Etholiad - Comisiynydd Heddlu a Throsedd - 2024
Os ydych yn aelod or cyhoedd ac angen gwybodaeth am ymgeiswyr yr etholiad yn eich ardal chi, cliciwch y linc isod:-
Choose My Police and Crime Commissioner - Information from the UK Government (choosemypcc.org.uk)
Mae’r dudalen hon wedi’i chynllunio er mwyn helpu darpar ymgeiswyr yr etholiad Comisiynwyr Heddlu a Throsedd i ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn gallu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.
Os ydych angen gwybodaeth sydd heb ei gyhoeddi yma cysylltwch â Stephen Hughes, Prif Swyddog Gweithredol Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd drwy e-bostio OPCC@northwales.police.uk. Mae Mr Hughes wedi'i benodi fel y 'Pwynt Cyswllt Unigol' (SPOC) a wnaiff ymateb i holl ohebiaeth ac ymholiadau o ran yr etholiad.
Bydd holl geisiadau ar gyfer gwybodaeth gan ddarpar ymgeiswyr a anfonwyd at Heddlu Gogledd Cymru yn cael eu hailgyfeirio at y SPOC. Gwnaiff y SPOC gysylltu gyda Pennaeth Adran Sicrwydd Gwybodaeth yr Heddlu ar holl faterion sy'n berthnasol i blismona gweithredol a gwybodaeth a gedwir gan Heddlu Gogledd Cymru. Rhoddir eglurhad os na ellir rhoi gwybodaeth.
Dylid cyfeirio ymholiadau’n ymwneud â'r broses etholiadol at Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu (PARO). Yng Ngogledd Cymru i’r etholiad yma y PARO yw Mr Ian Bancroft, Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Siriol Wrecsam . Bydd unrhyw ymholiadau a dderbyniwyd gan y SPOC sy'n berthnasol i'r broses etholiadau yn cael eu hailgyfeirio at y PARO. Mae dyddiadau allweddol yr etholiad wedi ei nodi isod er eich gwybodaeth.
Er mwyn sicrhau tegwch a thryloywder, bydd unrhyw wybodaeth a ofynnir amdani gan unrhyw ymgeisydd yn cael ei chyhoeddi ar y wefan hon. Cyhoeddir cofrestr isod o holl geisiadau â dderbyniwyd.
Dyddiadau Allweddol
Dydd Mawrth, 27 Chwefror 2024 |
Briffio Cyn-Etholiad i’r ymgeiswyr a’u asiantau | Drwy Teams – gwahoddiad i ddilyn |
Dydd Mercher, 2yp, 27 Mawrth 2024 |
Sesiwn friffio i’r holl ymgeiswyr posibl ac sydd wedi datgan. Briffio gan y PARO, y Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymry a Prif Weithredwr Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd. | Ystafell Cynhadledd 1, Pencadlys yr Heddlu, Bae Colwyn, LL29 8AW |
Dydd Mawrth, 26 Mawrth – Dydd Gwener, Ebrill 2024 10yb – 4yp |
Papurau etholiad yn cael eu danfon at y PARO | |
Dydd Iau, 2 Mai 2024 |
Diwrnod etholiad | |
Dydd Gwener, 3 Mai 2024 |
Cyhoeddir canlyniad yr etholiad | Canolfan Hamdden Prifysgol Wrecsam, Ffordd Yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AW |
Dydd Iau, 9 Mai 2024 |
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn mynd i'r swydd |
Rôl y Comisiynydd Heddlu a Throsedd
Mae dyletswyddau’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd (“y Comisiynydd”) wedi eu nodi yn Neddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (“y Ddeddf).
