Skip to main content

Y Panel Heddlu a Throsedd yn cytuno ar braesept 2024-25

Dyddiad

AD at desk

29/1/24: Mewn cyfarfod y prynhawn yma ym Modlondeb, Conwy, gwnaeth Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru gymeradwyo cynnig Andy Dunbobbin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, am gynnydd cyfradd is na'r disgwyl yn y praesept plismona. Bydd hwn yn golygu y bydd cynnydd o 32c yr wythnos (neu £16.56 y flwyddyn) yn y Dreth Gyngor am eiddo Band D ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25. O ran canran, mae hyn yn golygu cynnydd o 4.97% yn y dreth gyngor o'i gymharu â llynedd. Bydd y swm a gytunwyd yn dod i rym o fis Ebrill eleni.

Mae'r Panel Heddlu a Throsedd yn gorff sy'n cynnwys deg cynghorydd ledled Gogledd Cymru a thri aelod annibynnol cyfetholedig. Mae'n craffu gwaith y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Roedd dros hanner y bobl wnaeth gymryd rhan mewn arolwg ar y praesept yn cefnogi cynnydd o leiaf £17.50 yn y Dreth Gyngor. Mae hyn yn golygu fod y ffigwr £16.56 yn sylweddol is na'r swm a welwyd fel derbyniol gan drigolion.  

Cynhaliwyd yr arolwg hefo pobl Gogledd Cymru dros chwe wythnos rhwng 27 Tachwedd a 7 Ionawr, a oedd yn cynnwys dros 1,500 o ymatebion. Roedd hyn dros 50% yn fwy ar y nifer gymerodd ran llynedd.

Mae’r newyddion hyn yn dilyn cyhoeddiad arolwg newydd sydd wedi dangos fod gan 77% o bobl yng Ngogledd Cymru hyder yn y modd mae'r rhanbarth yn cael ei phlismona. Mae'r heddlu felly ar frig Arolwg Trosedd Cymru a Lloegr.

⁠Gwnaeth yr heddlu hefyd gyflawni'r ail ganran uchaf yn genedlaethol ar gyfer y rhai hynny gytunodd y byddai'r heddlu'n eu trin nhw â pharch (86.5%).

Dywedodd John Williams, Cadeirydd Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Wedi cytuno ar Gyllideb Heddlu'r Comisiynydd ar gyfer 2024/25, mae'r Panel Heddlu a Throsedd yn ymwybodol, ac yn ystyried, y cyfyngiadau ariannol sy'n effeithio ar bob Trethdalwr Cyngor yng Ngogledd Cymru. Ond mae'n credu fod Praesept yr Heddlu'n parhau ar lefel sy'n helpu gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon ac yn rhoi gwerth da am arian."

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Hoffwn ddiolch i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru am gytuno i fy nghynnig arfaethedig yn y praesept plismona. Buaswn i'n gwerthfawrogi eu mewnbwn a'u craffu ac yn gwerthfawrogi eu barn ar ran trigolion y rhanbarth. 

"Tra mae'r cynnydd yn is na'r disgwyl, a llai nag yr oedd llawer gymerodd ran yn yr arolwg yn barod i'w dalu am blismona, dwi dal yn deall y cyfyngiadau mae llawer yn byw o tanynt oherwydd yr argyfwng costau byw. Fel y cyfryw, dwi'n parhau cydweithredu'n galed hefo'r Prif Gwnstabl er mwyn cyflawni gwasanaeth heddlu wedi'i ariannu'n dda, wedi'i gyrchu'n dda ac wedi'i gynnal yn dda. Mae'n sicrhau fod pobl Gogledd Cymru yn cael cymdogaethau saffach, system cyfiawnder troseddol deg ac effeithiol a helpu dioddefwyr a chymunedau."