwydd, ond mae angen i ni argyhoeddi’r Ysgrifennydd Gwladol Alun Alun Cairns, a hyd yma, nid ydym wedi cael llawer o lwyddiant.

O ran datganoli, dim ond mater o amser yw hi bellach felly fel Comisiynwyr Heddlu rydym yn braenaeru’r tir, oherwydd pan fydd yn digwydd mae’n debygol o ddigwydd dros nos.

Byddai’n gwneud synnwyr pe bai cyfiawnder troseddol yn cael ei ddatganoli’n llwyr yn yr un modd ag y mae ym Manceinion Fwyaf lle mae’r maer Andy Burnham yn gyfrifol am blismona a chyfiawnder troseddol.

Os gallan nhw ei wneud ym Manceinion, pam ddim yng Nghymru?

Ond yn y cyfamser rwy’n bwriadu bod yn lais cryf i Gymru ar y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol.

Rwan ydi’r amser iawn i bolisi gael ei ddatganoli i Gymru.

Gellir gwneud yr achos ac mae’r manteision yn glir gan fod cymaint o wasanaethau eisoes wedi’u datganoli.

Mae yna gorff o gyfraith Gymreig eisoes a chynllun ehangach ar gyfer diogelu yn deillio o Fae Caerdydd - y rhan hanfodol sydd ar goll yw plismona.”