Y prif swyddogaethau yw:-
Cynllun Heddlu a Throsedd | Y Comisiynydd sy’n darparu’r cyfeiriad strategol ar gyfer yr Heddlu drwy osod amcanion yr Heddlu yn y Cynllun Heddlu a Throsedd. Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi Cynllun Heddlu a Throsedd o fewn y flwyddyn ariannol gyntaf yn y swydd. Felly bydd rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus gyhoeddi Cynllun Heddlu a Throsedd erbyn diwedd mis Mawrth 2025. |
Dwyn y Prif Gwnstabl yn atebol | Mae dyletswydd ar y Prif Gwnstabl i ddarparu gwasanaeth plismona effeithiol ac effeithlon yn seiliedig ar yr amcanion plismona hyn. Mae dyletswydd statudol a mandad etholiadol ar y Comisiynydd ym mhob ardal heddlu i ddal y Prif Gwnstabl yn atebol ar ran y cyhoedd. Y trefniadau presennol yw dwyn y Prif Gwnstabl yn atebol i’r Bwrdd Gweithredol Strategol. |
Praesept, Cyllideb a Chomisiynu | Y Comisiynydd sy’n derbyn yr holl gyllid sy’n berthnasol i blismona a lleihau trosedd, grantiau cymorth dioddefwyr a’r praesept. Mae’r ffordd y dyrennir yr arian hwn yn fater i’r Comisiynydd mewn ymgynghoriad â’r Prif Gwnstabl neu yn unol ag unrhyw amodau grant. Bydd y Prif Gwnstabl yn darparu cyngor ac argymhellion proffesiynol. Mae'r Comisiynydd yn penderfynu ar lefel y praesept am yr ardal gyda chymeradwyaeth y Panel Heddlu a Throsedd. |
Gwrando ac ymateb i’ch barn ar blismona | Gwnaiff y Comisiynydd ymgynghori etholwyr ar flaenoriaethau plismona a lefel y praesept. Bydd y Comisiynydd yn cael cyngor gan y Prif Gwnstabl am ofynion plismona i'r ardal ac ar ofynion plismona strategol. |
Mae mwy o wybodaeth am rôl y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar gael yn y Gorchymyn-Protocol-Plismona-2011.
Rôl y Prif Gwnstabl
Y Prif Gwnstabl sy’n gyfrifol am gynnal Heddwch y Brenin ac mae ganddynt gyfarwyddyd a rheolaeth dros swyddogion a staff yr heddlu. Mae’r Prif Gwnstabl yn dal swydd dan y Goron, ond fe’i penodir gan y Comisiynydd.
Mae’r Prif Gwnstabl yn atebol i’r gyfraith am weithrediad grymoedd yr heddlu ac i’r Comisiynydd am ddarpariaeth plismona effeithlon ac effeithlon, rheolaeth adnoddau a gwariant gan yr heddlu. Mae’r Prif Gwnstabl, eu swyddogion a’u staff bob amser yn parhau’n weithredol annibynnol wrth wasanaethu’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Rhaid i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd barchu annibyniaeth weithredol y Prif Gwnstabl a holl swyddogion a staff o dan eu gyfarwyddyd a rheolaeth.
Penodwyd Amanda Blakeman yn Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru o 31 Hydref 2022. Y prif swyddogion yw Dirprwy Brif Gwnstabl Nigel Harrison, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Chris Allsop a Chyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Mr Seb Phillips. Am fwy o wybodaeth am y prif swyddogion, gweler yma.
Mae mwy o wybodaeth am rôl y Prif Gwnstabl o fewn y Gorchymyn-Protocol-Plismona-2011.
Rôl y Panel Heddlu a Throsedd
Mae’r Panel Heddlu a Throsedd (“y Panel”) yn darparu gwiriadau a chydbwysedd mewn perthynas â pherfformiad y Comisiynydd. Nid yw’r panel yn craffu ar y Prif Gwnstabl ond mae’n craffu ar ac yn cefnogi gweithrediad effeithiol o swyddogaethau’r Comisiynydd. Gellir dod o hyd i fanylion llawn am gyfrifoldebau’r Panel yn y Gorchymyn-Protocol-Plismona-2011.
Mae’r Prif Gwnstabl yn cadw cyfrifoldeb am faterion gweithredol. Os yw’r panel yn dymuno craffu ar y Comisiynydd am fater gweithredol, gellid gwahodd y Prif Gwnstabl i fynychu cyfarfod o’r Panel ochr yn ochr â’r Comisiynydd. Mae hyn er mwyn cynnig ffeithiau ac eglurhad (os oes angen) o weithredoedd a phenderfyniadau’r Prif Gwnstabl. Mae atebolrwydd y Prif Gwnstabl yn parhau’n gadarn yn gyfrifoldeb i’r Comisiynydd ac nid i’r Panel.
