Skip to main content

Ffyrdd Diogelach

Cliciwch ar y linc isod i ddysgu am ddiogelwch y ffordd, i gael gwybodaeth am ddiogelwch beics neu gyngor ar yrru mewn tywydd garw: https://www.northwales.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/diogelwch-ffyrdd/diogelwch-ffyrdd/

Am fwy o wybodaeth, darllenwch os gwelwch yn dda

Brake

Trosolwg o’r gwasanaethu ar gael

Mae’r llinell gymorth yn rhoi cymorth i drigolion y DU dan yr amgylchiadau isod:

  • os ydych wedi cael profedigaeth neu wedi cael anaf difrifol mewn gwrthdrawiad
  • os ydych yn gofalu am rywun sydd wedi cael profedigaeth neu anaf difrifol mewn gwrthdrawiad
  • os ydych yn gweithio mewn proffesiwn fel swyddog yr heddlu, athro neu weithiwr iechyd, ag eisiau cyngor ar sut i fod o gymorth i bobol sydd wedi cael eu heffeithio gan wrthdrawiad.

Byddem yn rhoi cefnogaeth os yw’r ddamwain yn un diweddar neu amser maith yn ôl, wedi digwydd yma neu dramor.


Disgrifiad byr (1-2 frawddeg) o beth ydym yn ei wneud

Mae llinell gymorth Brake yn wasanaeth cefnogi rhad-ffôn o ansawdd achrededig, sy’n rhoi gwybodaeth a geiriolaeth, cefnogaeth emosiynol ac yn cynnig clust i wrando. Mae galwadau yn gyfrinachol ac nid oes yna derfyn amser ar ein cefnogaeth.

I siarad gyda’n tîm llinell gymorth gyfeillgar a phroffesiynol galwch 0808 8000 401, neu cysylltwch gyda ni drwy e-bost ar helpline@brake.org.uk <mailto:helpline@brake.org.uk&gt;. Mae’r llinell ar agor o 10am i 4pm ddydd Llun a dydd Gwener. Darperir cefnogaeth ar y llinell gymorth yn Saesneg gan weithwyr proffesiynol a hyfforddedig.

Gwybodaeth gyswllt

Brake,
Blwch PO  548,
Huddersfield
HD1 2XZ,
Y Deyrnas Unedig

Llinell Gymorth 0808 0888401
Helpline@brake.org.uk