Yn gryno, prif gyfrifoldebau’r Panel yw:-
Adolygu | Y Cynllun Heddlu a Throsedd, cyllideb ac adroddiad blynyddol |
Cymeradwyo/rhoi feto ar | Penodiad y Prif Gwnstabl a lefel arfaethedig y praesept. |
Cymeradwyo | Penodiad swyddogion statudol a’r Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd. Mae gan y Comisiynydd ddau swyddog statudol sef y Prif Swyddog Gweithredol/Swyddog Monitro a'r Prif Swyddog Cyllid. Eglurir eu rolau isod. |
Gweithredu | Cwynion a wneir am y Comisiynydd a/neu eu Dirprwy. |
Rôl yr Ysgrifennydd Cartref
Mae’r Ysgrifennydd Cartref yn atebol yn y pen draw i’r Senedd ac mae’r rôl yn un sydd â chyfrifoldeb am sicrhau bod Heddwch y Brenin yn cael ei gynnal o fewn pob ardal heddlu, bod y cyhoedd yn cael eu diogelu a bod ein ffiniau cenedlaethol a diogelwch yn cael eu hamddiffyn. Mae gan yr Ysgrifennydd Cartref rymoedd neilltuedig a dulliau gweithredu deddfwriaethol. Mae'n galluogi ymyriad a chyfarwyddyd i’r holl bartïon, os bydd yr Ysgrifennydd Cartref yn penderfynu bod camau o’r fath yn angenrheidiol er mwyn atal neu leihau risg i’r cyhoedd neu ddiogelwch cenedlaethol. Defnyddir grymoedd neu ddulliau gweithredu o’r fath pan fetha popeth arall yn unig. Ni chânt eu defnyddio i ymyrryd â dymuniad democrataidd yr etholaeth o fewn ardal heddlu nac i ymyrryd â swyddfa’r cwnstabl, oni bai bod yr Ysgrifennydd Cartref yn fodlon â chyngor Arolygiaeth Heddluoedd Tân ac Achub Ei Fawrhydi y byddai peidio â gwneud hynny yn golygu y byddai heddlu yn methu neu y byddai diogelwch cenedlaethol yn cael ei gyfaddawdu.
Yr Ysgrifennydd Cartref sy’n cadw’r atebolrwydd cyfreithiol am ddiogelwch cenedlaethol a’r rôl mae'r gwasanaeth heddlu yn ei chwarae yn y ddarpariaeth o unrhyw ymateb cenedlaethol. Mae dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Cartref i gyhoeddi Gofyniad Plismona Strategol sy’n nodi beth, yn ei barn hi, yw’r bygythiadau cenedlaethol ar y pryd a’r galluoedd plismona cenedlaethol sydd eu hangen er mwyn mynd i’r afael â nhw.
Rôl y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd
Mae deddfwriaeth yn galluogi'r Comisiynydd i benodi Dirprwy ac i ddirprwyo swyddogaethau a chyfrifoldebau penodol i'r unigolyn hwnnw.
Rôl y Dirprwy, wrth weithio gyda staff eraill y Comisiynydd, yw dirprwyo a chynorthwyo'r Comisiynydd wrth gynnal ei swyddogaethau yn cynnwys:-
a. Gweithredu fel cyswllt lleol rhwng cymunedau a'r heddlu
b. Cynorthwyo mewn gosod cyllideb yr heddlu a'r praesept a phenderfynu sut y gwarir ar gyllidebau lleihau trosedd
c. Cynorthwyo mewn datblygu'r Cynllun Heddlu a Throsedd
d. Mynd i gytundebau cydweithredol yn ôl yr angen
e. Dwyn y Prif Gwnstabl yn atebol
f. Gweithio'n gydweithredol gyda phartneriaid diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol
Ni all y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd:
a. Cyhoeddi Cynllun Heddlu a Throsedd
b. Penderfynu ar amcanion yr heddlu
c. Mynd i gyfarfodydd y Panel Heddlu a Throsedd ar ran y Comisiynydd
d. Paratoi'r Adroddiad Blynyddol
e. Penodi neu wahardd y prif gwnstabl neu alw ar y prif gwnstabl i ymddeol neu ymddiswyddo
f. Gosod y praesept
Ceir proffil swydd y Dirprwy yma.
Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd
Mae Swyddfa’r Comisiynydd yng Ngogledd Cymru yn cynnwys tîm bach a arweinir gan y Prif Weithredwr. Yn unol â’r Ddeddf, mae’n ofynnol i’r Comisiynydd benodi Prif Weithredwr (sydd hefyd yn gweithredu fel Swyddog Monitro) a Phrif Swyddog Cyllid (sydd hefyd yn Swyddog Adran 151).
Mae’r tîm yn cynnwys arbenigwyr mewn comisiynu, delio gyda cwynion, polisi, perfformiad, gohebiaeth a chefnogaeth swyddfa. Ceir y strwythur staffio yma.
Mae’r holl staff a gyflogir gan y Comisiynydd (ar wahân i'r Dirprwy) wedi’u cyfyngu’n wleidyddol yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ac felly ni fydd y staff yn cefnogi ymgeisydd na deiliad Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Rôl y Prif Weithredwr
Mae swydd Prif Weithredwr yn rôl statudol.
Amlinellir cyfrifoldebau'r Prif Weithredwr ym mharagraff 6(a) Atodlen 1 Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011
Mae'r Prif Swyddog Gweithredol yn arwain Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd (SCHTh), gan ganolbwyntio ar gyflawni ystod lawn cynlluniau ac amcanion y Comisiynydd, gan reoli'r tîm o staff cyflogedig a gweithredu fel uwch swyddog y Comisiynydd. Y Prif Swyddog Gweithredol yw'r Swyddog Monitro hefyd a'r SPOC ar gyfer etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Manylir dyletswyddau'r Prif Swyddog Gweithredol yn y proffil swydd.
Rôl y Prif Swyddog Cyllid (PSC)
Mae swydd Prif Swyddog Cyllid yn rôl statudol.
Amlinellir cyfrifoldebau statudol y PSC ym mharagraff 6(b) Atodlen 1 Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ac adran 114 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
Amlinellir cymwysterau i'r PSC yn adran 113 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac, yng Nghymru'n unig, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliad Cymru 2005.
Gan ystyried yr holl ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'r rôl hon, manylir dyletswyddau'r PSC yn y proffil swydd.
Gweithio mewn Partneriaeth
Er mwyn creu Gogledd Cymru well a mwy diogel, a chynnal gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon yn yr ardal, bydd rhaid i'r Comisiynydd weithio'n agos â phartneriaid i sicrhau datrysiadau tymor hirach i broblemau trosedd ac anrhefn.
Mae creu partneriaethau effeithiol yn gonglfaen y gwaith a ymgymerir gan y Comisiynydd. Nid yw'r gwasanaeth heddlu ar ei ben ei hun yn ei waith i atal trosedd, lleihau niwed (a'r risg o niwed) a chyflawni ymateb effeithiol i'r cyhoedd. Mae gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth yn galluogi gwasanaethau gwell a mwy cynaliadwy i gael eu cyflawni gan holl bartneriaid cysylltiedig. Ymhellach at hyn, gall arwain at well gwasanaethau'n cael eu cyflwyno'n fwy cost effeithiol.
Gwnaiff y Comisiynydd weithio ar y cyd â llawer o wahanol fathau o sefydliadau er mwyn canolbwyntio ymdrechion yn strategol. Mae hyn er mwyn sicrhau fod gweithio mewn partneriaeth fwy trefnus yn cyflwyno gwasanaethau gwell i bobl Gogledd Cymru.
Am fwy o wybodaeth ar drefniadau presennol gweithio mewn partneriaeth a chydweithrediadau, cliciwch yma.
Llywodraethu
Rhoddir Datganiad Llywodraethu Blynyddol bob blwyddyn yn y Datganiad o Gyfrifon , mae'r Datganiad Llywodraethu yn rhoi gwybodaeth ar fusnes y flwyddyn flaenorol.
Cynhelir gwiriadau rheolaidd ar drefniadau llywodraethu ar gyfer y Comisiynydd a Heddlu Gogledd Cymru yn rheolaidd ac cânt eu craffu yn y Bwrdd Llywodraethu ar y Cyd. Mae'r Bwrdd hwn yn cynnwys swyddogion allweddol o'r ddau sefydliad ac yn mynd ag adroddiadau i Bwyllgor Archwilio ar y Cyd.
Mae'r sefydliad hefyd wedi sefydlu Pwyllgor Archwilio ar y Cyd i roi sicrwydd annibynnol i'r Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl ar ddigonolrwydd y fframwaith rheoli risg, yr amgylchfyd rheolaeth fewnol ac uniondeb yr adrodd ariannol a'r prosesau llywodraethu blynyddol.
Sefyllfa ariannol
Gwnaiff Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau a PSC yr Heddlu roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa ariannol y sefydliad yn y Diwrnod Briffio ar 27 Mawrth 2024. Bydd y gyllideb net ar gyfer 2024/25 yn £200.281m, o'i gymharu â £189.959m yn 2023/24. Mae'r gwahaniaeth o £10.211m yn cynnwys chwyddiant o £16.270m; twf o £2.166m; £0.776m i warchod rhifau PCSO â'r rhaglen cyswllt ysgolion llai na £3.171m o arbedion wedi'u nodi; a £4.179m o gyfraniad cyfalaf ychwanegol mewn modd grantiau.
Ar adeg yr ysgrifennwyd yr adroddiad hwn, nid yw'r sefyllfa ariannol ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn hysbys. Disgwylir y bydd adolygiad o wariant yn digwydd yn ystod 2024/25, a gall hyn gael ei ddilyn gan adolygiad o Fformiwla Ariannu Heddluoedd. Bydd yr adolygiad o wariant yn penderfynu faint o arian sydd gan y Swyddfa Gartref i wario ar blismona. Mae'r Fformiwla Ariannu Heddluoedd yn penderfynu pa gyfran o'r grant sy'n cael ei neilltuo ar gyfer bob Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Ceir gwybodaeth fanwl am gyllid y Comisiynydd a Heddlu Gogledd Cymru ar wefan y Comisiynydd yma.
Comisiynu
Mae deddfwriaeth yn gorchymyn y Comisiynydd i gadw cronfa'r heddlu, gosod a rheoli'r gyllideb ar gyfer plismona, dyfarnu grantiau a mynd i gytundebau ar gyfer cyflenwi nwyddau a gwasanaethau. Yn ogystal â hynny mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014 yn grymuso Comisiynwyr Heddlu a Throsedd i gomisiynu gwasanaethau lleol i helpu dioddefwyr, tyst trosedd,neu unigolyn sydd wedi eu effeithio gan trosedd neu ynddygiad ac hefyd i helpu ddosbarthu y blaenoriaethau plismona.
Yng Ngogledd Cymru mae'r grantiau wedi cael eu defnyddio i sefydlu llawer o wasanaethau yn cynnwys y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr, CheckPoint Cymru a'r Ganolfan Ymosodiad Rhywiol a Thrais Rhywiol.
Ceir manylion llawn o'r gwasanaethau a gomisiynwyd yn y flwyddyn ariannol hon yma.
Mae’r cyngor seiberddiogelwch canlynol wedi’i guradu i ddarparu ymwybyddiaeth, cyngor ac argymhellion i Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd sy’n cymryd rhan mewn etholiadau ledled y DU ym mis Mai 2024. (dogfen Saesneg)
Dogfennau a gwefannau pwysig
Adroddiadau cyllid, yn cynnwys Datganiad Cyfrifon a Strategaeth Ariannol Tymor Canolig
Adroddiadau Cydbwyllgor Archwilio
Adroddiadau Arolygaeth Heddluoedd Ei Mawrhydi (AHEM)
Cydweithredu a Gweithio mewn partneriaeth
Cofnod Datgeliadau Rhyddid Gwybodaeth
Cynllun Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol
Cysylltiadau i broffiliau eraill
Heddlu Gogledd Cymru
Panel Heddlu a Throsedd
Swyddfa Gartref
Arolygiaeth Heddluoedd a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS)
Cymdeithas Comisiynwyr Heddlu a Throsedd
Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu (CCPSH)
Coleg Plismona
Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IOPC)
Ffederasiwn yr Heddlu
Cymdeithas Uwcharolygyddion yr Heddlu
Comisiynydd Etholiadol
Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned Gogledd Cymru
Gwybodaeth ychwanegol a ddarperir i ymgeiswyr
Cofrestr ceisiadau am wybodaeth
Dyddiad | Enw | Cais | Datgeliad | Gwrthod | Nodiadau |
25.03.24 | N/A | N/A | "Action for Children" wedi cyhoeddi ei adolygiad am gamfanteision droseddol ar blant. | N/A | Jay Review |
26.03.24 | N/A | N/A | Papur Briffio gan Uned Cyswllt yr Heddlu | N/A | Papur Briffio |
02.04.24 | N/A | N/A | Cyflwyniad Diwrnod Briffio | N/A | Cyflwyniad |
08.04.24 | AG | Do | Gwybodaeth am y ddalfa a diogelwch ar y ffyrdd | Naddo | Ateb yn Saesneg yn unig |
16.04.24 | AG | Do | Dechrau Newydd | Naddo | Adroddiad Blynyddol |
16.04.24 | N/A | N/A | Ymweliadau y Ddalfa | N/A | Linc gwefan |
16.04.24 | N/A | N/A | Dogfen APCC - Rôl a Chyfrifoldebau y Comisiynydd | Linc gwefan (Saesneg yn unig) | |
16.04.24 | AG | Do | Cyfiawnder adferiedydd | Naddo | Ateb yn Saesneg yn unig |